Duffy i rannu ei phrofiad o gamdriniaeth mewn rhaglen ddogfen newydd

- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys deunydd allai achosi pryder, gan gynnwys manylion am ymosodiad rhywiol, herwgipio a meddyliau am hunanladdiad
Bydd y gantores Duffy yn gwneud ei chyfweliad manwl cyntaf am yr ymosodiad rhyw a'r herwgipio a'i gorfododd i dynnu'n ôl o fywyd cyhoeddus.
Daeth y gantores o Gymru yn enwog yn 2008 ar ôl rhyddhau ei halbwm cyntaf Rockferry, a enillodd wobrau Brit, Grammy ac Ivor Novello.
Ond diflannodd o fywyd cyhoeddus yn 2011, gan ddatgelu bron i ddegawd yn ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod wedi cael ei dal yn gaeth mewn gwlad arall a'i threisio.
Rhaglen ddogfen newydd Disney+ fydd unig gyfweliad mawr Duffy yn y 15 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Sean Doyle o'r sianel ei fod "yn edmygu'r" gantores am rannu ei stori.

Cafodd Aimée Anne Duffy ei magu rhwng Gwynedd a Sir Benfro cyn iddi ddod yn enwog dros nos gyda'i halbwm cyntaf, yr albwm a werthodd orau yn y DU yn 2008.
Ond ar ôl rhyddhau ei hail albwm a chyhoeddi bod un arall ar y ffordd, diflannodd, gan adael cefnogwyr a'r diwydiant cerddoriaeth yn pendroni pam.
Bron i ddegawd yn ddiweddarach yn 2020, datgelodd fanylion yr ymosodiad mewn post Instagram sydd bellach wedi cael ei ddileu.
Fis yn ddiweddarach, cyhoeddodd draethawd personol ar ei gwefan yn disgrifio sut y rhoddwyd cyffuriau iddi yn ddiarwybod yn ystod pryd o fwyd pen-blwydd a'i chymryd i wlad dramor lle cafodd ei threisio.
Cafodd ei chadw am bedair wythnos cyn iddi lwyddo i ddianc rhag y treisiwr, sydd ddim wedi'i adnabod yn gyhoeddus.

Dywedodd y gantores nad oedd "unrhyw un o gwbl" yn gwybod am yr ymosodiad, a oedd wedi ei gadael â meddyliau am hunanladdiad.
"Yn sgil y digwyddiad, ni fyddwn yn gweld unrhyw un, unrhyw enaid corfforol, am wythnosau ac wythnosau ac wythnosau ar y tro, weithiau, yn aros ar fy mhen fy hun," meddai.
"Roedd cael fy nhreisio wedi tynnu fy hawliau dynol oddi wrthyf fi, ac i allu profi bywyd heb ofn. Mae eisoes wedi dwyn traean o fy mywyd.
"Ond gallaf ddweud wrthych chi yn y degawd ddiwethaf, dros y miloedd a miloedd o ddyddiau fe wnes i ymrwymo i deimlo'r heulwen yn fy nghalon eto, ac mae'r haul yn tywynnu nawr."
Duffy wedi ei 'threisio a'i chadw'n gaeth'
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2020
Duffy yn datgelu mwy am gael ei herwgipio
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
Bydd y rhaglen ddogfen yn rhoi "mynediad digynsail" i Duffy, gan edrych yn ôl ar ei phlentyndod, ei phrofiad wrth ddod yn enwog dros nos, yr ymosodiad a'r hyn a ddilynodd.
Dywedodd y cyfarwyddwr Gill Callan: "Mae bywyd Duffy wedi'i siapio gan lwyddiant ac enwogrwydd ond hefyd gan boen.
"Rwy'n cael fy nenu at y tensiwn rhwng y bregusrwydd a'r hyder yn ei stori a sut y gall gael ei heffeithio gan ei phrofiadau..."
Ychwanegodd Doyle y byddai'n rhoi cyfle i Duffy adrodd ei stori yn ei geiriau ei hun.
"Yn bennaf oll, rwy'n arbennig o edmygus o Duffy - am ei gonestrwydd a'i dewrder."
Nid yw dyddiad y rhaglen ddogfen wedi'i gyhoeddi eto ond mae rhai'n gobeithio ei fod yn arwydd y bydd Duffy yn dychwelyd i'w gyrfa gerddoriaeth, bum mlynedd ar ôl iddi rannu dwy gân wreiddiol.
Rhannodd y gantores ragflas hefyd ar gyfer fersiwn o'i chân boblogaidd Mercy ar TikTok ym mis Mawrth 2025, yn ei phost cyfryngau cymdeithasol cyntaf ers 2020.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.