Sala: Ffrae clybiau i gyrraedd pen llanw mewn llys

Bu farw Emiliano Sala ar ôl i'r awyren roedd yn teithio ynddi blymio ar y ffordd i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i bennod olaf y ffrae hir a ddaeth yn sgil marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala gyrraedd pen llanw mewn llys yn Ffrainc ddydd Llun.
Bydd barnwr yn penderfynu a ddylai Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gael iawndal gan FC Nantes ar ôl colli'r ymosodwr o'r Ariannin.
Bu farw Sala, 28, a'r peilot David Ibbotson pan blymiodd yr awyren yr oedden nhw'n teithio ynddi i'r môr ger Guernsey ar 21 Ionawr 2019.
Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae disgwyl i'r anghydfod rhwng y ddau glwb ddod i ben, yn dilyn gwrandawiad mewn llys masnachol yn Ffrainc yn Rhagfyr 2025.
Mae honiad Caerdydd yn seiliedig ar eu dadl fod y dyn wnaeth drefnu'r hediad, Willie McKay, yn gweithio ar ran Nantes. Honiad y mae Nantes yn ei wadu.
Roedd y seren bêl-droed ar ei ffordd i ymuno â CPD Caerdydd - oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ar y pryd - o Nantes am ffi trosglwyddo oedd werth £15m ar ôl arwyddo ddeuddydd ynghynt.
Mam Emiliano Sala'n cefnogi CPD Caerdydd mewn achos yn erbyn Nantes
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025
Emiliano Sala: Dyn yn euog o beryglu diogelwch awyren
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
Mae Caerdydd yn dadlau eu bod yn haeddu mwy na £100m mewn iawndal yn sgil marwolaeth chwaraewr, y maen nhw'n credu, allai fod wedi cadw'r clwb yn yr Uwch Gynghrair.
Mae FC Nantes wedi gwrthod yr honiadau gan wadu "gwneud unrhyw beth o'i le".
'Angen llawer mwy o newid'
Ond mae marwolaeth Sala wedi amlygu diffyg tryloywder byd y trosglwyddiadau pêl-droed, lles chwaraewyr a phryderon ynghylch hediadau siarter.
Mae ffrindiau Sala wedi siarad ynglŷn â'i ansicrwydd am symud i Gaerdydd a pha mor gyflym y digwyddodd y cyfan, gyda negeseuon ffôn wnaeth ymddangos yn dilyn ei farwolaeth yn awgrymu iddo deimlo'n anesmwyth.

Fe wnaeth CPD Caerdydd arwyddo Emiliano Sala fel chwaraewr newydd ddeuddydd cyn y gwrthdrawiad
Yn ôl Lorna McLelland, a sefydlodd Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Lles Chwaraewyr ac sy'n gweithio gyda chlwb Aston Villa, does dim digon wedi ei wneud er gwaethaf galwadau am newid wedi marwolaeth Sala.
Er bod gan y rhan fwyaf o glybiau system lles chwaraewyr ar waith, nid oes safonau penodol ar gyfer yr hyn y dylai'r rôl ei gynnwys.
Dywedodd y dylai "meysydd cyfrifoldeb gorfodol" fod ar waith ym mhob clwb.
"O ran symud chwaraewyr, arian sy'n ganolog i hynny," meddai.
"Rwy'n synnu'n fawr nad oes llawer wedi'i roi ar waith ar gyfer hyn ond, fel ry'n ni'n gwybod, mae pêl-droed yn fyd cymhleth ac mae angen llawer mwy o newid nag sydd wedi bod hyd yn hyn."
Ychwanegodd Jonathan Booker, sy'n gyn-asiant, y bu "ychydig o weithgarwch" o ran lles chwaraewyr a chyfrifoldeb gofal yn dilyn yr hyn ddigwyddodd, ond bod hynny heb bara.
'Ymwybyddiaeth lles yn tyfu'
Dywedodd Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol eu bod yn cydnabod y gallai ffenestri trosglwyddo achosi straen a rhoi pwysau ar chwaraewyr a'u teuluoedd, gan ychwanegu bod ymwybyddiaeth o lesiant chwaraewyr yn "tyfu o fewn y gêm".
"Mae'n hanfodol bod gan chwaraewyr y bobl gywir o'u cwmpas ar adegau fel hyn," meddai.
"Dylai chwaraewr bob amser deimlo bod eu gyrfa yn eu dwylo a bod trosglwyddiad - penderfyniad gyrfa mawr - yn ddewis iddyn nhw."
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed (FA) mai cynghreiriau a chlybiau pêl-droed proffesiynol oedd yn bennaf gyfrifol am lesiant chwaraewyr.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Emiliano Sala yn dilyn y digwyddiad trasig hwn."
Dywedodd yr FA a Chynghrair Bêl-droed Lloegr fod canllawiau CAA ynghylch teithio awyr wedi'u rhannu â chlybiau yn sgil y drasiedi ac yn cael eu hail-ddosbarthu'n rheolaidd o amgylch cyfnodau trosglwyddo.

Fe wnaeth cefnogwyr osod blodau a baneri er cof am Emiliano Sala
Doedd Willie McKay ddim yn asiant cofrestredig ar adeg marwolaeth Sala, ond mi roedd ei fab Mark, ac roedd e'n gweithio gyda Nantes i geisio arwyddo Sala i glwb Uwch Gynghrair.
Roedd Mr McKay yn honni ei fod yn helpu ei fab pan drefnodd hediad Sala trwy David Henderson. Wnaeth y McKays ddim ymateb i gais BBC Cymru am sylw.
Fe gafodd y dyn busnes a drefnodd yr hediad, David Henderson, ddedfryd o 18 mis o garchar fis Tachwedd 2021 ar ôl ei gael yn euog o beryglu diogelwch awyren.
Clywodd yr achos fod y peilot wnaeth Henderson ddewis i hedfan Sala i Gymru - David Ibbotston - ddim yn gymwys i wneud y daith.
Doedd ganddo ddim y drwydded fasnachol i gludo teithwyr na'r tystysgrif cywir i hedfan yn y nos.
Cafodd corff y pêl-droediwr ei adfer o weddillion yr awyren tua phythefnos a hanner ar ôl y ddamwain a'i ddychwelyd i'r Ariannin, ond ni chafwyd hyd i Ibbotson erioed.
Mam Emiliano Sala'n cefnogi CPD Caerdydd mewn achos yn erbyn Nantes
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025
Yn dilyn y ddamwain, fe gafodd rheoliadau llymach eu cyflwyno ym mis Hydref 2025 ar gyfer peilotiaid preifat sy'n cludo teithwyr o dan drefniant "rhannu costau" - lle mae'n rhaid i'r peilot a'r teithwyr rannu holl gostau'r hediad yn gyfartal.
Y nod oedd mynd i'r afael â phryderon bod y system yn gweithredu i wneud pethau'n annelwig ar gyfer rhai hediadau siarter anghyfreithlon, i gynnwys hysbysebu gwell o gymwysterau a phrofiad peilot, cyfyngiadau ar nifer y teithwyr, cyfraniadau cyfartal at gost fel tanwydd a thaliadau maes awyr gan bawb, gan gynnwys y peilot - heb unrhyw elfen o elw - a ffurflen wybodaeth orfodol i deithwyr.
"Nod y camau gweithredu hyn yw gwella tryloywder, sicrhau bod teithwyr yn deall nad ydynt ar hediad masnachol, ac atal siarteru anghyfreithlon," meddai llefarydd ar ran yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).
Dywedodd y CAA eu bod wedi bod yn gweithio tuag at "ddigideiddio trwyddedau peilot" yn dilyn pryderon gan ymchwilwyr damweiniau awyr bod cofnodion peilot yn yr achos hwn ac achosion eraill yn anghywir.
Ychwanegodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) ei fod yn ystyried ymateb y CAA i welliannau cadw cofnodion yn "ddigonol".
Dywedodd llefarydd ar ran adran drafnidiaeth llywodraeth y DU: "Yn dilyn y digwyddiad trasig hwn, fe wnaethom ni weithio gyda'r CAA i gryfhau rheoliadau i helpu i atal hediadau siarter anghyfreithlon ac amddiffyn teithwyr yn well.
"Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o ddamweiniau a sicrhau ein bod yn parhau i ymdrechu am ddiwydiant awyrennau mwy diogel."