Ymgeisydd etholiad Plaid Cymru yn camu'n ôl dros neges am blant

Neil Roberts Ffynhonnell y llun, Neil Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Roberts wedi ymddiheuro am y neges ar X

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd wedi camu i lawr ar ôl i hen neges ar gyfryngau cymdeithasol ddod i'r amlwg lle defnyddiodd air sarhaus i ddisgrifio plant.

Anfonodd Neil Roberts, a oedd yn bedwerydd ar restr y blaid yng Nghaerdydd Penarth, y neges yn 2021 ar y platfform a elwid bryd hynny yn Twitter.

Roedd Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, wedi dosbarthu sgrinlun o'r neges, gan ddweud y dylai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, "roi eglurder ar frys ynghylch a yw'n cefnogi'r sylwadau hyn".

Dywedodd Roberts fod y defnydd o'r term "slang ar-lein" yn "anghywir" a'i fod yn cymryd cyfrifoldeb llawn amdano ac nad oedd am dynnu oddi ar ymgyrch y blaid.

'Amhriodol ac yn amrwd'

Yn y sgrinlun, mae neges gychwynnol yn dangos defnyddiwr Twitter yn dweud eu bod nhw "yn erbyn pobl yn cael plant dim ond er mwyn gwneud hynny. Peidiwch â chael plant os nad ydych chi'n gallu eu magu".

Atebodd Neil Roberts fod plant "am oes nid dim ond am y Nadolig", gan ddefnyddio term sarhaus i gyfeirio at blant.

Mewn datganiad cychwynnol dywedodd Roberts fod y sylw wedi dod o "hen gyfrif cyfryngau cymdeithasol sydd wedi darfod".

"Bydd y rhai sy'n gyfarwydd â thermau slang ar-lein yn gwybod nad oedd unrhyw awgrym anfoesol i'w olygu, roedd yn ymgais ddi-flewyn-ar-dafod at hiwmor ac rwy'n difaru hynny'n fawr."

Yn ddiweddarach cyhoeddodd Plaid Cymru ddatganiad pellach gan Neil Roberts, gan ychwanegu: "Flynyddoedd yn ôl, gwneuthum sylw gan ddefnyddio slang ar-lein a oedd yn amhriodol ac yn amrwd.

"Roedd yr iaith a ddefnyddiais yn anghywir, ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb llawn amdano. Ymddiheuraf yn llwyr am y tramgwydd a'r pryder y mae wedi'i achosi.

"Rwy'n cydnabod bod gan y rhai sy'n ceisio swydd gyhoeddus gyfrifoldeb i hyrwyddo dadl barchus ac adeiladol. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi ceisio'i wneud ers mynd i mewn i wleidyddiaeth, a byddaf yn parhau i ymdrechu tuag ato.

"Fodd bynnag, nid wyf am i hyn dynnu sylw oddi ar yr ymgyrch nac at y materion sy'n bwysig i'n cymuned.

"Felly, rwy'n camu i lawr fel ymgeisydd ar unwaith. Dymunaf y gorau i'r blaid a'i hymgeiswyr yn yr ymgyrch hanesyddol hon sydd o'n blaenau."

Roedd Roberts yn bedwerydd ar y rhestr yn etholaeth Caerdydd Penarth, sy'n cwmpasu gorllewin Caerdydd a thref Penarth.

Mae'n rhaid i bleidiau wneud yn rhyfeddol o dda i gael eu hymgeiswyr yn y pedwerydd safle wedi'u hethol, gyda'r ymgeiswyr yn y safle cyntaf a'r ail yn fwy tebygol o ennill o dan y system etholiadol newydd a ddefnyddir ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now