'O'n i'n crio gymaint': Cofio gadael teulu ifanc yn Asia i ddod i nyrsio i Gymru

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn 2001, fe gafodd tua 100 o nyrsys o Ynysoedd Philippines eu recriwtio i weithio yn ysbytai gogledd Cymru oherwydd diffyg staff. Chwarter canrif ers dod i Gymru, dyma stori un o'r nyrsys - a'i merch roedd yn rhaid iddi adael ar ôl. Mae'r ddwy bellach yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Llun Edelita, ei gwr a'u plantFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y llun yma ei dynnu tri diwrnod cyn i Edelita Saxton, sy'n gafael yn ei babi pedwar mis oed Kate, adael am Gymru. Yn y llun mae ei gŵr Steve, a'u plant eraill (chwith i'r dde) Linden, Lhizelle a Steven

Mae'n edrych fel llun teulu arferol, ond tu cefn i'r ffotograff mae pryder mam sydd ar fin gadael ei theulu - gan gynnwys y babi sy'n ei breichiau - i fyw mewn gwlad ar yr ochr arall i'r byd.

Fis Rhagfyr 2000, roedd Edelita Saxton yn nyrs 36 oed yn Baguio City ar Ynysoedd Philippines ac ar gyfnod mamolaeth.

Pan gafodd wybod bod asiantaeth yn chwilio am nyrsys i fynd i weithio yng Nghymru roedd mewn penbleth. Roedd hi'n grediniol y byddai symud yno yn rhoi dyfodol gwell i'w phlant - ond doedd hi ond wedi rhoi genedigaeth i'w pedwerydd plentyn ddeufis ynghynt.

Penderfynodd fynd ar y daith wyth awr i'r brifddinas Manila ar gyfer y cyfweliad. Fe gafodd gynnig y swydd a dechrau difaru.

"O'n i'n meddwl bod gen i chwe mis i sortio pethau a hel pres ond wnaethon nhw ddweud bod ni'n mynd yn gynnar - mis Chwefror," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ro'n i'n meddwl tynnu nôl."

Edelita tu allan i'r ysbyty gydai'i phlentynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Edelita tu allan i'r ysbyty gyda'i phlentyn cyntaf Linden, wedi iddi roi genedigaeth iddi yn ystod daeargryn enfawr y Philippines yn 1990. Roedd pebyll wedi eu gosod tu allan i'r ysbyty gan fod adeiladau yn beryglus

Roedd hi eisoes wedi dygymod gyda chyfnodau anodd yn ei bywyd, gan gynnwys rhoi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf mewn gardd ysbyty yn dilyn un o'r daeargrynfeydd gwaethaf yn hanes ei gwlad.

Nawr roedd yn gadael ei theulu, gan gynnwys ei babi newydd, er mwyn ceisio cael gwell dyfodol iddyn nhw.

Roedd angen casglu arian o flaen llaw, gan gynnwys ffi asiantaeth o tua £500 - oedd yn swm mawr iddi.

Cafodd fenthyg arian gan ei modryb yn UDA a pharatoi i ffarwelio. Tridiau cyn gadael fe drefnodd ei bod hi'n cael tynnu llun gyda'i theulu cyfan.

"Roeddwn i eisiau llun o bawb efo'i gilydd," meddai. "Do'n i ddim yn gwybod pryd fyddwn i'n gweld nhw, ac yn poeni os fyddwn i'n gweld nhw eto."

Ar 1 Mawrth, 2001, fe gyrhaeddodd Cymru gyda degau o nyrsys eraill, a mwy yn ymuno yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Edelita tu allan i Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Edelita tu allan i Ysbyty Gwynedd, Bangor, fis Ionawr 2002

Oherwydd prinder staff o fewn y gwasanaeth iechyd, roedd y GIG wedi recriwtio'r 100 o nyrsys o'r Philippines a'u lleoli o fewn tair prif ysbyty'r gogledd. Ar y pryd roedd y recriwtio yn fesur dros dro, gyda'r nyrsys yn derbyn contractau dwy flynedd yn unig. Fe wnaeth nifer aros ac adeiladu bywydau yma yng Nghymru.

Am y misoedd cyntaf roedd Edelita a'i chyd-weithwyr newydd yn byw yn fflatiau'r staff meddygol ar dir Ysbyty Gwynedd, yn ceisio dod i arfer efo gwlad a diwylliant dieithr a system iechyd oedd gyda threfn nyrsio wahanol.

"Alla i ddim disgrifio'r teimladau," meddai Edelita. "Roedd yn anodd iawn, iawn i fi… yn meddwl am fy nheulu yn y Philippines.

"O'n i jest isho mynd adra ac yn ffonio tair neu bedair gwaith y dydd.

"Doedd neb ohonon ni'n nabod ein gilydd. Fi oedd y trydydd hyna' ond fi oedd babi'r grŵp achos o'n i'n crio gymaint, ond wnaethon nhw gefnogi fi drwyddo fo i gyd."

Roedd ei gŵr, Steve, wedi aros i weithio ar yr ynysoedd, sydd wedi eu lleoli yn y Môr Tawel yn Asia, ac roedd y ddwy nain yn helpu i edrych ar ôl y plant.

Llwyddodd Edelita i frwydro'r hiraeth a chasglu digon o arian dros chwe mis i dalu am fisas a thocynnau awyren i'w theulu ymuno gyda hi.

Edelita gyda'i gŵr Steve yn ymweld â Chastell Caernarfon Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Edelita gyda'i gŵr Steve, wedi iddo ymuno gyda hi, yn ymweld â Chastell Caernarfon tua Ionawr 2002

Fe gafodd ei gŵr waith yn Ysbyty Gwynedd a bu'r teulu'n byw ym Mangor cyn symud i Borthaethwy. Tagalog - un o ieithoedd Ynysoedd Philippines - oedd iaith y cartref a'r plant yn mynd i'r ysgol leol.

Mae babi'r teulu, Kate Wall, bellach yn 25 oed ac wedi priodi. Tydi hi'n cofio dim o'i chyfnod yn byw yn Asia wrth gwrs, ond roedd yn ymwybodol ers yn ifanc bod ei hunaniaeth yn pontio dau gyfandir.

Wedi ei magu yng ngogledd orllewin Cymru, roedd ei chysylltiad gyda'i gwreiddiau yn mynd tu hwnt i'w theulu agos. Bob parti pen-blwydd neu ddathliad arall, byddai teuluoedd yr holl nyrsys o'r ynysoedd yn dod at ei gilydd i gymdeithasu. Roedd un o'i ffrindiau pennaf yn yr ysgol hefyd yn blentyn i nyrs ddaeth drosodd.

Edelita a'i phlentyn yn yr eiraFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Edelita a'i merch Kate yn mwynhau rhywbeth sy'n llawer mwy cyffredin yng ngogledd Cymru nag Ynysoedd Philippines...

Bellach mae Kate yn dilyn ôl troed ei mam ac yn gweithio fel nyrs gyda'r henoed yn Ysbyty Gwynedd, Bangor - un o tua phump o blant y criw gwreiddiol sy'n nyrsio yn yr ardal. Mae Edelita, un o'r 28 gwreiddiol sydd yn dal i fyw yn yr ardal, hefyd yn dal i nyrsio - ond bellach yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.

"Dwi'n gweithio rŵan efo pobl oedd wedi gweithio efo Mam pan ddaeth hi yma gynta'," meddai Kate.

"Dwi'n dweud wrth rai pobl sut wnaeth Mam gael ei recriwtio fel nyrs a dod yma ar ben ei hun ychydig fisoedd ar ôl geni fi. Pan dwi'n deud y stori ti'n sylweddoli be' wnaeth hi ac mae'n reit emosiynol.

"Dwi'n aml yn meddwl, a weithia' wnâ i drafod efo fy ngŵr, a deud baswn i ddim wedi bod yma heblaw bod Mam - a Dad - wedi gwneud be' wnaethon nhw. Faswn i heb gyfarfod fy ngŵr a phriodi, na wedi cael yr holl gyfleoedd 'da ni wedi cael a chyflawni be' 'da ni wedi 'neud."

Edelita a KateFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Edelita gyda Kate, sydd bellach yn 25, ac hefyd yn nyrsio yng ngogledd Cymru

Oherwydd economi Ynysoedd Philippines a'r ffaith bod angen talu am addysg - a'r system iechyd - mae'n gallu bod yn anodd iawn i deuluoedd yn ariannol.

Meddai Kate: "Dwi'n wondro weithia be' fasa bywyd fi wedi bod os fasa nhw heb ddod drosodd. Dwi'm yn gwybod os fasa Mam a Dad, efo pedwar o blant, wedi gallu fforddio i dalu i ni gyd gael addysg."

Mae'r teulu cyfan wedi ymweld ag Ynysodd Philippines sawl gwaith dros y blynyddoedd ac mae Edelita yn mynd drosodd i weld ei thad yn flynyddol. Mae dau o'i phlant wedi parhau i fyw yng ngogledd orllewin Cymru, mae un ferch yn Lloegr a'r ferch hynaf yn Sweden.

Erbyn heddiw mae llun y teulu ifanc gafodd ei dynnu yn Ynysoedd Philippines chwarter canrif yn ôl yn rhan o'u hanes, ac wedi ei fframio ar y wal yn y cartref ym Mhorthaethwy.

Mae Edelita yn bendant: "Wnaethon ni'r peth iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now