Stephen Jones i arwain Newcastle tan ddiwedd y tymor

Fe wnaeth Stephen Jones ymuno â Newcastle fel dirprwy brif reolwr ym mis Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-faswr Cymru a'r Scarlets, Stephen Jones, wedi ei benodi'n brif hyfforddwr Newcastle Red Bulls tan ddiwedd y tymor.
Daw ar ôl i'r clwb, sy'n cystadlu yn uwchgynghrair Lloegr, ganiatáu i'w hyfforddwr blaenorol Alan Dickens adael y clwb ar unwaith er mwyn iddo "ddilyn cyfleoedd eraill".
Dyma fydd swydd gyntaf Jones fel prif hyfforddwr, yn dilyn cyfnodau fel hyfforddwr yr ymosod dros Gymru, Wasps a'r Scarlets.
Cyn ymuno gyda Newcastle fel dirprwy brif reolwr ym mis Tachwedd, roedd Jones wedi treulio cyfnod fel hyfforddwr olwyr Moana Pasifika yn Seland Newydd.

Enillodd Jones y Gamp Lawn ddwywaith fel chwaraewr i Gymru
Fel chwaraewr enillodd Jones 104 o gapiau i Gymru, a theithiodd gyda'r Llewod yn 2005 a 2009.
Chwaraeodd ran allweddol ym muddugoliaethau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005 a 2008.
Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi'r Scarlets enillodd teitl y Pro12 yn 2017, a thîm hyfforddi Cymru a enillodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2021.
Bydd gêm gyntaf Jones yn ei swydd newydd oddi cartref yn erbyn arweinwyr presennol y Prem, Northampton Saints, ddydd Sadwrn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.