Enwi bachgen 17 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yn Abertridwr

Abertridwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Francis Isaf yn Abertridwr brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi enwi bachgen 17 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yn Abertridwr, sir Caerffili, ddydd Iau.

Cafodd plismyn eu galw i Stryd Francis Isaf yn Abertridwr tua 17:45 ddydd Iau ar ôl adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu'n ddifrifol.

Bu farw Tristan Shae Kerr, o Abertridwr, wedi'r digwyddiad.

Mae tri dyn - un 26 oed o Lundain, un 24 oed o Abertridwr ac un 18 oed o Gaerdydd - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae dwy fenyw - un 28 oed o Henffordd ac un 24 oed o Senghennydd - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r pump yn parhau yn y ddalfa ac mae teulu Tristan yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai'r llu.

'Pwysig nad yw pobl yn dyfalu'

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths "y bydd mwy o swyddogion yn yr ardal wrth i ymholiadau barhau".

"Mae'n bwysig nad yw pobl yn dyfalu pwy yw y rhai dan sylw gan y gallai hyn gyflwyno problemau i'n hymchwiliad," meddai.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now