Prif weithredwr cyngor sir yn camu o'r neilltu

  • Cyhoeddwyd
Mark James
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Mark James yn ymgymryd â'i ddyletswyddau am y tro

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau y bydd y prif weithredwr Mark James yn camu o'r neilltu tra bod ymchwiliad yr heddlu i daliadau yn cael ei gynnal.

Mewn datganiad dywedodd arweinydd y cyngor Kevin Madge na fyddai Mr James yn y gwaith wrth i Heddlu Swydd Gaerloyw ymchwilio i ganfyddiadau adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.

Roedd adroddiad wedi honni bod taliadau i Mr James yn "anghyfreithlon".

Roedd yr AC lleol, Keith Davies, a'r AS, Jonathan Edwards, wedi galw ar y prif weithredwr i gael ei wahardd yn ystod ymchwiliad yr heddlu.

Dywedodd Mr Madge: "Oherwydd cytundeb ar y cyd ni fydd y prif weithredwr Mr Mark James bellach yn ymgymryd â'i ddyletswyddau fel prif weithredwr o hyn nes bod ymholiadau yr heddlu ynghylch dau Adroddiad Budd Cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod i ben.

"Rwy'n croesawu ymchwiliad yr heddlu fydd yn cynnig y sicrwydd y mae'r cyhoedd yn ei haeddu.

"Nid yw'r archwilydd wedi cyfeirio ei adroddiadau at yr heddlu ac nid yw'n awgrymu bod unrhyw gam troseddol wedi cymeryd lle.

"Rwy'n gobeithio y gall yr ymchwiliad ddod i ben cyn gynted â phosibl er mwyn i ni fel cyngor symud ymlaen."

Dywedodd mai'r dirprwy brif weithredwr Dave Gilbert fyddai'n ymgymryd â'r dyletswyddau.

Mae Mr James yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Straeon perthnasol

Trending Now