Dim cyrsiau prifysgol i barafeddygon eleni yn sgil diffyg swyddi

- Cyhoeddwyd
Ni fydd cyrsiau hyfforddi parafeddygon yn cael eu cynnal yng Nghymru eleni, yn dilyn y trafferthion mae myfyrwyr presennol yn eu hwynebu wrth geisio canfod swyddi.
Cadarnhaodd y corff sy'n gyfrifol am hyfforddi'r gweithlu iechyd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC), y byddai'n oedi'r cwrs ym mis Medi eleni.
Daw ar ôl i fyfyrwyr parafeddygol gael cyngor i ymgeisio am swyddi dramor gan nad oes gwaith yng Nghymru ar eu cyfer.
Mae Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cytuno â'r penderfyniad "anodd".
Mae myfyrwyr mewn sawl maes gofal iechyd wedi dweud wrth y BBC am eu siom a rhwystredigaeth oherwydd diffyg swyddi yn eu meysydd.
'Gwella cyfleoedd i raddedigion presennol'
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd AGIC y byddai cyrsiau parafeddygol, sydd wedi cael eu cynnal ym mhrifysgolion Abertawe a Wrecsam, yn cael eu hoedi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Roedd hynny er mwyn "gwella'r cyfleoedd am swyddi i'r graddedigion presennol".
Cafodd nifer y lleoedd i astudio ar gyfer 2026 eu penderfynu yn 2022 yn fuan ar ôl pandemig Covid-19, meddai'r datganiad, "pan oedd y galw am weithwyr yn sylweddol uwch".
Ers hynny mae newidiadau i'r drefn o weithio, pwysau ariannol a lefelau uwch o staff yn aros yn y gwasanaeth yn golygu bod llai o swyddi ar gael.
Dywedodd AGIC ei fod yn "deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fyfyrwyr a graddedigion" ond mai oedi yw'r "cam mwyaf cyfrifol" i leihau cystadleuaeth am swyddi a "chefnogi myfyrwyr a graddedigion presennol i gael gwaith".

Cafodd niferoedd cwrs 2026 eu penderfynu yn syth ar ôl pandemig Covid-19, pan oedd pwysau sylweddol ar y gweithlu
Dywedodd Richard Lee o Goleg Brenhinol y Parafeddygon fod y newyddion yn "bryder", ond y bydd y broblem "yn pasio".
Dywedodd nad yw'n "broblem unigryw i Gymru, mae'n broblem ledled y Deyrnas Unedig", ond ei bod yn waeth yng Nghymru oherwydd mai dim ond un ymddiriedolaeth ambiwlans sydd yma.
"Felly, mae gorfod mynd ymhellach i ddod o hyd i waith yn fwy o broblem yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU, lle mae sawl ymddiriedolaeth ambiwlans yn ffinio hefo'i gilydd a phobl yn gallu symud o gwmpas."
Er bod swyddi parafeddygol ar gael ledled y DU, meddai, dydy llawer ddim ar gael i barafeddygon sydd newydd gymhwyso.
"Wrth i chi gymhwyso, rydych chi'n destun cyfnod dwy flynedd sy'n cael ei alw'n barafeddyg newydd gymhwyso - NQP.
"Mae gweithio mewn ambiwlans yn rôl ddelfrydol oherwydd gallwch chi gael goruchwyliaeth, mae cefnogaeth dros y ffôn, mae cefnogaeth glinigol gan barafeddygon mwy profiadol.
"Ond mae rhai o'r rolau eraill sydd ar gael i barafeddygon rŵan, fel gweithio mewn adrannau brys, gweithio mewn meddygfeydd teulu, neu mewn ystafelloedd cadw'r heddlu i ofalu am garcharorion, yn gofyn eich bod wedi pasio'r cyfnod dwy flynedd hwnnw."

Mae Olivia Worrall yn dweud bod y broses o wneud cais wedi bod yn straen arni
Dywedodd Olivia Worrall, 20, ei bod yn wreiddiol, yng nghanol Mawrth, wedi derbyn cynigion i astudio Gwyddoniaeth Parafeddygol yn Abertawe ac yn Wrecsam.
Dywed y bu bron iddi feichio crio pan gafodd glywed bod y cynigion wedi'u tynnu'n eu holau.
"Roeddwn i'n andros o siomedig," meddai.
"Mi gefais yr e-byst gan y colegau ddoe a doedd ond neges yn dweud bod y cynigion wedi'u tynnu yn ôl, nid oedd yna unrhyw gyfarwyddyd na chyswllt i gael rhagor o wybodaeth."
Ychwanegodd Ms Worrall nad oedd unrhyw sôn am y cwrs parafeddygol yn cael ei oedi, ei atal nac yn cael ei gynnig ym mis Medi 2027.
"Roedd y broses o ymgeisio mor anodd, ac i Abertawe roedd 'na broses rhestr fer, yna anfon fideo, yna mynd i Abertawe am gyfweliad a phroses tair awr a hanner o hyd", meddai.
"Dylen nhw ddim fod wedi gadael i bobl fynd drwy'r broses o wneud cais a'r holl straen, mae'n rhwystredig iawn."
'Un stori drist ar ôl y llall'
Mae'r sefyllfa yn peryglu "colli cenhedlaeth o barafeddygon newydd yn y dyfodol", meddai Bedwyr Morgan, cyn-barafeddyg o Langefni.
Ar Dros Frecwast, dywedodd: "Mae'n un stori drist ar ôl y llall yn anffodus yn ddiweddar. Mae'n dorcalonnus i'r bobl ifanc 'ma sydd wedi gwneud llawer o waith yn barod tuag at y cyrsiau yma."
"Synnwyr cyffredin ydy o – mwyaf y byd y criwiau sydd ar y lôn, y gorau ydy'r gobaith o achub bywyd. Mae hyn yn anelu at golli cenhedlaeth o barafeddygon newydd yn y dyfodol."
"Mae 'na fwy o hyfforddiant am fod i'r bobl sydd yn y swyddi yn barod, ond wrth gwrs, mae 'na lot o ffactorau yn gallu dod ar draws hynna, fel ymddeoliad, gwyliau, salwch a rhaid cadw'r gwasanaeth i fynd."
'Gadawais fy swydd i fod yn nyrs, ond does dim gwaith i mi yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
Dywedodd Carl Kneeshaw, cyfarwyddwr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn gwybod y bydd hyn yn siomedig i ddarpar fyfyrwyr a phawb sy'n ystyried gyrfa mewn parafeddygaeth, ond wrth i lefelau'r swyddi sydd ar gael i barafeddygon sydd newydd gymhwyso barhau i fod yn anodd eu rhagweld, rydym yn credu mai oedi rhaglenni yw'r peth mwyaf synhwyrol i'w wneud."
Mae'r sefyllfa'n "warth" yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper, sy'n dweud ei fod yn "ymgorffori methiant Llafur pan ddaw at y gwasanaeth iechyd". Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru'n "datblygu a chryfhau gweithlu'r GIG gyda strategaeth genedlaethol" i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig mae'r penderfyniad yn "tanlinellu methiant difrifol mewn cynllunio'n gweithlu", gan addo "cadw, recriwtio a rhoi mwy o staff rheng flaen ar waith, gan sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hyfforddi'n camu'n syth i mewn i swyddi".
Dywedodd Reform fod "methiant y llywodraeth i gynllunio'r gweithlu yn addas wedi creu rhai o'r amseroedd aros hiraf yn y DU am ambiwlans neu driniaeth". Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r blaid yn creu cynllun gweithlu i'r GIG, "er mwyn atal y sefyllfa sarhaus o staff iechyd wedi cymhwyso ond heb swyddi".
Mae gweddill y pleidiau wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.