Arddangos portread i anrhydeddu Gwynfor Evans

  • Cyhoeddwyd
Gwynfor Evans

Bydd AS cyntaf Plaid Cymru yn cael ei anrhydeddu, wrth i bortread ohono gael ei arddangos yn y Senedd yn San Steffan.

Fe gipiodd y diweddar Gwynfor Evans etholaeth Caerfyrddin oddi wrth y Blaid Lafur yn isetholiad 1966.

Dywedodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards bod y Pwyllgor Ymgynghorol y Llefarydd ar Weithiau Celf wedi cadarnhau y byddent yn edrych i brynu portread o Mr Evans i nodi hanner canmlwyddiant ers y fuddugoliaeth hanesyddol.

Dywedodd Mr Edwards y byddai'n sicrhau bod "etifeddiaeth a phresenoldeb" Gwynfor Evans yn parhau yn NhÅ·'r Cyffredin.

Mae David Lloyd George, Winston Churchill, Edward Heath, Tony Benn a James Callaghan ymhlith y portreadau sydd eisoes yn cael eu harddangos yn San Steffan.

'Parhau etifeddiaeth'

"Rwy'n falch iawn bod Curaduron y Casgliad Celf Seneddol yn ceisio meddiannu portread o Gwynfor, a hynny yn dilyn fy sylwadau i sicrhau fod etifeddiaeth Gwynfor Evans yn parhau yn NhÅ·'r Cyffredin," meddai Mr Edwards.

"Yn syml, ni fyddai Cymru fel y gwyddom ni heddiw yn bodoli heb ymdrechion Gwynfor Evans.

"Mae ei lwyddiannau yn dal i adleisio o amgylch Sir Gaerfyrddin a Chymru heddiw."

Ar ôl colli'r sedd i Lafur yn etholiad cyffredinol 1970, enillodd Mr Evans hi'n eto ym mis Hydref 1974, gan wasanaethu fel Aelod Seneddol nes 1979.

Bu farw Mr Evans yn 92 oed yn 2005.

Trending Now