Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth cwpl yn Sir Gâr

Bu farw Adam Muskett a Katie Worrell mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar 13 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed o Sir Benfro wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth cwpl yn y gorllewin drwy yrru'n ddiofal.
Bu farw Katie Worrell, 25, ac Adam Muskett, 27, mewn gwrthdrawiad ar yr A477 yn Sir Gaerfyrddin ar 13 Mehefin 2024.
Roedd Alexander MacCallum yn gyrru car Jaguar i fyny rhiw mewn amodau gyrru gwael pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda'r Ford Fiesta du rhwng Llanddowror a Rhos-goch.
Cafodd dau berson arall oedd yn y Ford Fiesta, oedd yn 27 a 33 oed, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd.
Teyrnged i gwpl ifanc fu farw yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2024
Dau yn eu hugeiniau wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2024
Clywodd y llys fod MacCallum yn "derbyn cyfrifoldeb" am y gwrthdrawiad ac yn "difaru'n fawr" am farwolaethau Ms Worrell a Mr Muskett.
Dywedodd fod dŵr llonydd ar wyneb y ffordd ar y diwrnod hwnnw wedi achosi iddo golli rheolaeth yn "sydyn ac yn annisgwyl".
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Craig Jones, y byddai'r ple yn cael ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron, iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw am ei dderbyn.
Yn y cyfamser dywedodd y barnwr Huw Rees y byddai MacCallum yn cael ei wahardd rhag gyrru ar unwaith, ac fe gafodd yr achos yn cael ei ohirio.