Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Llinyn Trôns gan Bethan GwanasYmarferion ysgrifenedig

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Ymarferion ysgrifenedig

Dychmyga mai ti ydy un o’r cymeriadau. Ysgrifenna ddyddiadur, ymson, llythyr personol neu ebost o safbwynt y cymeriad hwnnw.

Profa dy wybodaeth a dealltwriaeth o’r nofel a cheisia:

  • gyflwyno cymaint o ffeithiau ag y galli di o’r nofel
  • cyfeirio at ddigwyddiadau penodol o’r nofel
  • dangos sut wyt ti (y cymeriad) yn teimlo am y cymeriadau eraill

Rho gynnig ar y cwestiwn hwn:

Question

Dychmyga mai ti ydy Gwenan. Ysgrifenna ddyddiadur cyn mynd i’r gwely ar noson y disgo. Dylet ysgrifennu tua ¾ tudalen A4.

Nawr mae gofyn i ti fanylu ar ddigwyddiad neu olygfa felly mae’n bwysig dy fod ti’n gwbl gyfarwydd â golygfeydd allweddol yn y nofel.

Rho gynnig ar y cwestiwn hwn:

Question

Disgrifia un olygfa sy’n dangos Gags a Nobi yn ffraeo. Pam mae’r olygfa honno’n bwysig?

  • Ceisia roi cymaint o fanylion ag sy’n bosib am yr olygfa gan gynnwys ambell ddyfyniad os wyt ti’n cofio rhai, yn enwedig geiriau rhai o’r cymeriadau yn y ddeialog.

Trending Now