Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

MoesoldebDysgeidiaethau Iesu

Archwilia beth mae'r Iesu yn ei ddysgu am foesoldeb, gan gynnwys cariad a maddeuant a'r gwahanol ymagweddau at wneud penderfyniadau.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Dysgeidiaethau Iesu

Y Rheol Euraidd

Mae un o'r prif ddysgeidiaethau Cristnogol am foesoldeb a sut i drin pobl eraill yn dod o ddysgeidiaeth Iesu o'r .

Mae'r Rheol Euraidd yn dweud wrth Gristnogion am drin pobl eraill fel bydden nhw'n hoffi cael eu trin eu hunain.

Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.
— Mathew 7:12
Am hynny, os ydych chwi... yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y Nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!
— Mathew 7:11

Bywyd ar ôl marwolaeth

Dysgodd Iesu ei ddilynwyr y bydd pobl sy'n byw bywydau da ac yn dilyn ei ddysgeidiaeth yn cael eu gwobrwyo â bywyd yn nheyrnas Duw. Dysgodd Iesu hefyd y bydd pobl sy'n cyflawni pechodau ac yn cefnu ar Dduw yn cael eu cosbi'n dragwyddol yn Uffern. Mae Iesu hefyd yn dysgu nad yw'r llwybr i dragwyddoldeb gyda Duw yn un hawdd. Mae'r llwybr i Uffern, ar y llaw arall, yn un haws ac felly mae llawer iawn mwy o bobl yn dilyn y ffordd hon.

Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael.
— Mathew 7:13-14

Dysgodd Iesu y dylai pobl fyw eu bywydau mewn ffordd foesol, nid dim ond i gael bywyd tragwyddol gyda Duw, ond oherwydd dylai bodau dynol geisio gwneud gweithredoedd da er mwyn cael boddhad a helpu pobl eraill.

Mae Cristnogion yn credu bydd Iesu yn barnu ymddygiad pobl ac y byddant yn cael eu cosbi, nid yn unig am bechu, ond hefyd am beidio â gwneud pethau da.

Dameg y Defaid a'r Geifr

Yn llawer o ddamhegion Iesu, gan gynnwys Dameg y Defaid a'r Geifr, mae Iesu yn dysgu am yr hyn fydd yn digwydd ar ddiwedd amser. Bydd pob unigolyn o'r dynol ryw yn cael eu barnu ar y ffordd maen nhw wedi byw ac wedi ymddwyn. Mae Dameg y Defaid a'r Geifr yn rhoi darlun o sut bydd bodau dynol yn cael eu rhannu ar ddiwedd amser adeg Dydd y Farn.

Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant... bydd yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr i'r chwith.
— Mathew 25:31-33

Mae damhegion Iesu ar fywyd a marwolaeth yn egluro'r canlynol:

  • mae pob unigolyn yn gyfrifol am ble mae'n diweddu ar ôl marw
  • mae pob unigolyn yn gyfrifol am sut mae'n byw ei fywyd
  • bydd y ffordd mae unigolion yn dilyn ewyllys Duw, yn pennu lle byddan nhw'n treulio tragwyddoldeb
Trending Now