Y dyn o Fôn a'i rôl flaenllaw yn hediadau gofod cyntaf NASA

tecwynFfynhonnell y llun, NASA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tecwyn Roberts (yn eistedd) yn ddyn gweithgar a diymhongar

GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar gofodwr ar eu ffordd adref ar ôl teithio bellach i'r gofod na neb arall erioed.

Torrodd griw llong ofod Artemis II y record wrth gylchu'r lleuad, gan gyrraedd 252,756 milltir i ffwrdd o'r ddaear.

Bryd hynny cafodd y cysylltiad rhwng y gofodwyr a phencadlys NASA yn Houston, Texas ei golli am 40 munud.

Ond wyddoch chi fod Cymro wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith i alluogi cyfathrebu rhwng y ddaear a'r gofod, a hynny yn ôl yn yr 1960au?

Roedd gwaith Tecwyn Roberts o Ynys Môn wedi galluogi Neil Armstrong i gyfathrebu gyda'r ddaear yn ystod yr ymgyrch lwyddiannus i anfon dyn i'r lleuad yn 1969.

Neil ArmstrongFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Neil Armstrong ar y lleuad ym mis Gorffennaf 1969

Wedi ei fagu a'i addysgu ym mhentref Llanddaniel Fab, treuliodd gyfnod fel prentis mewn peirianneg ym Miwmaris. Ar ôl cyfnod yn y Llu Awyr, astudiodd Tecwyn beirianneg awyrenneg, cyn allfudo i Ganada i weithio i gwmni creu awyrennau.

Ymunodd â NASA yn 1959 a gweithio fel peiriannydd hediadau gofod.

Chwaraeodd ran flaenllaw yng ngwaith cynllunio'r canolfannau Mission Control yn Cape Kennedy yn Florida ac yna yn Houston.

Roedd hefyd yn gyfrifol am y Manned Space Flight Network, sef rhwydwaith o orsafoedd oedd yn dilyn trywydd yr hediadau i'r gofod.

Ei waith oedd tu ôl i'r holl gyfathrebu hanfodol a ddigwyddodd yn ystod hediad Apollo 11 i'r lleuad ym mis Gorffennaf 1969; y cyfathrebu rhwng y gofodwyr a'r ddaear, y data gafodd ei anfon yn ôl, a'r lluniau ar y teledu a gafodd eu gweld gan filiynau ledled y byd.

Mae sôn hefyd mai Tecwyn a fathodd y dywediad 'A-OK' i nodi fod pob dim yn gweithio fel y dylen nhw fod.

Tecwyn Roberts yn Llanddaniel in 1974Ffynhonnell y llun, Llanddaniel.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Tecwyn Roberts nôl i'w hen ysgol yn Llanddaniel in 1974

Dychwelodd Tecwyn i Landdaniel Fab ambell waith dros y blynyddoedd, gan gynnwys i'w hen ysgol ac i gwrdd â ffrindiau yn yr 1980au.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1988, bu farw yn 63 oed.

Mae Tec, fel roedd yn cael ei alw, yn cael ei gofio ym maes teithio'r gofod fel arloeswr gweithgar ond hefyd roedd yn ddyn diymhongar.

Enillodd wobrau lu am ei waith yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Medal am Wasanaeth Aruthrol NASA yn 1969, ond prin yw'r lluniau sydd ohono lle nad yw ar y cyrion.

Yn ôl yn 2019, meddai Nick Howes, cymar o'r Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol:

"Heb Tec, mae'n siŵr na fyddai NASA a mission control fel maen nhw'n bodoli heddiw, wedi digwydd.

"Gallwn wirioneddol labelu Tecwyn Roberts fel un o arwyr di-glod mwyaf yr oes ofod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

Trending Now