Dadorchuddio cerflun noeth o un o sêr Monty Python ym Mae Colwyn

Roedd Terry Jones yn un o'r chwech a ddechreuodd y grŵp comedi enwog Monty Python
- Cyhoeddwyd
Bydd cerflun yn coffáu seren Monty Python, Terry Jones, yn cael ei ddadorchuddio yn ei dref enedigol, Bae Colwyn, ddydd Sadwrn.
Roedd ei deulu yn hynod gefnogol o'r ymgyrch "Python ar y Prom" - ymgyrch a gododd £120,000 ar gyfer cerflun efydd sy'n portreadu Terry fel yr organydd noeth o'r rhaglen "Flying Circus".
Dywedodd Syr Michael Palin y byddai ei gyd-aelod o Python yn credu ei fod yn "ddoniol iawn".
Bu farw'r actor, yr awdur a'r cyfarwyddwr yn 2020 yn 77 oed o fath prin o ddementia.
Mae disgwyl i Syr Michael Palin a Terry Gilliam fod yn bresennol yn y digwyddiad.
Bydd y cerflun yn edrych dros draeth Bae Colwyn.

Mae Syr Michael Palin (chwith) a Terry Gilliam wedi cefnogi'r ymgyrch o gael cerflun a bydd y ddau yn bresennol yn y dadorchuddio
Grŵp comedi oedd Monty Python a gafodd ei ffurfio yn 1969.
Roedd yna chwech yn y grŵp ar y dechrau - yn eu plith Terry Jones, Terry Gilliam a Syr Michael Palin.
Cefnogodd dau aelod arall o'r grŵp, John Cleese ac Eric Idle, yr ymgyrch hefyd.
Dywedodd Syr Michael Palin: "Rwy'n synnu braidd oherwydd ein bod ni'n griw eithaf amrywiol.
"Does neb byth yn cytuno ar ddim mewn gwirionedd, heblaw beth sy'n ddoniol, ac roedden ni'n dda iawn am wneud hynny."
Ymhlith enwogion eraill sydd wedi hyrwyddo'r ymgyrch mae Emma Thompson, Steve Coogan a Suzy Eddie Izzard.
Daeth rhoddion o bob cwr o'r byd, a chyrhaeddwyd y targed o £120,000 o fewn chwe mis.
Dywedodd Sally Jones, merch Terry Jones, y bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei rannu rhwng Ymddiriedolaeth Gelf Conwy a The National Brain Appeal, sy'n helpu pobl â dementia prin.

Mae Nick Elphick wedi bod yn gweithio ar y cerflun ers bron i flwyddyn a hanner
Y cerflunydd Nick Elphick o Landudno sydd wedi creu y dyluniad ar ôl siarad gyda theulu Terry Jones.
Dywedodd mai'r rhan anoddaf oedd dangos cymeriad mawr ei bersonoliaeth, tra'n sicrhau bod ei wên yn "berffaith i'r teulu".
Mae'r cerflun maint go iawn yn dangos Terry yn noeth, yn gwisgo tei sy'n fflapio - mae ganddo wallt gwyllt ac mae'n gwenu fel yr organydd roedd e'n ei bortreadu.
Mae'r organ hefyd yn cynrychioli ei ddesg ysgrifennu - y cyfan yn portreadu ei yrfa amrywiol.
Mae hyn yn cynnwys ei waith arall - er enghraifft ei lyfrau am hanes yr Oesoedd Canol.
Dywedodd Nick Elphick ei fod yn waith anodd a'i fod yn teimlo dan bwysau: "Rwy'n berffeithydd felly dydw i byth yn hollol hapus, ond rwy'n gwybod fy mod wedi rhoi popeth iddo, gan weithio diwrnodau hir iawn ers bron i flwyddyn a hanner, felly gobeithio y bydd pobl yn ei hoffi."
Datgelu dyluniad cerflun i seren Monty Python yn y gogledd
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
Perfformiodd, cydysgrifennodd a chyfarwyddodd Terry Jones ddwy ffilm Monty Python: The Life of Brian a The Meaning of Life.
Cydgyfarwyddodd The Holy Grail gyda Terry Gilliam.
Cydysgrifennodd hefyd y gyfres Ripping Yarns gyda Michael Palin, ar ôl i'r ddau gyfarfod ym Mhrifysgol Rhydychen.
"Terry oedd y teipydd cyflymaf o'r ddau ohonom ni, felly fe wnaeth y rhan fwyaf o'r teipio a fe hefyd oedd yn gwneud y coffi!," medd syr Michael.
Dywedodd mai Terry fyddai'r "person olaf a fyddai'n dymuno cael cerflun ohono'i hun", ond y byddai'n "gwneud eithriad" ar gyfer y dyluniad hwn gan y byddai'n hoffi ei ddoniolwch.
Er bod Terry a'i deulu wedi symud i Surrey pan oedd yn bedair a hanner oed, fe gadwodd gysylltiadau â Bae Colwyn, gan ddod yn noddwr Theatr Colwyn a chefnogi ei hadnewyddu yn 2011.
Dywedodd Nick Elphick ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn dangos diddordeb yn y cerflun: "Bydd pobl yn gallu ei fwynhau'n llwyr, a bydd yn creu lluniau eiconig, yn enwedig gyda'i ben ôl mawr!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.