Ateb y Galw: Lowri Clancy Davies

Lowri DaviesFfynhonnell y llun, Lowri Clancy Davies
  • Cyhoeddwyd

Mae Lowri Davies yn gantores ac yn DJ o dde Iwerddon. Roedd hi'n un o'r cyfansoddwyr oedd yn cystadlu ar Cân i Gymru eleni gyda'i chân Hiraeth.

Mae cerddoriaeth yn y gwaed a hithau'n ferch i'r canwr gwerin o orllewin Cymru Ryland Teifi a'r cerddor Gwyddeleg Róisín Clancy, ac hefyd yn wyres i'r diweddar Bobby Clancy o'r grŵp werin byd-enwog y Clancy Brothers.

Wedi ei magu yng Nghymru ac Iwerddon ond yn bellach yn byw yn Llundain - Lowri Davies sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf yw mynd i Oakwood gyda fy nghyfnitheroedd a fy chwaer, yn cymryd y trên bach sy'n mynd â chi i mewn i'r parc. Cofio teimlo mor cŵl yn cerdded o gwmpas gyda fy nghyfnitheroedd hŷn, yn clywed cerddoriaeth DJ ym mhobman ac yn teimlo'n gyffrous ond hefyd ychydig yn ofnus!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Barri ac Ynys y Barri. Treuliais lawer o hafau yno ar y traeth wrth dyfu i fyny, ac roedd yr Eisteddfod wedi bod yno pan oeddwn i'n iau. Es i hefyd i Ysgol Sant Curig gerllaw.

Mae'n agos i Gaerdydd, felly roeddwn i'n mynd yn aml gyda fy nheulu i weld sioeau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae gen i atgofion hyfryd o fwyta hufen iâ ar y pier yng Nghaerdydd. Mae'r ardal yn llawn atgofion hapus i mi.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Mae'n debyg mai fy noson DJ gyntaf. Roedd y lleoliad Our Wicked Lady yn Brooklyn ar fin cau, ac roedd noson fy nghasgliad BK Loves UKG wedi gwerthu allan gyda dros 400 o RSVPs.

Ces i chwarae i dorf dda, daeth fy ffrindiau i gyd i gefnogi, ac wedyn fe wnaethon ni i barti ar y to yn Brooklyn tan y bore. Enwa rywbeth gwell!

Lowri yn DJioFfynhonnell y llun, Lowri Clancy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Lowri yn DJio

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol, hwyliog, cerddorol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Pan oedd fy chwaer a minnau yn ffilmio'r rhaglen Ein Llwybrau Celtaidd. Roeddem yn cael ein cyfweld ac roedd disgwyl i ni fod yn ddifrifol, ond doedden ni ddim yn gallu stopio chwerthin. Gwnaeth hynny'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy doniol, mae gennym ni'r arfer o chwerthin mewn sefyllfaoedd difrifol.

Lowri a'i chwaer Cifa yn ffilmio'r rhaglen Ein Llwybrau Celtaidd gyda'u tad Ryland TeifiFfynhonnell y llun, Lowri Clancy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Lowri a'i chwaer Cifa yn ffilmio'r rhaglen Ein Llwybrau Celtaidd gyda'u tad Ryland Teifi

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Pan oeddwn i'n blentyn fe wnes i feicio'n syth i mewn i arwydd a syrthio oddi ar fy meic wrth fynd heibio caffi lle roedd grŵp o fechgyn yn eu harddegau yn eistedd. Fe ddechreuon nhw chwerthin arna i a roeddwn i eisiau diflannu i'r llawr.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth wrando ar y gân The Déise Day gan fy nhad, Ryland Teifi. Dw i newydd symud i Lundain ac roedd yn gwneud i mi golli cartref. Mae'r gân yn llawn hiraeth i mi.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Aros i fyny'n hwyr. Hyd yn oed os ydw i'n cael noson dawel gartref, anaml iawn dw i'n syrthio i gysgu cyn un neu ddau y bore. Dw i'n bendant yn berson nos ac yn hoffi aros allan yn hwyr, hyd yn oed os oes rhaid i mi godi'n gynnar drannoeth.

Lowri a'i ffrindiau ar noson allanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aderyn y nos yw Lowri!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

The Bell Jar gan Sylvia Plath. Dw i'n caru'r rhan lle mae hi'n defnyddio'r goeden ffigys fel trosiad am fywyd a'r dewisiadau sydd gennym ni. Dw i hefyd yn caru ei barddoniaeth, mae'r ffordd mae hi'n disgrifio profiad bod yn fenyw yn taro tant gyda fi yn fawr.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Sinéad O'Connor. Roedd fy mam, Róisín, yn canu ei chaneuon i mi wrth i mi dyfu i fyny, felly mae ei cherddoriaeth yn golygu llawer i mi.

Mae hi'n eilun mawr i mi ac yn ysbrydoliaeth enfawr. Byddwn i wrth fy modd yn siarad â hi am gerddoriaeth. Yn ôl pob sôn fe wnaeth fy nhadcu Bobby ei chysuro ar ôl iddi gael ei bwio ar ôl ei dadl fawr, felly byddwn i wrth fy modd yn siarad â hi am y profiad hwnnw hefyd.

Sinéad O'ConnorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Lowri gael diod efo'r gantores Sinéad O'Connor

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n eithaf gaeth i chwarae gwyddbwyll.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Byddwn i'n dechrau'r diwrnod gyda sesiwn gerddoriaeth fawr yn Mooney's, tafarn fy nheulu yn Iwerddon, gyda fy nheulu i gyd yn canu a chwarae. Wedyn byddwn i'n newid dillad ac yn mynd i rave ar y traeth i DJ-io tan ddiwedd y byd.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Mae'n debyg mai'r llun yma ohona i a'm cyfnitheroedd pan oedden ni'n iau. Mae'n fy atgoffa o atgofion hapus yn nhŷ fy mamgu a tadcu yn Ffostrasol.

Mae'n ddoniol achos mae'n edrych fel ein bod ni'n cael sesiwn gerddoriaeth, ac mae'n eiconig hefyd oherwydd mae'n dangos ein personoliaethau.

Lowri a'i theulu pan yn blantFfynhonnell y llun, Lowri Clancy Davies

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Peggy Gou. Mae'n edrych fel bod ganddi hi ffordd o fyw anhygoel fel DJ ac fel ffigwr diwylliannol, a byddwn i wrth fy modd yn gweld sut brofiad yw chwarae mewn gŵyl enfawr o flaen torf fawr.

Peggy GouFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

DJ a cerddor o Dde Corea yw Peggy Gou

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now