Delweddau ffug tu ôl i dwyll cynyddol yn erbyn cwmnïau yswiriant

Difrod i gar, wedi'i greu gan AIFfynhonnell y llun, Admiral
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhif adnabod y car yma wedi'i newid a'i symud gan AI mewn ymdrech i dwyllo'r cwmni yswiriant

GanHuw Thomas
Gohebydd Busnes
  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni yswiriant yn dweud bod cynnydd sylweddol mewn achosion o dwyll yn rhannol oherwydd delweddau ffug sydd wedi'u cynhyrchu gyda deallusrwydd artiffisial (AI).

Yn ôl Admiral, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, roedd cynnydd 71% mewn twyll yn ystod 2025 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Swyddfa Twyll Yswiriant fod y diwydiant yn "bryderus iawn" am ddefnydd AI ac yn buddsoddi mewn technoleg i fynd i'r afael â'r bygythiad.

Gall cwsmeriaid gael eu hawliad wedi'i wrthod, eu polisi wedi'i ganslo a chael eu herlyn yn gyfreithiol os ydyn nhw'n ffugio neu yn gorliwio hawliad yswiriant.

Difrod i gar, wedi'i greu gan AIFfynhonnell y llun, Admiral
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwsmer wedi ceisio gwaethygu'r niwed i'r car yma fel rhan o dwyll

Mewn dogfennau sydd wedi cael eu rhannu gyda BBC Cymru, mae deallusrwydd artiffisial wedi ei ddefnyddio i newid delweddau a chreu lluniau o eitemau nad oedd erioed yn bodoli.

Cyflwynodd cwsmeriaid y lluniau i Admiral fel rhan o hawliadau yswiriant, cyn cael eu darganfod gan dîm twyll y cwmni wrth wirio'r dogfennau.

Maen nhw'n cynnwys llun o oriawr aur â diemwntau a gafodd ei greu yn amlwg gan AI, tra bod y dechnoleg hefyd wedi cael ei defnyddio i waethygu difrod i gefn car.

Mewn enghraifft arall, mae plât rhif car wedi'i newid a'i symud er mwyn dyblygu hawliadau yswiriant.

Cafodd yr holl ymdrechion yma eu darganfod gan y cwmni, ac fe gafodd yr hawliadau eu gwrthod.

Oriawr, wedi'i greu gan AIFfynhonnell y llun, Admiral
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cwsmer gyflwyno'r llun yma o oriawr - sy'n amlwg wedi'i greu gan AI - i Admiral fel rhan o hawliad yswiriant

"Mae hwn yn duedd ar draws y diwydiant yswiriant," meddai Haith o dîm hawliadau cartrefi Admiral.

Oherwydd natur eu gwaith, mae'r BBC wedi cael cais i beidio â defnyddio cyfenwau staff.

"'Dyn ni'n gweld AI yn cael ei ddefnyddio i drin delweddau i edrych fel eu bod wedi cael eu difrodi mewn ffordd benodol - hyd yn oed i greu a ffugio dogfennau oedd ddim yn bodoli i ddechrau," ychwanegodd.

Er gwaethaf y cynnydd mewn twyll trwy AI, mae'r diwydiant yswiriant wedi ceisio curo'r dechnoleg â'i systemau ei hun.

"Er bod yr offer [AI] ar gael yn hawdd, mae gennym ni feddalwedd gwrth-dwyll da iawn sy'n gallu canfod AI, canfod os yw rhywbeth wedi cael ei drin [gan AI], ac ry'n ni'n gwella ar draws y farchnad hefyd," meddai Haith.

Haith
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant yswiriant yn ceisio curo technoleg AI gyda'i systemau ei hun, meddai Haith

Mae'r diwydiant yn cydweithio i geisio mynd i'r afael â'r bygythiad gan ddeallusrwydd artiffisial, gan gwsmeriaid a throseddwyr.

"Mae'r diwydiant yn bryderus iawn am hyn ac yn buddsoddi mewn technoleg," meddai John Davies o'r Swyddfa Twyll Yswiriant.

"Mae'n fater sy'n symud yn gyflym, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n gadarnhaol yw'r cydweithio ar draws y diwydiant, y ddealltwriaeth ei fod yn fygythiad, ond hefyd mae cyfleoedd yno o ran sut y gallwn rannu gwybodaeth ac arferion i helpu i ddefnyddio AI mewn ffordd bositif."

Dywedodd Mr Davies fod rhai cwsmeriaid yn defnyddio AI i orliwio hawliadau dilys, ond mae gangiau o droseddwyr hefyd yn defnyddio'r dechnoleg i greu dogfennau ffug sy'n "gwneud eu twyll yn fwy effeithiol".

Flora
Disgrifiad o’r llun,

Mae Flora yn dweud bod cwsmeriaid yn wynebu "canlyniadau enfawr" os ydyn nhw'n ceisio twyllo'r cwmni yswiriant

Er bod costau yswiriant yn cynyddu i bawb oherwydd y cynnydd mewn twyll, gallai'r rhai sy'n cael eu dal wynebu achos cyfreithiol.

"Mae'r canlyniadau'n enfawr," meddai Flora, sy'n rhan o'r tîm sy'n asesu twyll.

"Dwi'n credu nad yw pobl yn aml yn sylweddoli y gall canlyniadau'r twyll newid bywydau, o leiaf yn y tymor byr."

Yn yr achosion gwaethaf gall arwain at gael eu herlyn yn gyfreithiol, meddai Flora, ond hyd yn oed yn y tymor byr y "gall wneud eich bywyd yn eithaf anodd" a "dyw e ddim werth e o gwbl".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now