Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

TebygolrwyddGraddfa tebygolrwydd

Mathemateg siawns ydy tebygolrwydd. Rhif ydy tebygolrwydd sy’n dweud wrthot ti pa mor debygol y mae rhywbeth o ddigwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiwn, degolyn neu ganran.

Part of MathemategTebygolrwydd

Graddfa tebygolrwydd

Disgrifio tebygolrwydd

Yn aml byddwn ni’n ffurfio barn ynghylch a fydd rhywbeth yn digwydd, ac yn defnyddio geiriau i ddisgrifio pa mor debygol ydy'r digwyddiad. Er enghraifft, gallen ni ddweud ei bod yn debygol y bydd yr haul yn codi yfory, neu ei bod yn amhosib dod o hyd i rywun sydd dros \({3}~{m}\) o daldra.

Graddfa tebygolrwydd

Mae mathemateg yn defnyddio rhifau i ddisgrifio tebygolrwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiynau, degolion neu ganrannau. Gelli di hefyd ddefnyddio graddfa tebygolrwydd, yn dechrau ar \({0}\) (amhosib) ac yn gorffen ar \({1}\) (sicr).

Dyma ddigwyddiadau wedi eu gosod ar raddfa tebygolrwydd.

Diagram graddfa tebygolrwydd

More guides on this topic

Trending Now