Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Mudo – CBACAstudiaeth achos - gweithwyr o Wlad Pwyl

O ganlyniad i fudo, mae strwythur poblogaeth y DU wedi newid llawer iawn o safbwynt cyfansoddiad ethnig. Mae mudo gwirfoddol a gorfodol yn digwydd am sawl rheswm.

Part of DaearyddiaethCysylltiadau gwledig-trefol

Astudiaeth achos - gweithwyr o Wlad Pwyl

Ymunodd Gwlad Pwyl â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn Ebrill 2004. Mae’r UE yn caniatáu i weithwyr symud o gwmpas yn rhydd (mudo) o fewn y gwledydd sy’n aelodau ohoni. Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif bod bron i 1,000,000 o bobl sydd wedi cael eu geni yng Ngwlad Pwyl yn byw yn y DU ers i Wlad Pwyl ymuno â’r UE yn 2004.

Tafarn Bwylaidd Gospoda yn Reading. Mae arwydd â geiriau Pwyleg arno yn hysbysebu bwyd a diod o wlad Pwyl.

Rhesymau

Ffactorau gwthio

  • Roedd diweithdra yng Ngwlad Pwyl bron yn 20% yn 2004.
  • Roedd incwm bedair gwaith yn llai yng Ngwlad Pwyl nag yn y DU.

Ffactorau tynnu

  • Awydd i brofi bywyd dramor a dysgu Saesneg.
  • Swyddi yn y DU - yn enwedig ym meysydd hamdden, adeiladu a ffermio.

Effaith ar y DU

Manteision

  • Yn dod â sgiliau amrywiol.
  • Yn cyfrannu tua £2.5 biliwn y flwyddyn tuag at dwf yr economi.
  • 80 y cant o fudwyr rhwng 18 a 35 oed, sy’n gwrthbwyso poblogaeth hŷn y DU.

Pryderon

  • Tensiynau rhwng mudwyr a’r boblogaeth leol.
  • Y rhan fwyaf o fudwyr yn ddynion 18-34 oed.
  • Ysgolion, ysbytai a gwasanaethau eraill yn cael eu rhoi dan bwysau.
  • Prisiau eiddo yn codi, oherwydd cynnydd yn y galw am dai.
  • Arian yn cael ei anfon allan o’r wlad, yn ôl i Wlad Pwyl.

Datblygiad diweddar 1

Ym Mehefin 2016 pleidleisiodd y DU dros adael yr Undeb Ewropeaidd drwy broses sy’n cael ei galw nawr yn . Mae rhai adroddiadau yn y cyfryngau’n awgrymu bod llawer o Bwyliaid yn dechrau symud yn ôl i Wlad Pwyl nawr gan eu bod yn ofni na fyddan nhw’n gallu aros yn y DU. Roedd un adroddiad ym mhapur newydd The Sun yn awgrymu bod hyd at 200,000 o’r 1 miliwn o Bwyliaid sy’n byw yn y DU bellach yn mynd yn ôl i Wlad Pwyl, ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardaloedd trefol Pwylaidd mewn trefi a oedd ar un adeg yn dirywio.

Cofiwch y gallai’r stori hon fod yn unochrog neu’n anghywir. Mae'r adroddiad ym mhapur newydd The Sun yn seiliedig ar ganfyddiadau newyddiadurwr ac nid o reidrwydd ar data swyddogol.

Datblygiad diweddar 2

Ym Mehefin 2017 mae ffigurau swyddogol a gafodd eu rhyddhau gan y GIG yn dangos bod gostyngiad o 96 y cant wedi bod yn nifer y nyrsys o’r UE sy’n gwneud cais i weithio yn y DU ers pleidlais Brexit. Mae ffigurau sydd wedi eu casglu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn dangos bod nifer yr ymgeiswyr newydd o’r UE wedi gostwng o 1,304 ym mis Gorffennaf 2016 i ddim ond 46 ym mis Ebrill 2017.

Wrth ymdrin ag adroddiadau ac ystadegau fel y rhai sy’n cael eu cyflwyno yma, rhaid i ddisgyblion ddeall bod gwahanol ffynonellau yn awgrymu pethau amrywiol ac nad oes sicrwydd eu bod yn wir.

Trending Now