Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Yr atmosffer a’r amgylcheddLefelau ocsigen a charbon deuocsid yn yr atmosffer

Mae cyfansoddiad yr atmosffer wedi newid ers i'r Ddaear ffurfio 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae prosesau naturiol a gweithgareddau dynol wedi newid ein hatmosffer, ac yn dal i'w newid heddiw.

Part of CemegY Ddaear sy'n newid yn barhaus

Cynnal lefelau ocsigen a charbon deuocsid yn yr atmosffer

Mae canran yr ocsigen yn yr atmosffer wedi aros bron yn gyson am filoedd o flynyddoedd. Mae hyn oherwydd tair proses bwysig sy'n digwydd ar yr un pryd â'i gilydd, gan wrthbwyso unrhyw newidiadau.

  • Resbiradaeth – mae bron bob cell fyw'n defnyddio ocsigen i gael egni o'i bwyd drwy resbiradu. Mae'r broses hon yn cymryd ocsigen o'r atmosffer ac yn rhyddhau carbon deuocsid.
  • Hylosgiad – pryd bynnag mae defnydd organig, fel pren neu wair, yn llosgi, mae ocsigen yn adweithio â'r carbon a'r hydrogen yn y defnydd, gan ryddhau gwres a golau ar ffurf tân. Mae'r broses hon yn cymryd ocsigen o'r atmosffer ac yn rhyddhau carbon deuocsid.
  • Ffotosynthesis – mae planhigion yn defnyddio proses ffotosynthesis i gynhyrchu eu bwyd eu hunain ar ffurf glwcos. Mae'r broses hon yn defnyddio golau'r haul (felly dim ond yn ystod y dydd mae'n digwydd) i dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer a rhyddhau ocsigen.

Yn y rhai miloedd o flynyddoedd diwethaf, mae'r tair proses hyn wedi bod yn gytbwys, gan gynnal lefelau ocsigen o gwmpas 21 y cant.

Cynnydd yn lefelau carbon deuocsid

Yn y tua can mlynedd diwethaf, mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at gynyddu lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • llosgi tanwydd ffosil – mae'r broses hon yn ychwanegu carbon deuocsid at yr atmosffer yn gyflymach nag mae ffotosynthesis yn gallu cael gwared ag ef
  • twf poblogaethau bodau dynol ac anifeiliaid – mae hyn wedi cynyddu cyfanswm lefel resbiradaeth, gan gynyddu lefelau carbon deuocsid
  • datgoedwigo – torri darnau mawr o goedwigoedd a choedwigoedd glaw i gael adnoddau fel pren ac i ddefnyddio'r tir fel tir fferm, sy'n golygu bydd llai o ffotosynthesis yn digwydd ac felly bydd llai o garbon deuocsid yn cael ei dynnu o'r atmosffer

Mae'r cynnydd yn y lefelau carbon deuocsid oherwydd y ffactorau hyn wedi cael ei gysylltu â'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang, effaith o'r enw .

More guides on this topic

Trending Now