Arlunydd yn gosod ei stamp ei hun ar Ynys Môn

- Cyhoeddwyd
Wrth ymweld â rhai o drefi Ynys Môn, fe wnewch chi ddod ar draws ambell i adeilad lliwgar.
Mae posib iawn mai Ffion Roberts-Drakely, sy'n wreiddiol o Rosybol ar yr Ynys, sy'n gyfrifol am y murluniau lliwgar.
Mae'r arlunydd wedi bod yn brysur yn paentio rhai o adeiladau yn Llangefni, Caergybi, Benllech, Aberffraw a Phorth Amlwch.
Fe aeth Manon Steffan Ros draw i Langefni i gael sgwrs â Ffion ar gyfer ei rhaglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru.

Mae thema pob murlun yn wahanol ond mae murluniau byd natur Ffion yn hynod boblogaidd.
"Yn Llangefni, roedd Menter Môn eisiau tynnu syniadau o Nant y Pandu a rhwybeth i 'neud efo natur.
"Mae pobl yn licio'r wiwer goch a'r robin goch. Roedd o'n broses reit hir. Mae rhai pobl sy'n creu murluniau efo rhyw fath o grid system, ond dwi ddim yn gallu 'neud hynny, dwi'n ffeindio fo'n confusing.
"Dwi jest yn neud o efo siarcol, dod lawr o'r scaffolding ac edrych arno wedyn nôl i fyny ac i lawr eto i edrych arno. Ond pan 'da chi'n agos at rywbeth, mae'r perspectif yn hollol wahanol os yda chi'n sefyll yn y lôn yn edrych arno," meddai.

Murlun Llangefni
Fe ddechreuodd ddiddordeb Ffion mewn arlunio yn ifanc iawn.
Ar ôl gadael ysgol mi aeth i Goleg Menai a dilyn cwrs tair blynedd mewn celf yno.
Ar ôl cwbwlhau'r cwrs penderfynodd beidio cario ymlaen efo celf a mynd yn ofalwr yn y gymuned.
Ond, roedd hi'n colli'r creu ac fe wnaeth gais i fynd i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin i astudio gradd mewn celf.
Dylanwadau enfawr arni tra roedd yn y coleg celf yng Nghaerfyddin oedd Iwan Bala, Gwenllian Beynon a Peter Finnermore.

Murlun wnaeth Ffion yn Neuadd Moelfre
Mae murlun fel arfer yn cymryd ychydig dros wythnos i Ffion ei gwblhau ac ar y dechrau roedd hi'n casau uchder.
"Rhyw dair mlynedd yn ôl, doeddwn i methu mynd i fyny ysgol, ond mae'r sgaffold yn iawn os 'di o wedi cael ei attachio i'r wal.
"Nes i furlyn unwaith a doedd y sgaffolding heb gael ei attachio i'r wal, o'n i'n crynu ar y top," meddai.
Ar y dechrau roedd Ffion yn teimlo'n nerfus wrth greu celf mor gyhoeddus mewn cymunedau sy'n agos iawn at ei chalon.
Mae'n wahanol iawn, meddai, i wneud rhywbeth personol i rywun sydd yn mynd i gael ei arddangos yn eu cartref. Mae gwneud murlun ar stryd fawr yn golygu fod pawb yn gweld y gwaith.

Llun y tu allan i dŷ ym Mhorth Amlwch
"Tro cynta 'nes i hyn yn Amlwch, roedd o'n bach fwy nerve-racking, ond dwi'n wedi arfer efo fo rwan, dwi'n gwybod sut mae'n teimlo a chael opinions gwahanol.
"Ella ma' pobl yn mynd i orielau i weld gwaith celf ond mae hwn yn eich gwyneb chi, efallai mai dyna sut ddylai gwaith celf fod dwi'n meddwl.
"Dwi'n meddwl, efo steil fi lle ti'n gallu gweld o a deud, ie, Ffion 'nath hwnna.
"Wnes i byth feddwl y baswn i'n gallu gwneud celf llawn amser a bod yn gwneud gwaith mae pawb yn weld.
"Mae'n rhywbeth rili, rili exciting a dwi jest mor lwcus," meddai.
I wrando ar sgwrs Ffion yn llawn gyda Manon, cliciwch yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd2 Chwefror
