'Teimlo fel ffawd' - Cymuned yn cwblhau pryniant capel Cwm Rhondda

- Cyhoeddwyd
Mae grŵp cymunedol wedi cymryd perchnogaeth swyddogol o gapel hanesyddol a welodd y perfformiad cyntaf o un o emyn-donau enwocaf Cymru.
Fe lwyddodd ymgyrch funud olaf i brynu Capel Rhondda yn Nhrehopcyn ger Pontypridd ar gyfer y gymuned.
Mae'r gymuned hefyd yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu helpu i wneud "gwaith hanfodol" i'r capel, ar ôl i'r pryniant gael ei gadarnhau ddydd Mercher.
Mae'r capel yn arwyddocaol yn hanes Cymru gan mai dyna ble cafodd yr emyn-dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907.
Dywedodd Rhian Hopkins, a ddechreuodd yr ymgyrch i geisio codi arian i brynu'r capel, ei fod yn "teimlo fel ffawd be' sydd wedi digwydd".

Dywedodd Rhian Hopkins bod yr ymgyrch wedi denu ymateb o bedwar ban byd
Roedd pobl Trehopcyn yn poeni y byddai rhan bwysig o hanes yr ardal yn mynd ar goll heb gadw'r capel yn nwylo rhywun lleol.
Ond, ar ôl ennill y frwydr i achub y capel mae'r gymuned yn croesawu'r datblygiad diweddaraf yn y stori.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ychwanegodd Rhian Hopkins: "Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod hynod o gyffrous achos o'r diwedd, ar ôl saith mis wnaethon ni gwblhau ein pryniant o'r capel.
"Roedd yn emosiynol iawn mynd i'r capel am y tro cyntaf ar ôl yr holl waith.
"Ces i fy magu yn y pentre', es i i ysgol Sul yno... mae 'na lot o bobl yn y pentre' gyda llawer mwy o atgofion na fi, ond ro'n i just yn teimlo bod o'n bwysig bod yr adeilad yn aros yn y gymuned."

Roedd perfformiad gan Gôr Meibion Pontypridd wrth ailagor y capel fore Iau
Dywedodd bod yr ymgyrch i gasglu'r arian i brynu'r capel wedi cyrraedd y nod mewn 10 diwrnod, a bellach wedi derbyn grant o £10,000 gan gynllun Perthyn Llywodraeth Cymru sydd am helpu i wneud arolygon ar yr adeilad.
"Fel llawer o gapeli, does dim arian i wario arnyn nhw i sicrhau bo nhw'n aros mewn stad dda felly bydd angen gwario llawer iawn ar y capel," meddai.
"Ar hyn o bryd ry ni'n meddwl rhyw £200,000 - felly mae heddiw a ddoe yn ddiwrnodau pwysig, carreg filltir bwysig, ond mae taith hir o'n blaenau ni a fydd angen cefnogaeth."

"Mae taith hir o'n blaenau ni a fydd angen cefnogaeth," meddai Rhian Hopkins
Mae cyfraniadau ar gyfer yr ymgyrch wedi dod o wledydd ar draws y byd, meddai Rhian.
"Mae'r emyn-dôn mor bwysig i bobl. Mae pobl wedi dweud pethau fel canwyd yn angladd fy nhad-cu neu yn fy mhriodas."
"Cefais fraint o siarad gyda rhywun o ogledd Lloegr a wnaeth ddarllen am yr ymgyrch mewn papur newydd o Loegr wnaeth yrru llythyr i'r BBC gyda siec.
"Mae'n anhygoel yr ymateb rydyn ni wedi'i gael."

Yn y capel y cafodd yr emyn-dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907
O ran ddyfodol tymor hir y capel, dywedodd Rhian ei bod wedi meddwl agor canolfan i ymwelwyr.
"Ond wrth gwrs bydd hynny yn brosiect mawr a bydd angen cefnogaeth gan y cyngor, gan y llywodraeth efallai," meddai,
"Ni wir eisiau ymgysylltu â'r gymuned, codi lot mwy o arian a cheisio am arian."
"Mae'n teimlo fel ffawd be sydd wedi digwydd," ychwanegodd.

Roedd cyfle i bobl weld yr adeilad unwaith eto fore Iau
Wrth ailagor y capel ddydd Iau, roedd perfformiad o'r emyn-dôn gan Gôr Meibion Pontypridd, a chyfle i bobl leol weld yr adeilad unwaith eto.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford ei fod yn brofiad arbennig clywed y perfformiad yn y capel.
Ychwanegodd ei fod yn falch o gefnogi'r ymgyrch er mwyn "diogelu adeilad o bwys hanesyddol a diwylliannol i'r dyfodol, a chreu canolfan i'r gymuned ble fydd y Gymraeg yn cael ei hybu a'i defnyddio".
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru "bydd y cyllid yn helpu'r gymuned leol i wneud gwaith hanfodol wrth iddynt gymryd perchnogaeth o'r hen gapel".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2025

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2025
