Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Bywyd yn ystod blynyddoedd y DirwasgiadBuddion bywyd yn ystod y Dirwasgiad

Roedd y dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Buddion bywyd yn ystod y Dirwasgiad

Deddf yr Ardaloedd Arbennig (1934)

Roedd hwn yn ddull allweddol a gyflwynwyd gan y llywodraeth i ddarparu cymorth i’r ardaloedd oedd yn dioddef waethaf yn ystod y Dirwasgiad.

Roedd y Ddeddf yn penodi dau gomisiynydd i fod yn gyfrifol am grantiau gwerth £2 filiwn (sy’n werth tua £130 miliwn heddiw) er mwyn annog cwmnïau i symud i ardaloedd arbennig. Erbyn 1938 gwariwyd dros £8 miliwn, ond dim ond tua 14,900 o swyddi newydd a grëwyd. Roedd y ddeddf hefyd yn annog ailhyfforddi ac yn cefnogi gweithwyr oedd yn symud i drefi eraill.

Y syniad oedd y byddai ffatrïoedd yn cael eu lleoli gyda’i gilydd i ffurfio ystâd fasnachu. Enw’r mwyaf o’r rhain, a agorwyd ym Mehefin 1936, oedd Stad Ddiwydiannol Trefforest, sydd rhwng Pontypridd a Chaerdydd. Erbyn 1939, dim ond 2,500 oedd yn cael eu cyflogi yno. Ni allai’r diwydiannau ysgafn ar yr ystadau yma amsugno’r holl bobl ddi-waith o ardaloedd y pyllau glo ac adeiladu llongau. Ond, parhaodd y llywodraeth i fuddsoddi yn yr ystâd ddiwydiannol, ac erbyn 1945, roedd 16,000 o bobl yn gweithio ar Stad Ddiwydiannol Trefforest.

Criw mawr o weithwyr yn ymgasglu i ganu yn gyfeiliant i acordion.
Image caption,
Gweithwyr ar Stad Ddiwydiannol Trefforest yn cynnal cyngerdd wrth ddisgwyl am Ddug a Duges Caint, 20 Hydref 1937

Cafwyd rhai newidiadau positif yn hanes rhai pobl ym Mhrydain yn ystod y cyfnod caled yma. Adeiladodd cynghorau 500,000 o dai cyngor a oedd wedi chwistrellu arian i’r economi.

Ond, dim ond pobl o’r dosbarth canol neu uwch oedd yn elwa, neu ardaloedd na effeithiwyd yn ddrwg arnyn nhw gan y Dirwasgiad. Roedd rhai pobl, yn arbennig yn ne Lloegr, wedi mynd yn gyfoethocach yn ystod y Dirwasgiad. Cafodd dulliau masgynhyrchu eu defnyddio mewn nifer o ddiwydianau ysgafn.

Buddion i bobl gyfoethog

Hurbwrcasu - roedd prynu ar gredyd a phrynu nawr a thalu wedyn yn caniatáu i bobl gael pethau moethus ‘byth bythoedd’.

Graffeg o gar sy’n dangos gwybodaeth ariannol ar gyfer hurbrynu – 20% o flaendal, 48 o daliadau dros 4 blynedd.

Gostyngodd prisiau yn ystod y Dirwasgiad, a oedd yn golygu bod mwy o arian gan rai i brynu pethau moethus

Graffeg sy’n dangos sut wnaeth prisiau ddisgyn yn ystod y Dirwasgiad am nwyddau amrywiol fel bara, llaeth a glo.

Lleihaodd maint teuluoedd, a oedd yn golygu bod mwy o arian gan rai i brynu pethau moethus

Teulu nodweddiadol yn y 1920au a’r 1930au. Roedd llai o blant yn y 1930au yn golygu mwy o arian ar gyfer nwyddau moethus fel sugnwr llwch, peiriant golchi a radio.

Gwelliannau yn y gwaith megis lleihau oriau gwaith, gwyliau â thâl

Ffactorau amrywiol a wellodd amodau gwaith yn ystod y Dirwasgiad – trydan, oriau gwaith a gwyliau.
Traeth yn llawn pobl. Gellir gweld adeilad, clogwyni a phromenâd yn y cefndir. Mae cychod yn disgwyl ar y glannau.

Daeth trefi glan y môr i fod yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd. Dyma lun o draeth prysur Bournemouth, 1931

Traeth yn llawn pobl. Gellir gweld adeilad, clogwyni a phromenâd yn y cefndir. Mae cychod yn disgwyl ar y glannau.

Adeiladwyd tair miliwn o dai newydd yn y 1930au. Bu cynnydd o 1,200 y cant mewn tai oedd â thrydan

Rhes o dai, gyda pheilonau trydan yn y cefndir, i gyfleu bod 3 miliwn o dai i’w hadeiladu yn ystod y 1930au.

Cynnydd enfawr mewn perchnogion ceir

Dau gar yng nghefn gwlad gydag eglwys yn y cefndir.

Sugnwyr llwch, peiriannau golchi dillad, y radio a’r teledu cyntaf

Sugnwr llwch, peiriant golchi a radio yn ystod y Dirwasgiad.

Gwell cyfleusterau hamdden megis sinemâu, neuaddau dawns, pyllau nofio a gemau pêl-droed

Y cyfleoedd hamdden yn ystod y Dirwasgiad oedd neuaddau dawns, pyllau nofio a gemau pêl-droed.

Cyflwynwyd llaeth am ddim mewn ysgolion ar ôl 1934

Merch ysgol yn yfed trwy welltyn gyda chrêt llawn poteli llaeth wrth ei hymyl – roedd llaeth yn cael ei roi am ddim i blant ysgol ar ôl 1934.
Trending Now