Tafwyl yn cyhoeddi perfformwyr 2026 wrth ddathlu 20 mlynedd

Bydd Candelas ymysg y perfformwyr yng Nghastell Caerdydd eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Tafwyl wedi cyhoeddi ei rhestr lawn o berfformwyr ar gyfer 2026, wrth ddathlu 20 mlynedd o'r ŵyl.
Bydd yr ŵyl Gymraeg yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar 20 a 21 Mehefin eleni.
Ymhlith yr artistiaid mae Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris, Martha Elen, Al Lewis, Taran a Sage Todz.
Bydd digwyddiad arbennig ar y prif lwyfan yn cloi'r ŵyl, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Tafwyl yn y brifddinas.

Dywed y trefnwyr fod y digwyddiad wedi tyfu y tu hwnt i furiau'r castell erbyn hyn, gyda safle'r ŵyl yn ymestyn i'r ffos o flaen y castell a'r gerddi y tu cefn eleni.
Yn ôl Menter Caerdydd, sy'n trefnu'r ŵyl, bydd sawl llwyfan ar y safle estynedig yn cynnal cymysgedd o gerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol eraill, gan gynnwys llenyddiaeth a chomedi.
Dywedodd y bydd y penwythnos yn dod i ben gyda "Pharti Dathlu 20 mlynedd o Tafwyl" ar y prif lwyfan.
Mae'r ŵyl yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd, meddai'r trefnwyr.
Mae disgwyl i fanylion pellach am yr amserlen a'r rhaglen lawn gael eu cyhoeddi ar wefan Tafwyl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
