Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Mudo – CBACEffaith mudo yn y DU

O ganlyniad i fudo, mae strwythur poblogaeth y DU wedi newid llawer iawn o safbwynt cyfansoddiad ethnig. Mae mudo gwirfoddol a gorfodol yn digwydd am sawl rheswm.

Part of DaearyddiaethCysylltiadau gwledig-trefol

Effaith mudo yn y DU

Mae’r DU wedi gweld sawl ton o fudo, er enghraifft:

  • 1850au o Iwerddon, dianc rhag newyn
  • 1940au ymlaen o India, Pacistan a Bangladesh, dianc rhag rhyfel cartref a chwilio am waith
  • 1950au o India’r Gorllewin, chwilio am waith
  • 1972 Asiaid Ugandaidd, dianc rhag erledigaeth gwleidyddol
  • 2004 ymlaen o ddwyrain Ewrop, yn enwedig Gwlad Pwyl, chwilio am waith o ganlyniad i ehangu’r UE

Heddiw, India yw’r wlad sydd â’r nifer mwyaf o fudwyr yn ei gadael i ddod i’r DU, ond mae llawer o fewnfudwyr yn dod o wledydd eraill hefyd, fel Pacistan, Iwerddon a Gwlad Pwyl.

Yn 2011, roedd 13 y cant (7.5 miliwn) o drigolion Cymru a Lloegr wedi cael eu geni y tu allan i’r DU.

Ffeithlun yn dangos poblogaethau cyfrifiad heb gael eu geni yn y DU (1951-2011).
Figure caption,
Yn 2011, roedd y rhan fwyaf o breswylwyr Cymru a Lloegr nad oeddent wedi cael eu geni yn y DU wedi cael eu geni yn India, Gwlad Pwyl neu Bacistan

Mae mudo yn arwain at ganlyniadau diwylliannol ac economaidd i wlad, a all fod yn gadarnhaol ac yn negyddol.

Effeithiau cadarnhaol

  • Llenwi bylchau mewn sgiliau.
  • Mae pobl sy’n gweithio’n galed o fudd i’r economi.
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus yn elwa, ee gweithwyr yn y GIG.
  • Mae refeniw treth y llywodraeth yn cynyddu.
  • Mae diwylliant yn cael ei gyfoethogi, ee bwydydd a gwyliau’r byd.
  • Mae grwpiau o fewnfudwyr yn hybu’r gyfradd genedigaethau.

Effeithiau negyddol

  • Mae twf yn y boblogaeth yn medru rhoi pwysau ar wasanaethau, tai a seilwaith er mwyn darparu ar gyfer mwy o bobl.
  • Gall drwgdeimlad ddatblygu rhwng y boblogaeth wreiddiol a grwpiau o fewnfudwyr, ee efallai y bydd pobl leol yn teimlo bod ganddyn nhw lai o gyfleoedd i gael gwaith oherwydd bod mwy o gystadleuaeth.
  • Mae mewnfudwyr yn tueddu i fod wedi eu lleoli gyda’i gilydd mewn ardaloedd dinesig mawr.
  • Efallai na fydd grwpiau o fewnfudwyr yn i mewn i gymunedau lleol.
  • Anghydbwysedd rhwng dynion a merched - fel arfer mae mwy o ddynion yn mudo.

Mae llawer o bobl yn gadael y DU bob blwyddyn hefyd. Mae Awstralia, De Affrica, Sbaen a’r UDA yn gyrchfannau poblogaidd. Mae pobl yn symud er mwyn cael gwaith a chyfleoedd addysgol. Mae rhai’n ymddeol i wlad fel Sbaen er mwyn cael hinsawdd cynhesach a sychach.

Trending Now