Cnoi cil ar ymddygiad dylanwadwyr mewn tai bwyta

Bethan DaviesFfynhonnell y llun, Bethan Davies
GanArwel Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Denu cwsmeriaid i fusnesau bychain neu aflonyddu ar fwynhad pobl o'u prydau bwyd?

Dyna'r cwestiwn sy'n cael ei holi wrth i berchennog adnabyddus sôn am y posibilrwydd o osod rheolau ar ddylanwadwyr sy'n mynychu tai bwyta.

Ond ymddygiad rhai unigolion yn hytrach na diwylliant cyfrwng cyfan sydd ar fai, yn ôl un blogiwr bwyd o Gaerdydd.

Mae sylwadau Jeremy King, perchennog tai bwyta enwog The Wolseley a The Park yn Llundain wedi cael cryn sylw yn y wasg gan sôn am ddylanwadwyr yn dod a chriwiau camera o dri i dai bwyta, defnyddio'r toiledau fel ystafell coluro a hyd yn oed bygwth staff gydag adolygiadau gwael os nad yn cael pryd am ddim. Digon yw digon, medd Mr King.

Ond dywed Beth Davies, blogiwr thathungrywelshgirl, nad yw'r disgrifiad yna yn un cyfarwydd iddi hi o gwbl.

"Na, byth. Ac i fod yn onest sa i byth wedi gweld e pryd fi 'di bod mas chwaith. Sai'n dweud bod e' byth wedi digwydd ond dwi ddim wedi gweld e," meddai ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.

Dros Ginio ar BBC Radio Cymru

Beth DaviesFfynhonnell y llun, Beth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Beth Davies: 'Mae angen bod yn gymedrol'

Wrth wneud ei gwaith mae Beth yn dweud ei bod yn ceisio amharu cyn lleied â phosib ar fwynhad eraill sydd hefyd allan am bryd o fwyd.

"Fi di bod yn gwneud hyn ers tua thair blynedd nawr, dwi jest yn caru bwyd.

"Dwi wastad yn mynd mas am fwyd, jest yn tynnu lluniau. Sa i wedi gwneud reels a phethau fel 'na, sa i'n bwyta i'r camera na dim byd fel 'na.

"Dwi jest yn cymryd lluniau bach ac wedyn postio amdano fe.

"Mae eisiau bod yn gymedrol, ma' pawb yn bwyta mas, 'it's not all about you," meddai wrth ddweud fod angen i bawb barchu ei gilydd.

Beth DaviesFfynhonnell y llun, Beth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Beth Davies: 'Mae blogwyr a dylanwadwyr yn gallu rhoi hwb i fusnesau bychain'

"Mae eisiau bod yn ofalus o be' chi'n wneud a phethau fel'na. Os ni'n dod a chamera ni wastad yn gofyn am le bach tawel yn y gornel neu rywbeth fel 'na fel bod ni mas o'r ffordd."

Mae hi'n dadlau hefyd bod dylanwadwyr a blogwyr yn gallu bod yn help mawr i rai busnesau, yn enwedig i fusnesau bach neu rhai sydd newydd agor.

"Fi'n gwybod bod rhai blogwyr wedi cael negeseuon gan fusnesau bach fel 'Thank you so much you've changed our lives.' Fi 'di gweld bod hyn wedi digwydd - fel sell-outs am wythnosau o achos un reel bach neu un blog bach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now