Pryder am ddiffyg ymwybyddiaeth o etholiad y Senedd ymhlith pobl ifanc

- Cyhoeddwyd
Bum mlynedd yn ôl, cafodd pobl 16 ac 17 oed yng Nghymru bleidlais am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd ddiwethaf, ond mae'r canran o bobl ifanc sy'n ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn parhau'n isel.
Mae pôl yn awgrymu mai dim ond 14% o bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed oedd yn ymwybodol o etholiad y Senedd, er bod nifer o fentrau wedi'u cyflwyno i geisio newid hynny.
Er bod newidiadau mawr i'r system eleni, gan gynnwys etholaethau newydd, mwy o aelodau'r Senedd a system bleidleisio newydd, mae pryder bod diffyg ymwybyddiaeth yn parhau ymhlith pobl ifanc.
Mae mentrau digidol ac addysgol yn ceisio gwneud gwleidyddiaeth yn fwy hygyrch, ond mae cwestiynau'n parhau ynghylch pa mor effeithiol ydyn nhw o ran codi diddordeb.

"Mae'n ddiddorol iawn gweld amrywiaeth barn bobl," meddai Dr Louis Bromfield
Mae Dr Louis Bromfield o Brifysgol Abertawe wedi helpu i greu gwefan Horse Race Politics, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ragweld canlyniadau etholiad y Senedd, gan gynnwys pa blaid fydd fwyaf a sut fydd y ras yn datblygu.
"Ar hyn o bryd mae gynnon ni ddeg ras sy'n fyw ac ar agor yn cwmpasu pob math o agweddau ar etholiad y Senedd sydd ar ddod."
Dywedodd fod y wefan yn dangos amrywiaeth barn ac yn caniatáu i bobl weld sut mae rhagfynegiadau'n newid dros amser wrth i'r etholiad agosáu.
"Ni wedi rhoi pleidiau penodol benben â'i gilydd, ac mae'n ddiddorol iawn gweld amrywiaeth barn bobl, yn ogystal â gallu gweld proffwydoliaethau yn newid dros amser hefyd."
Roedd gan fyfyrwyr yng Ngholeg Menai yn Llangefni ar Ynys Môn ystod o faterion yr oedden nhw am i'r llywodraeth newydd fynd i'r afael â nhw.
Dywedodd Emily mai'r system iechyd a rhestrau aros hir yw ei phryder mwyaf, gan ddweud bod amseroedd aros rhai triniaethau yn parhau'n annerbyniol o hir.
"Rwy'n credu eu bod yn ceisio ei chadw at hyd at ddwy flynedd, ond rwy'n dal i feddwl bod hynny'n chwerthinllyd ynddo'i hun."
Dywedodd Brianna ei bod yn cael trafferth dod o hyd i waith rhan-amser, a'i bod yn poeni y gallai hynny barhau ar ôl gadael addysg.
Dywedodd Jac ei fod yn pryderu am newid hinsawdd, gan ddweud ei fod eisoes yn gweld mwy o dywydd eithafol fel stormydd ac eira.
"Rydyn ni'n cael mwy o stormydd nawr nag yr oedden ni'n arfer, mae gennym ni eira'n amlach nag yr oedden ni'n arfer - dydy o ddim yn normal."

Yn ôl Ffion, Tomos (canol) a Teifion mae gan ei ffrindiau lai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ond bod astudio'r pwnc yn help
Mae data'r Comisiwn Etholiadol yn dangos mai dim ond 14% o bobl ifanc 11–25 oed oedd yn gwybod am etholiad y Senedd, tra bod 72% eisiau dysgu mwy am ddemocratiaeth yn yr ysgol.
Fodd bynnag, dywedodd disgyblion eraill o Ysgol Gyfun y Bont-faen eu bod yn teimlo'n fwy gwybodus am y broses etholiadol, gan eu bod yn astudio gwleidyddiaeth.
Dywedodd Teifion fod rhai pobl ifanc yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli mewn gwleidyddiaeth, sy'n eu hatal rhag ymgysylltu.
Dywedodd Tomos fod gan ei ffrindiau lai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond bod astudio'r pwnc wedi ei helpu ef i ddeall y system yn well.
Yn ôl Ffion mae'r newidiadau i'r system bleidleisio yn gallu bod yn "ddryslyd" i bobl ifanc sydd ddim yn astudio'r pwnc, tra bod Imogen yn dweud bod llawer ddim yn credu bod gwleidyddiaeth yn effeithio arnyn nhw'n uniongyrchol.
Ond mae gan bobl ifanc ddiddordeb mewn cael llais mewn gwleidyddiaeth drwy'r bleidlais, yn yr un modd ag oedolion meddai Timur.

Mae Maddy Dhesi yn ceisio ennyn diddordeb pobl ifanc drwy gyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, Senedd Explained
Ffordd arall o geisio cyrraedd y bleidlais ifanc yw trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol - fel cyfrif Senedd Explained.
Dywedodd ei sylfaenydd, Maddy Dhesi, eu bod yn cynhyrchu cynnwys fel cyfweliadau, fideos tu ôl i'r llenni a chlipiau i helpu pobl ifanc ddeall ymgyrchoedd etholiadol.
"Ni'n gweithio ar wneud 'takeovers' gyda holl arweinwyr pleidiau yn y Senedd.
"Rydyn ni hefyd yn gweithio ar vox pops a flogiau fideo ym mha bynnag ystafelloedd ymgyrchu y tu ôl i'r llenni y gallwn ni fynd iddyn nhw.
"Rydyn ni'n gweithio ar greu flogiau fideo ar gyfer ymgeiswyr, i'w cael nhw i gyfleu eu neges a'u personoliaeth, i bobl ifanc a defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol."
Er bod mwy o wybodaeth ar gael nag erioed am wleidyddiaeth, mae'r cwestiwn yn parhau a fydd hynny'n ddigon i gynyddu diddordeb pobl ifanc yn yr etholiad hwn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
