Crochenwaith yn 'hobi sydd wedi mynd dros ben llestri!'

- Cyhoeddwyd
"Mae gen i hoff ran o'r broses creu, sef ar ôl i mi greu darn ond cyn iddo gael ei danio. Dyw ei holl botensial ddim wedi ei wireddu eto. Dyma'r pwynt olaf lle gall e fod yn berffaith, neu dorri yn yr odyn... Mae 'na rywbeth am y rhan yna."
Mae Angharad Reed o Benybont-ar-Ogwr wedi syrthio mewn cariad yn gyfan gwbl â chrochenwaith, a hynny ers iddi ddechrau creu yn 2018.
Yn gynharach eleni, cyrhaeddodd rownd derfynol y gyfres deledu The Great Pottery Throw Down, ac mae hi'n dweud bod clai wedi ei helpu i ddod drwy nifer o heriau dros y blynyddoedd, ac i ryw raddau, wedi newid ei bywyd.
Chwilio am lawenydd
Yn 2018, roedd Angharad yn gweithio yn y West End yn Llundain fel cynorthwy-ydd wigiau, ac wrth ei bodd gyda chynnwrf, adrenalin a phrysurdeb ei rôl.
Dros y blynyddoedd, cafodd weithio ar sioeau mawr fel Matilda, Young Frankenstein, King Lear, Aida a Don Giovanni.

Ynghyd â gweithio gyda wigiau, roedd Angharad hefyd yn gyfrifol am golur prosthetig ar gyfer y sioe Young Frankenstein
Ond er ei bod yn swydd yn y diwydiant creadigol, doedd hi ddim yn swydd roedd hi'n teimlo ei bod yn gallu bod yn greadigol ynddi, mewn gwirionedd, eglurodd.
"Roeddet ti'n gwneud yr un peth, wyth sioe yr wythnos. Ar yr alwad hanner awr, roeddet ti'n gwybod lle i fynd a beth i'w wneud, a ti'n dod i arfer ag e.
"Ond doedd gen i ddim balans gwaith-bywyd da iawn – gwaith oedd e i gyd. A 'naeth fy nhad-cu farw, a 'naeth e i mi sylweddoli fod bywyd rhy fyr – ac os mai'r cwbl dwi'n ei wneud ydy gweithio, dwi ddim yn gwneud unrhywbeth sy'n dod ag unrhyw lawenydd. Beth o'n i'n ei wneud i mi fy hun?"
A hithau wastad wedi mwynhau bod yn greadigol gyda'i dwylo, penderfynodd fynd ar gwrs crochenwaith 10 wythnos, a newidiodd bopeth iddi, meddai.
"Dwi'n gallu edrych 'nôl nawr a gweld ei fod e'n helpu i mi alaru. Dwi ddim yn dda am stopio, ond am ddwy awr ar fore Gwener, do'n i ddim yn meddwl am y ffaith fod fy nhad-cu wedi marw.
"Do'n i ddim yn sylweddoli pa mor bwerus ydy clai. Ro'n i'n hooked."

Cyfnod Clo = cyfnod clai
Gyda dyfodiad Covid a'r Cyfnod Clo ym mis Mawrth 2020, caeodd y theatrau a chollodd y rhan fwyaf o'r diwydiant – gan gynnwys Angharad – eu swyddi.
Erbyn hynny roedd hi'n ôl yn byw yng Nghymru, ac yn ansicr beth oedd o'i blaen. Roedd yn amser anodd i Angharad, meddai; dechreuodd weithio fel glanhawr i gadw dau ben llinyn ynghyd, ac roedd y cyfyngiadau teithio yn golygu ei bod yn teimlo wedi ei hynysu oddi wrth weddill ei theulu.
Clai a'i helpodd hi eto.
"Roedd gen i 'chydig o fagiau o glai ar ôl yn y fflat, a 'nes i benderfynu jest creu. Dwi wir yn meddwl 'sen i wedi cael breakdown fel arall, achos do'n i wir ddim yn gwneud beth arall i'w 'neud.
"Clai oedd y myfyrdod, a'r meddwlgarwch oedd creu platiau.
"Mae clai yn bwerus achos ti'n llythrennol yn daearu dy hun drwy roi dy ddwylo mewn mwd. A ti'n methu ei ruthro.
"Dwi wedi mynd drwy fy holl fywyd yn rhuthro – 'beth sy' nesa'? Rhaid cario 'mlaen, 'mlaen...' - ond ti methu aros ar y lefel yna. A mae hyn wedi fy helpu i arafu – dwi'n teimlo'n ffodus iawn o hynny."

Er iddi gael cynnig ei swydd yn ôl yn 2021, penderfynodd beidio dychwelyd i'r theatr.
Eglurodd, "roedden nhw wedi ein gollwng dros nos, ac os oedd unrhywbeth arall yn digwydd eto, do'n i ddim ishe bod yn y sefyllfa o beidio gwybod beth oedd am ddigwydd eto".
Ond mae ei chariad tuag at glai wedi parhau. Bellach, mae Angharad yn gwneud ei chrochenwaith ochr-yn-ochr â gweithio fel cymhorthydd cyfathrebu i'w mam, sy'n fyddar ac yn cyfathrebu'n bennaf drwy iaith arwyddo (BSL).
Gwthio ei hun ar y Pottery Throw Down
Yr hyblygrwydd sydd ganddi drwy ei swydd oedd wedi ei galluogi i gystadlu yng nghyfres ddiweddaraf The Great Pottery Throw Down, meddai, a hynny ar ôl mwynhau'r rhaglen ers blynyddoedd.
"O'n i wastad yn ei wylio, ac yn trio gwneud yr heriau technegol, fel creu pethau tra'n gwisgo mwgwd dros fy llygaid neu greu nifer o bethau mewn amser byr.
"Ro'n i'n mwynhau, doedd dim angen rhywbeth gwych ar y diwedd ac roedd e'n fy ngwthio tu fas i'n comfort zone."

Cystadleuwyr, beirniaid a chyflwynydd The Great Pottery Throw Down 2026 - mae Angharad ail o'r chwith yn y cefn
Enillodd le ar y gyfres ddiweddaraf a gafodd ei ffilmio ym mis Medi a Hydref y llynedd.
Roedd yn gyfnod prysur iawn o ffilmio, creu, teithio a chynllunio ar gyfer y dasg nesaf. Ond ag Angharad wedi hen arfer â gweithio o dan bwysau yn y byd theatr, mae hi'n teimlo iddi allu ymdopi gyda'r cyfan.
Er y gwaith caled, cafodd brofiad anhygoel yn y gystadleuaeth, meddai, gan wneud ffrindiau gwych a gwthio'i hun gyda'i chrefft.
"Bob wythnos, ti'n bod yn vulnerable achos ti'n gorfod gwneud pethau ti erioed wedi trio o'r blaen. Ond mae 'na bŵer yna rhywsut o dderbyn os ydy pethau'n mynd o'i le, a wedyn os ti wedi llwyddo i 'neud rhywbeth... beth arall alli di 'neud?"

Cafodd Angharad lawer o hwyl gyda'i chyd-gystadleuwyr ac yn parhau yn ffrindiau gyda nhw
Crochenwaith yn flaenllaw
Gyda'r rhaglen, mae mwy o sylw wedi dod i Angharad a'i gwaith crochenwaith, a thrwy hynny mae hi'n gobeithio dod â chlai at fwy o bobl, fel drwy weithdai yn ei stiwdio.
Mae hi'n pwysleisio fod yna ddim rhaid i grochenwaith fod yn ddrud, "ond fod rhaid i ti gael mynediad at offer penodol", felly o bosib ei fod yn cael ei gyfyngu o ran pwy sy'n medru cymryd rhan.

Hunan gerflun Angharad yw'r peth mae hi fwyaf balch ohono o'r gyfres
Ond er ei bod hi'n trysori'r hyn mae hi wedi ei gael o ymddangos ar y gyfres, mae hi'n cyfaddef y byddai dal yn gwneud crochenwaith hyd yn oed os na fyddai wedi ennill lle ar y sioe.
"Mae'n hobi sydd wedi mynd dros ben llestri braidd!
"Dwi wedi gweithio'n galed er mwyn gallu ei wneud ac wedi aberthu llawer; dwi ddim yn berchen ar fy nhŷ fy hun, ac mae gan ffrindiau fy oed i bethau eraill yn mynd ymlaen, does gen i ddim.
"Ond mae gen i fywyd dwi'n ei garu, ac mae hynny oherwydd mod i wedi dewis gwneud crochenwaith yn flaenllaw.
"Dwi jest eisiau cario 'mlaen i ddysgu ac i chwarae - bydd crochenwaith wastad yn rhan enfawr o fy mywyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021

- Cyhoeddwyd9 Mai 2024

- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2024
