Nifer fwyaf erioed o ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae'r Urdd 'wedi troi'r gornel' wedi'r pandemig, medd y prif weithredwr, Siân Lewis

Mae mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen - 118,000 - wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd eleni, medd y trefnwyr ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Sir Ddinbych 2022.

Roedd yna fynediad am ddim i'r ŵyl eleni ar gyrion Dinbych - Eisteddfod lawn gyntaf yr Urdd ers cyn y pandemig - wedi i Lywodraeth Cymru roi £527,000 i gefnogi'r mudiad ieuenctid wrthi iddo ddathlu ei ganmlwyddiant.

Mae'r nifer ymwelwyr yn torri'r record a sefydlwyd y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal heb godi tâl mynediad i'r Maes - ym Mae Caerdydd yn 2019.

Bydd yna drafodaethau nawr wrth i'r golygon droi at baratoi ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn Llanymddyfri.

Torf ar y maes yn NinbychFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod eleni wedi denu 118,000 o ymwelwyr, medd y trefnwyr

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, bod y mudiad nawr yn gallu edrych tua'r dyfodol gyda hyder yn dilyn heriau'r pandemig ar ddiwedd "wythnos hynod lwyddiannus".

"Mae e wedi bod yn 'Steddfod i bawb, mae o wedi bod yn llwyfan i bawb," meddai. "'Dan ni wedi gweld gymaint o wynebe newydd yn cyrraedd y maes ac yn mwynhau'r diwylliant Cymreig ar ei ora' fan hyn wythnos yma."

Mae'r Urdd "mewn lle cadarn heddiw", meddai, ac yn "symud at y dyfodol yn bositif. "Mi oedd 'na heriau yn ystod Covid... ond 'dan ni wedi troi'r gornel".

"Gollon ni weithlu [ond] mae gweithlu'r Urdd erbyn heddiw'n ôl bron i lle oedd o cyn Covid a trosiant yr Urdd yn sicr yn symud i'r cyfeiriad iawn."

Noson Gŵyl TribanFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Triban ymhlith llu o newidiadau i'r arlwy wrth gynnal yr Eisteddfod lawn gyntaf ers 2019

Mae'r newidiadau i drefniadau'r Eisteddfod eleni, gan cynnwys tri phafiliwn a dim rhagbrofion, "wedi gweithio ar y Maes eleni [a] bydden ni'n asesu a gwerthuso rheina wrth symud ymlaen".

Ychwanegodd eu bod "yn sicr yn awyddus i barhau i esblygu'r Eisteddfod er mwyn bo ni'n gallu cynnig yr Eisteddfod i bawb".

'Mae 'di bod yn 'Steddfod wefreiddiol'

Dyfan Phillips

Bu'n rhaid gohirio Eisteddfod eleni ddwywaith oherwydd y pandemig.

"Mae'n anodd disgrifio sut mae rhywun yn teimlo," dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Dyfan Phillips ddydd Sadwrn.

"Mae' di bod yn wythnos anhygoel. Ma' rhywun yn paratoi gym'int ac yn edrych ymlaen ond mae 'di bod yn 'Steddfod wefreiddiol wsos yma."

Trending Now