Bwyd gyda 'ysbryd Cymreig' yn helpu cogydd ifanc o Geredigion i'r brig

Caitlin Meredith Ffynhonnell y llun, Caitlin Meredith
GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"O'n i wastad yn coginio adre. Ers bod fi'n gallu dal llwy o'n i'n coginio gyda Mam. Achos bod bwyd yn ran pwysig o fywyd adre mae e yn naturiol wedi rwbio off arna i."

Mae'r cogydd ifanc Caitlin Meredith o Geredigion newydd ennill teitl Junior Chef of Wales – ac yn dilyn ei llwyddiant mae hi'n diolch i'w theulu am fagwraeth oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a choginio.

Mae Caitlin, sy'n 19 oed a'n dod o Moriah ger Aberystwyth, yn disgrifio ennill fel teimlad "anhygoel ac annisgwyl".

Meddai am y gystadleuaeth, lle bu rhaid iddi greu a choginio tri chwrs mewn cyfnod byr: "Roedd rhaid ni greu menu ac oedden nhw'n dewis pedwar person i fod yn y ffeinal.

"O'n i rili ishe cael lot o ysbryd Cymreig a theulu a phethau fel na yn menu fi. Oedd lot o gynllunio ac ymarfer a gofyn – ydy hwn yn gweithio?"

Coginiodd Caitlin dri chwrs gan gychwyn gyda pasta gyda corgimwch, wedyn cig eidion Cymreig ac yna bara brith gyda chyflaith.

Meddai: "Oedd popeth o'n i'n defnyddio yn Gymreig – roedd y crispy ham yn ham Gaerfyrddin, mwstard Cymreig, halen Cymreig.

"Un o'r briffs oedd defnyddio cynnyrch oedd yn Gymreig a'n bwysig yn ddaearyddol – dwi'n ffeindio fe'n haws os oes rhywbeth 'da fi i ddechrau gyda pan dwi'n meddwl am fwydlen."

Caitlin Meredith Ffynhonnell y llun, Caitlin Meredith
Disgrifiad o’r llun,

Caitlin yn cipio'r wobr yn Ionawr 2026

Ysbrydoliaeth

Yn ôl Caitlin, ei theulu oedd ei hysbrydoliaeth pennaf: "Mae bwyd Cymreig sy'n rhan o'n deulu i yn lot o ysbrydoliaeth.

"Ni'n deulu o foodies – mae pawb yn big cooks, mae Mam yn caru bwyd. Mae swper yn rhan mwya' pwysig o'r dydd so mae hi'n planio'r wythnos rownd be' sy' i swper."

Pan oedd Caitlin yn bump oed hi oedd yn gyfrifol am baratoi'r pwdin bob dydd Sul, gan gychwyn gwneud hynny gyda help ei mam ond yn fuan iawn yn paratoi'r bwyd ar ei phen ei hun.

Ac mae aelodau eraill o'r teulu yn rhannu'r angerdd am goginio: "Mae Nain yn caru bwyd Ffrangeg a choginio – roedd hi'n hoffi cael dinner parties. Mae rhieni Dad fi yn byw ar ffarm so mae bwyd yn rhywbeth pwysig fan 'na. Maen nhw'n Gymreig iawn so mae lot o gawl, bara brith a phethe fel na."

Serch hynny, bwyd Ffrangeg yw angerdd Caitlin, sy'n gweithio ym mwyty Ynyshir rhan amser dan oruchwyliaeth y cogydd Gareth Ward: "Dwi yn dysgu mwy am fwydydd gwahanol – mae lot o fwyd Japanese yn Ynyshir so dwi wedi dysgu lot o bethau newydd.

"Mae Gareth Ward yn anhygoel fel mae meddwl e'n gweithio, fel mae e'n gallu meddwl am y cyrsiau i gyd ac mae e jest yn neud e yn naturiol. Mae e'n rili ddiddorol i weld ac i ddysgu wrth rhywun fel 'na."

Y cam nesaf i Caitlin ar ôl ei llwyddiant ac ar ôl gorffen ei chwrs yng Ngholeg Ceredigion yw i weithio yn Ynyshir llawn amser. Yn y pen draw ei gobaith yw teithio'r byd fel cogydd: "Yr end goal yw bod yn private chef ond nawr dwi ishe ffocysu ar weithio yn Ynyshir. Fydd hynny'n anhygoel i roi ar CV fi."

Caitlin Meredith Ffynhonnell y llun, Caitlin Meredith
Disgrifiad o’r llun,

Caitlin yn ennill cystadleuaeth Junior Chef of Wales

Oherwydd ei llwyddiant yn Junior Chef of Wales bydd Caitlin yn gallu cymeryd rhan yng ngornest gynderfynol UK Young National Chef of the Year flwyddyn nesaf.

Mae hi'n ddiolchgar iawn am yr ysbrydoliaeth gan ei theulu a chefnogaeth ei thiwtoriaid yng Ngholeg Ceredigion ac hefyd ei chynorthwy-ydd yn y gystadleuaeth, Freya Inman, oedd yn help mawr: "Bydden i wedi methu neud e hebddi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now