Ail gyfarfod i ystyried enwebiadau swydd Esgob Llandaf

  • Cyhoeddwyd
Eglwys LlandafFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Fe fydd aelodau o'r Eglwys yng Nghymru yn cynnal ail gyfarfod ddydd Mawrth i ystyried enwebiadau ar gyfer swydd Esgob Llandaf.

Fis diwethaf methodd y coleg etholiadol o 47 o bobl, gan gynnwys yr holl esgobion yng Nghymru, a dod i benderfyniad wrth ethol yr offeiriad newydd.

Ond wedi iddynt fethu a chytuno ar ôl trafod am dri diwrnod, dim ond pleidlais dwy ran o dair sydd ei angen i ethol yr Esgob.

O dan delerau cyfansoddiad yr Eglwys, mae'r cyfrifoldeb o lenwi'r swydd wag yn dilyn pleidlais wedi methu am yr ail dro, yn disgyn i Fainc yr Esgobion.

Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies, sydd yn llywydd yn y coleg etholiadol.

Fe fydd yr esgobion nawr yn ystyried yr enwau sydd wedi eu cyflwyno fel ymgeiswyr posibl.

Mae'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Dr Barry Morgan yn gynharach eleni.

Trending Now