Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Llinyn Trôns gan Bethan GwanasY cymeriadau: Olwen

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Olwen

  • Merch dlws ond mae Llion yn cymharu ei phennau-gliniau i rai buwch!
  • Ffrind i Gwenan ers yr ysgol gynradd ond yn credu mai hi ydy’r ffrind hyll.
  • Galluog iawn ac mae hi’n cael canlyniadau TGAU gwych.
  • Merch i weinidog ond, er hyn, mae hi’n yfed fodca gyda Gwenan y tu allan i’r disgo.
  • Aelod o’r tîm hoci ac mae hi’n gystadleuol iawn.
  • Cariad Llion ar ddiwedd y nofel.
NodweddRheswmDyfyniad
CystadleuolMae elfen o gystadleuaeth yn bodoli rhwng Nobi/Gags ac Olwen drwy gydol y cwrs, ee wrth ddringo’r graig, wrth gyfnewid canŵ.'... roedd Olwen wedi dechrau mynd fel diawl – a Gags. Typical, mentaliti tîm hoci a rygbi, isio curo pawb o hyd.'
HeriolEr ei bod hi’n ferch i weinidog ac felly wedi cael ei magu’n dda, mae hi’n dal i dorri’r rheolau drwy yfed fodca gyda Gwenan ar noson y disgo.'Mi sbiais yn wirion arni. Wnes i ’rioed ddychmygu y byddai hi’n yfed. Mae ei thad hi’n weinidog wedi’r cwbl. Ond rheiny sydd waetha yn de?'
HeiniHi ydy capten y tîm hoci.'Dw i’n cofio sylwi bod ganddi bennau-gliniau fel buwch pan welis i’r tîm yn ymarfer ryw dro. Wyneb reit ddel, ond coesau diawledig.'
NodweddCystadleuol
RheswmMae elfen o gystadleuaeth yn bodoli rhwng Nobi/Gags ac Olwen drwy gydol y cwrs, ee wrth ddringo’r graig, wrth gyfnewid canŵ.
Dyfyniad'... roedd Olwen wedi dechrau mynd fel diawl – a Gags. Typical, mentaliti tîm hoci a rygbi, isio curo pawb o hyd.'
NodweddHeriol
RheswmEr ei bod hi’n ferch i weinidog ac felly wedi cael ei magu’n dda, mae hi’n dal i dorri’r rheolau drwy yfed fodca gyda Gwenan ar noson y disgo.
Dyfyniad'Mi sbiais yn wirion arni. Wnes i ’rioed ddychmygu y byddai hi’n yfed. Mae ei thad hi’n weinidog wedi’r cwbl. Ond rheiny sydd waetha yn de?'
NodweddHeini
RheswmHi ydy capten y tîm hoci.
Dyfyniad'Dw i’n cofio sylwi bod ganddi bennau-gliniau fel buwch pan welis i’r tîm yn ymarfer ryw dro. Wyneb reit ddel, ond coesau diawledig.'
Trending Now