Penodi Kevin Foster yn is-weinidog newydd Swyddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
Kevin FosterFfynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kevin Foster wedi bod yn AS etholaeth Torbay yn Nyfnaint ers 2015

Mae'r Aelod Seneddol Kevin Foster wedi cael ei benodi'n olynydd i Nigel Adams fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru.

Mr Foster yw'r pumed person yn y flwyddyn ddiwethaf i gymryd y rôl.

Fe wnaeth Mr Adams ymddiswyddo ddydd Mercher yn dilyn penderfyniad Theresa May i gynnal trafodaethau ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mae Mr Foster, 40, wedi bod yn AS etholaeth Torbay yn Nyfnaint ers 2015, ac ni fydd yn derbyn tâl am ei rôl newydd.

Straeon perthnasol

Trending Now