Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Bywyd yn ystod blynyddoedd y DirwasgiadCyferbyniad ardaloedd

Roedd y dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Cyferbyniad ardaloedd

Roedd yna wahaniaeth mawr o ran lefelau'r dioddefaint yn y 1930au ym Mhrydain, a dywedodd yr hanesydd Bryn O’Callaghan bod yna ddwy Brydain yn y 1930au.

Yn sicr, roedd ardaloedd yr hen ddiwydiannau traddodiadol yn dioddef:

  • cloddio am lo, ee cwm Rhondda
  • cotwm, ee Swydd Gaerhirfryn
  • dur ac adeiladu llongau, ee Glannau Mersi a Jarrow

Cyfeiriodd Ellen Wilkinson, AS Jarrow, at Jarrow fel y dref a lofruddiwyd.

Ond, roedd effaith Dirwasgiad y 1930au yn sylweddol wahanol ac yn llai trallodus mewn ardaloedd oedd yn elwa o gyflogaeth yn y diwydiannau ysgafn newydd, ee cerbydau a nwyddau trydanol.

Roedd yr ardaloedd yma’n bennaf yng nghanolbarth a de-ddwyrain Lloegr, ac yn sgil hynny cawson nhw fanteision o ran gwell tai a chysylltiadau trafnidiaeth yn ogystal â chynnydd mewn cyflogaeth a gallu i brynu nwyddau.

Mae’r cyferbyniad yma yn ategu’r ddadl bod yna wahaniaeth amlwg rhwng profiadau de-ddwyrain Cymru a gogledd Lloegr a’r bobl oedd yn byw yn ardaloedd mwy ffyniannus canolbarth a de-ddwyrain Lloegr.

Trending Now