Chwe Gwlad: Mynydd i'w ddringo er mwyn codi cenedl

Steve Tandy yn cael ei holi gan y wasg yn lansiad y Chwe GwladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i dîm Cymru, mae Steve Tandy wedi profi llwyddiant yn Twickenham yn ddiweddar

GanCennydd Davies
Prif sylwebydd rygbi BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhaglen ddogfen ar Netflix ar hyn o bryd o'r enw Miracle on Ice.

Mae'n olrhain hanes tîm hoci iâ yr Unol Daleithiau a'r modd, yn gwbl annisgwyl a bron yn anesboniadwy, y gwnaethon nhw guro grym yr Undeb Sofietaidd ar y ffordd i gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Lake Placid yn 1980.

Roedd y gamp ar y pryd, fel mae'r teitl yn awgrymu, yn cael ei ystyried yn gwbl wyrthiol yn erbyn tîm oedd heb golli mewn 12 mlynedd ac yn gwbl ddidostur.

Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi i gwrdd â'r hen elyn ar eu tomen eu hunain ar gychwyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae'r her yn ymddangos yr un mor anobeithiol ag yr oedd hi i'r Americanwyr 46 o flynyddoedd yn ôl, a nifer o wybodusion eisoes wedi sôn bod angen gwyrth debyg yn Twickenham.

Miracle on Ice Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Oes angen gwyrth tebyg i'r Miracle on Ice ar Gymru yn y Chwe Gwlad eleni?

Dyw Cymru heb ennill gêm yn y gystadleuaeth ers 2023, tra bod Lloegr ar y llaw arall wedi ennill 11 yn olynol o dan Steve Borthwick, wrth esgyn i'r trydydd safle ymysg detholion y byd.

Un sydd wedi profi llwyddiant serch hynny yng nghartref rygbi'r Season yw prif hyfforddwr Cymru Steve Tandy.

Y gŵr o Don-mawr oedd hyfforddwr amddiffyn yr Alban pan enillodd y tîm yn 2021 a 2023, a byddai gwneud hynny eto gyda'i famwlad wrth reswm yn brofiad anhygoel.

"Mae'r profiad o ennill mewn stadiwm eiconig fel Twickenham yn anhygoel, a'r peth gorau yw gweld yr effaith mae ennill yno yn cael ar y genedl yn gyffredinol," meddai Tandy.

"Dwi'n ymwybodol nad oes rhyw lawer yn rhoi gobaith i ni, a nifer yn ei weld fel profiad brawychus - sy'n gwbl ddealladwy - ond i ni mae'n gyfle ac fe alla i ddweud yn gwbl glir, ni'n gyffrous ac yn edrych ymlaen at y profiad."

Bwlch anferth rhwng y ddau dîm

Ydy, mae'r rhethreg yn ymddangos yn negyddol, ond mae 'na gyfiawnhad i hynny.

Dim ond dwy fuddugoliaeth mae Cymru wedi'u cipio mewn 23 o gemau.

Rhediad oedd yn cynnwys colli o 68 pwynt yn erbyn yr hen elyn y llynedd, ac yn fwy diweddar o 73-0 yn erbyn y Springboks – er nad oedd y rheiny sy'n chwarae tu fas i Gymru yn bresennol ar gyfer y gêm honno.

Bellach mae'r tîm cenedlaethol wedi colli 11 gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad ac wedi cipio'r llwy bren ddwy flynedd yn olynol.

Mae eu gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn yn symud tua'r cyfeiriad cywir, a nifer yn proffwydo mai nhw fydd ar frig y tabl ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Capteiniaid Pencampwriaeth y Chwe GwladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi colli 11 gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

Mae'r ystadegau yn adrodd cyfrolau, ond er gwaetha'r gwir plaen dyw Steve Tandy ddim yn digalonni.

"Yn realistig, pam fyddai unrhyw un yn rhoi gobaith i ni ar y penwythnos?" meddai.

"Ond yn y pendraw ni ond yn gallu ffocysu ar yr hyn y'n ni'n ceisio ei gyflawni.

"Dwi'n ymwybodol y bydd y mwyafrif yn ein diystyru ni'n llwyr, ond y peth pwysig i ni yw gorffen y gêm bnawn Sadwrn a dangos ein bod ni wedi cymryd camau mawr ers yr hydref."

Llwyddo ar y cae i newid y naratif?

Mae Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer yr ymgyrch, gyda'r holl ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y gêm broffesiynol yn gefnlen i'r cyfan, a dyfodol y Gweilch yn ymddangos yn y fantol.

Mae 'na bedwar o'r rhanbarth hwnnw wedi eu cynnwys yn y 23 i wynebu Lloegr - y capten Dewi Lake, Dan Edwards, Kieran Hardy a Harri Deaves.

Er bod yr holl gecru gwleidyddol yn anorfod wedi cael effaith negyddol, a'r amseru yn anffodus, mae Tandy yn ymwybodol y byddai llwyddo ar y cae yn fodd i sbarduno'r genedl yng nghanol yr holl anghydfod.

Ond haws dweud na gwneud, oherwydd wedi'r daith i Lundain, Ffrainc - sydd yn barod wedi llorio'r Gwyddelod nos Iau - fydd yn ymweld â'r brifddinas, a'r Alban i ddilyn.

Erbyn hynny fe allai Cymru fod yn wynebu talcen caled unwaith eto.

Ydy, mae naws arbennig ac unigryw y Chwe Gwlad yn ôl, ond eleni gobeithio'r gorau ydyn ni o safbwynt Cymru, heb unrhyw argoel fod y diodde' ar fin dod i ben.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now