Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Sgiliau mapio – CBACDefnyddio a deall mapiau’r Arolwg Ordnans

Mae mapiau’n cynrychioli’r byd go iawn. Mae mapiau mewn atlas yn dangos ardaloedd mawr ac mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dangos ardaloedd llai mewn mwy o fanylder. Mae bras-fapiau, lluniau lloeren, ffotograffau, mapiau'r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a mapiau daeareg yn ddefnyddiol.

Part of DaearyddiaethSgiliau map

Defnyddio a deall mapiau’r Arolwg Ordnans

Yr (OS) yw asiantaeth mapio’r Deyrnas Unedig. Mae’n creu a mapiau papur cyfredol i unigolion a busnesau eu defnyddio.

Sut mae defnyddio map OS, gan ddefnyddio cyfeirnodau grid a graddfa. (Cynnwys Saesneg)

Defnyddio allwedd

Mae mapiau OS yn dangos nodweddion ffisegol a dynol fel symbolau. Mae hyn yn gwneud y mapiau’n haws eu darllen. Mae gan bob map OS allwedd i ddangos beth yw ystyr y symbolau.

Mae mapiau OS yn defnyddio symbolau safonol. Er enghraifft, mae croes yn cynrychioli addoldy. Mae triongl coch yn cynrychioli hostel ieuenctid. Mae symbol tebyg i oleudy yn cynrychioli goleudy.

Graddfa a phellter

Mae gwrthrychau ar fapiau’n llawer llai nag ydyn nhw go iawn. Yr enw ar y berthynas rhwng maint nodwedd ar y map a’i faint go iawn yw . Mae graddfa yn cael ei dangos fel cymhareb, ee mae 1:25,000 yn golygu bod 1 cm ar y map yn cynrychioli 25,000 cm neu 250 m go iawn.

Mae gwahanol raddfeydd i’w cael gyda mapiau OS:

  • Mapiau graddfa fawr – 1:1,250, 1:2,500 ac 1:10,000. Mae nodweddion yn ymddangos yn fwy ar y map. Mae modd defnyddio’r rhain ar gyfer trefi a dinasoedd unigol.
  • Graddfa fach – 1:25,000, 1:50,000 ac 1:100,000. Mae nodweddion yn ymddangos yn llai ar y map. Mae modd defnyddio’r rhain i ddangos ardaloedd neu ranbarthau mwy.

I ddangos graddfa graffig, mae llinell hir yn cael ei defnyddio, gyda llinellau llai ar ei hyd yn marcio’r pellteroedd, yn debyg i bren mesur.

Mae graddfa’n dangos beth yw’r pellter ar y map mewn bywyd go iawn, ee 2 cm ar y map = 1 km ar y tir.

Cyfeirnodau grid pedwar a chwe ffigur

Mae yn pennu lleoliad pethau’n fanwl gywir ar fap. Mae grid ar bob map OS, mewn llinellau glas ysgafn. yw’r llinellau ar draws waelod y map, gan eu bod yn teithio tua’r dwyrain. yw’r llinellau i fyny ochr y map, gan eu bod yn teithio tua’r gogledd.

Mae cyfeirnodau grid pedwar ffigur yn lleoli gwrthrychau neu lefydd mewn sgwâr grid, ac fel hyn mae eu canfod:

  1. Yn gyntaf, noda rif y dwyreiniad sydd yng nghornel chwith isaf y sgwâr (mae’r dwyreiniadau i’w gweld ar waelod y map). Bydd y rhif yn cynnwys dau ddigid, ee 13.
  2. Wedyn, noda rif y gogleddiad sydd yng nghornel chwith isaf y sgwâr (mae’r gogleddiadau i’w gweld ar ochr y map). Bydd y rhif hwn yn cynnwys dau ddigid arall, sy’n rhoi cyfanswm o 4. Dyma pam maen nhw’n cael eu galw’n gyfeirnodau grid pedwar ffigur.

Mae cyfeirnodau grid chwe ffigur yn lleoli gwrthrychau neu lefydd mewn rhan benodol o sgwâr grid, ac fel hyn mae eu canfod:

  1. Noda ddau rif y dwyreiniad o’r ffigur pedwar digid, ond ychwanega drydydd rhif i ddangos sawl degfed ar draws sgwâr y grid mae’r lle neu’r gwrthrych.
  2. Noda ddau rif y gogleddiad o’r ffigur pedwar digid, ond ychwanega drydydd rhif i ddangos sawl degfed i fyny sgwâr y grid mae’r lle neu’r gwrthrych.
Diagram yn dangos cyfeirnod grid 4 ffigur, a chyfeirnod grid 6 ffigur.

Cyfuchliniau a phwyntiau uchder

Ar fap, mae uchder ei cael ei ddangos mewn metrau uwchlaw lefel y môr. Mae pwyntiau uchder yn dangos uchder pwyntiau penodol ar y map.

Mae yn cael eu hychwanegu at fapiau i ddangos uchder a . Ar fapiau OS, llinellau brown neu oren tenau yw’r rhain, ac mae uchder y tir wedi’i nodi ar rai ohonyn nhw. Mae’r llinellau’n cysylltu ardaloedd â’r un uchder.

  • Mae cyfuchliniau sy’n agos i’w gilydd yn dangos tir ag uchder sy’n codi neu’n gostwng yn gyflym. Mae hwn yn dir serth.
  • Mae cyfuchliniau sy’n bell oddi wrth ei gilydd yn dangos tir ag uchder sy’n codi neu’n gostwng yn raddol. Mae’r tir hwn ar fymryn o ogwydd.

Gallwn ni ddefnyddio cyfuchliniau i greu diagramau o groestoriad tirwedd. Mae hyn yn ein helpu i gyfateb cyfuchliniau ar y map â nodweddion o’r dirwedd go iawn, ee bryniau, cymoedd ac yn y tir.

Ar fap cyfuchlinol, mae’r llinellau’n dangos ardaloedd â’r un uchder. Mae llinellau agos i’w gilydd yn dangos bod llethr serth.

Mae croestoriadau o ddyfnder afonydd yn cael eu dangos gan ddefnyddio rhifau negyddol, fel bod y graff llinell yn dangos dyfnder yn hytrach nag uchder.

Graff croestoriad ar gyfer afon.
Figure caption,
Graff wedi’i liwio i edrych fel darlun o groestoriad yw graff croestoriad, ee ar gyfer afon, echelin x yw’r lled ac echelin y yw’r dyfnder. Mae lled yr afon yma’n 2.5 m a’r dyfnder yn 1.5 m

Sut i ddeall cyfuchliniau. (Cynnwys Saesneg)

Trending Now