Carcharu hyfforddwr ceffylau am ymosod ar ddyn gyda ffon hoci

Llun Evan WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evan Williams wedi cael dedfryd o dair blynedd yn y carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr ceffylau ar gyfer y Grand National wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod ar ddyn oedd yn cerdded ci ar ei dir.

Fe wnaeth Richard Evan Rhys Williams - sy'n 55 oed, ac yn cael ei adnabod fel Evan - daro Martin Dandridge sawl gwaith gyda ffon hoci yn ystod yr ymosodiad yn Llancarfan, Bro Morgannwg, ym mis Rhagfyr 2024.

Fe wnaeth Williams dorri braich Mr Dandridge, 72, yn ystod y digwyddiad.

Yn ei achos ym mis Mawrth 2026, cymerodd awr a 45 munud i reithgor ganfod Williams yn euog o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Clywodd y gwrandawiad bod Williams wedi bod yn wyliadwrus yn dilyn digwyddiad gyda photswyr ychydig cyn y noson dan sylw, pan gafodd ei fygwth gyda gwn.

Ond wrth roi dedfryd tair blynedd, dywedodd y barnwr Angharad Price bod y drosedd yn un "ofnadwy", ac nad oedd "byth yn dderbyniol" i weithredu fel y gwnaeth.

Evan WilliamsFfynhonnell y llun, PA Media

Yn ystod yr achos llys dywedodd Mr Williams ei fod wedi rhedeg fferm laeth ei rieni ers yn 18 oed, cyn symud i'r maes hyfforddi ceffylau rasio a sefydlu cwmni yn 2003.

Erbyn adeg yr ymosodiad roedd ganddo 120 o geffylau mewn dau leoliad.

Ar y noson dan sylw, fe gafodd alwad ffôn gan ei ferch, sy'n byw gyda'i dyweddi mewn eiddo arall ar dir y fferm, yn dweud bod goleuadau ymlaen yn yr ardal garlamu.

Ar y pryd roedd Mr Dandridge, 72, yn rhentu bwthyn gwyliau gyda'i wraig ger caeau marchogaeth a safle hyfforddi ceffylau Mr Williams.

Roedd Mr Dandrige yno er mwyn bod yn agos at ei ferch oedd yn mynd i roi genedigaeth.

Cyn mynd i'r gwely tua 21:00, aeth Mr Dandridge â'r ci am dro, gan wisgo tortsh ar ei ben, ac roedd gan y ci hefyd olau wedi ei osod ar ei goler.

Llun ardal garlamu Mr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ger ardal garlamu Mr Williams

Wedi iddo dderbyn neges ei ferch yn rhybuddio am oleuadau yn yr ardal garlamu, dywedodd Mr Williams iddo neidio i'w gerbyd a chodi cymar ei ferch cyn siarad gyda swyddogion heddlu oedd yn ymchwilio i droseddau cefn gwlad lleol ac yn chwilio am botswyr.

Dywedodd yr erlyniad bod Mr Williams wedi gyrru at y plismyn a dweud wrth y swyddogion bod rhywun yn defnyddio goleuadau i ddallu anifeiliaid ar ei dir (lamping), gan ychwanegu "rwy'n mynd i'w herio nhw".

Fe ddilynodd yr heddlu Mr Williams.

Gwelodd Mr Dandridge ddyn yn dod allan o gar gan ofyn "beth wyt ti'n ei wneud", ac roedd yn cario ffon hoci.

Cafodd Mr Dandridge ei daro sawl gwaith, gan gynnwys ar ei frest, ei goes, ei fraich a'i wyneb gan adael Mr Dandridge mewn sioc llwyr.

"Dyma ddyn oedd yn mynd â'i gi am dro, a nawr mae'n wynebu ymosodiad gyda ffon hoci," meddai'r erlynydd William Bebb wrth yr achos.

'Ro'n i'n meddwl 'mod i am farw'

Ceisiodd Mr Dandridge egluro ei fod yn aros yn y bwthyn gwyliau, ond nad oedd y diffynnydd wedi deall hynny.

Cafodd Mr Dandridge anaf i'w fraich yn ystod yr ymosodiad.

Wrth gael ei holi yn ystod yr achos fe ddywedodd: "Fe wnaeth dyn ddod ata i gan weiddi a swnio'n flin ac roedd yn cario gwrthrych wrth iddo nesáu, yna gwnes i sylwi mai ffon hoci oedd e."

Dywed Mr Dandridge wrth y llys fod Mr Williams yn "cario'r ffon hoci gyda'i ddwy law", ei fod wedi ei daro ar ei gefn yn gyntaf, a'i fod yn "boenus".

"Ro'n i'n meddwl 'mod i am farw a doedd dim byd y gallwn i wneud."

Llun bwthyn ger safle hyfforddi ceffylau Mr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Dandridge wedi bod yn aros yn y bwthyn gwyliau gyda'i wraig am dair wythnos cyn y digwyddiad

Roedd Connor Ring, joci a phartner merch Mr Williams hefyd yn bresennol, ac fe geisiodd symud Mr Williams i ffwrdd.

Cafodd Mr Dandridge ei gludo i'r ysbyty lle ddangosodd archwiliad pelydr-X ei fod wedi torri asgwrn yn ei fraich, a chafodd ei roi mewn cast.

Cafodd Evan Williams ei arestio ar 5 Rhagfyr 2024, ac mewn cyfweliad gyda'r heddlu fe wadodd ymosod ar Martin Dandridge gyda ffon hoci, gan ddweud bod yr anafiadau a gafodd wedi deillio o gael ei dynnu gan ei gi i ffos.

Dywedodd David Elias KC, ar ran Williams, y byddai dedfryd o garchar yn cael effaith ar ei deulu, busnes, staff a pherchnogion y ceffylau maen eu hyfforddi.

Dywedodd bod neb arall i gymryd yr awenau gyda'i fusnes, a alwodd yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal.

Clywodd y gwrandawiad hefyd am broblemau iechyd meddwl Williams ar ôl digwyddiad chwe wythnos cyn noson y drosedd, pan gafodd ei fygwth gan botswyr ar ei dir gyda gwn.

Fe wnaeth y barnwr Angharad Price dderbyn "ofn a gwyliadwraeth ychwanegol" y diffynnydd yn dilyn y digwyddiad cyntaf, ond dywedodd bod yr ymosodiad ar Mr Dandridge yn "ofnadwy".

"Roedd gennych chi ddewis y noson honno, drwy aros i'r heddlu ddelio gyda'r sefyllfa, ond fe wnaethoch chi ruthro i'r padog i ddelio gyda'r peth eich hun."

Cafodd ddedfryd o dair blynedd o garchar.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now