Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Sgiliau mapio – CBACMapiau: System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

Mae mapiau’n cynrychioli’r byd go iawn. Mae mapiau mewn atlas yn dangos ardaloedd mawr ac mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dangos ardaloedd llai mewn mwy o fanylder. Mae bras-fapiau, lluniau lloeren, ffotograffau, mapiau'r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a mapiau daeareg yn ddefnyddiol.

Part of DaearyddiaethSgiliau map

Dehongli mapiau gan ddefnyddio’r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

Mapiau’r System Gwybodaeth Ddaearyddol

Mapiau digidol gyda haenau o ddata wedi eu hychwanegu atyn nhw yw mapiau’r (GIS). Mae modd newid mapiau GIS i ddangos gwybodaeth benodol am le. Mae'r haenau o wybodaeth yn gallu cynnwys:

  • graddliwio ardaloedd – rhannau o’r map yn cael eu graddliwio i ddangos patrymau
  • graffiau – siartiau bar, siartiau cylch a symbolau cyfrannol yn cael eu gosod ar yr haenau
  • ffotograffau – mae modd ychwanegu ffotograffau at bwyntiau ar y map
  • llinellau llif – llinellau sy’n dangos symudiad rhwng llefydd
Trending Now