Teyrnged i ddyn ifanc 'gofalgar' o Bwllheli fu farw mewn gwrthdrawiad

Llun Elis Alan Ogilvy-BardsleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Elis Alan Ogilvy-Bardsley yn dilyn gwrthdrawiad ar y A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn 20 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llŷn wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Elis Alan Ogilvy-Bardsley ei ddisgrifio fel "mab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol".

Bu farw Elis, o Bwllheli, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr, toc wedi 22:00 nos Sadwrn.

Cafodd Heddlu'r Gogledd a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r gwrthdrawiad oedd yn cynnwys sawl cerbyd.

Fe gafodd pedwar ambiwlans eu hanfon i'r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Elis yn y fan a'r lle.

"'Da ni wedi torri'n calonnau bod Elis wedi cael ei gymryd oddi wrthon ni mewn ffordd mor drychinebus," meddai ei deulu.

"Mae ein bywydau ni fel teulu wedi cael eu newid am byth."

Map yn dangos yr A499 rhwng Llaneaelhaearn ac Y Ffôr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tri pherson eu cludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad ar yr A499

Dywedodd ei deulu y byddan nhw'n "colli ei wylio yn chwerthin, yn jocian a chwarae hefo'i frodyr a chwiorydd iau a oedd yn edrych i fyny ato fo ac wrth eu bodd hefo'r amser a dreulion nhw hefo'i gilydd yn cael hwyl".

Ychwanegon nhw fod Elis "yn goleuo pob ystafell" ac yn "tynnu pobl ato fo" ac mai ef oedd "bywyd ac enaid y parti bob amser".

"Roedd o'n mwynhau treulio amser hefo'i ffrindiau, yn teithio a chefnogi timau pêl-droed Cymru a Man United, meddai'r teulu."

Yn ôl ei deulu roedd Elis wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn "edrych ymlaen at astudio'r cyfryngau".

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

A499
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorydd lleol yn galw am welliannau diogelwch i'r A499 yn dilyn y gwrthdrawiad

Yn dilyn y gwrthdrawiad, mae cynghorydd wedi galw ar yr awdurdod lleol i wneud gwelliannau diogelwch ar yr A499.

Dywedodd y cynghorydd Richard Glyn Roberts, sy'n cynrychioli ward Abererch, fod "tristwch mawr" yn lleol, ond nad oedd clywed y newyddion yn sioc.

Mae'n dweud fod y gwrthdrawiad dros y penwythnos yn brawf o'r angen am newidiadau gan alw am linellau gwynion, cyfyngiadau cyflymder a mwy o fesurau i reoli'r traffig.

Wrth ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn".

"[Rydym] yn estyn ein cydymdeimlad i deulu'r person a fu farw," meddai llefarydd.

"Fel yn achos pob damwain angheuol, byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu ac yn ystyried os oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd yn seiliedig ar gasgliadau'r ymchwiliad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now