'Couch i 50k': Gwneud marathonau ar ôl cychwyn rhedeg yn y cyfnod clo

Catrin Mather yn Abersoch, Ebrill 2025, yn barod i ddechrau rhedeg 50 cilomedr yn y SheUltra
- Cyhoeddwyd
Mae dechrau rhedeg o'r newydd a chwblhau'r rhaglen 'Couch to 5k' yn dipyn o gamp - ond wnaeth un ferch o'r Felinheli gario mlaen i 50k.
Fe benderfynodd Catrin Mather roi cynnig ar redeg yn ystod y cyfnod clo gan nad oedd hi'n gallu mynd i'r gampfa oherwydd rheolau'r pandemig - ond doedd o ddim yn hawdd.
"Dwi'n cofio mynd tro cyntaf a nath fy nhad a'm mrawd bach ddod efo fi i gadw cwmni i fi a thrio helpu fi ddysgu rhedeg," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
Roedd hi wedi penderfynu dilyn ap 'Couch to 5k', sy'n dathlu'r 10 mlynedd eleni ac wedi cael ei ddefnyddio am dros un biliwn o funudau dros y ddegawd.
Mae'r ap yn helpu pobl i ddechrau rhedeg drwy gynyddu'r pellter yn raddol bob wythnos. Mae hefyd yn cynnwys lleisiau nifer o bobl adnabyddus sy'n annog y rhedwr dros y cyfnod.

Catrin, gyda'i thad Carl Mather, yn rhedeg ei ras cyntaf ym mis Medi 2021 - 10 cilomedr Ynys Môn
Meddai Catrin: "Roedd o'n apelio i fi achos mai mond rhedeg tair gwaith yr wythnos oedd angen gwneud ac roedd 'na lais - a neshi ddewis (y comedïwr) Sarah Millican.
"Neshi feddwl fasa hi yn eitha' ysgafn a funny yn hytrach na chael rhywun rhy serious a basa hynny'n gwneud o ychydig bach yn haws.
"Roedd hi'n wych chwarae teg. Roedd hi'n rhoi cyngor yn ystod pob sesiwn a rhoi adborth a ballu ac wedyn o'n i'n mynd tair gwaith yr wythnos am naw wythnos. Erbyn y diwedd ro'n i'n gallu rhedeg am hanner awr heb stopio oherwydd mod i wedi dilyn y camau wythnosol."

Rhedeg Marathon y Pererinion ym Mhen Llŷn yn 2024
I nifer o redwyr newydd y cyfnod cyntaf ydi'r anoddaf - ond roedd Catrin yn gweld y pwynt hanner ffordd yn waeth.
"Dwi'n cofio gorfod ail 'neud wythnos pump ddwywaith achos roedd 'na naid eitha' mawr yr wythnos yna," meddai.
"Dwi'n meddwl bod o'n ddigon teg i bobl sylweddoli os ydi o'n anodd bod o'n iawn ail wneud wythnos - jest bod y ffitrwydd yn datblygu'n naturiol."
Fe gyrhaeddodd ei nod o redeg pump cilomedr - a chael blas ar wneud mwy.
Erbyn Medi 2021 roedd hi'n rhedeg ras dwbl y pellter, ac ers hynny mae hi wedi cwblhau hanner marathonau, marathonau llawn a 50 cilomedr yn y SheUltra llynedd ym Mhen Llŷn.
Mae hi hefyd wrthi'n gwneud cyfres hanner marathonau Ewrop a newydd ddychwelyd o Berlin.

Catrin a'i ffrind Elen Jones ar ddechrau hanner marathon Berlin fis Ebrill 2026
Mae'n dweud na fyddai hi wedi gallu dychmygu cwblhau y fath bellter pan ddechreuodd ei wythnos gyntaf o redeg yn ystod y pandemig.
"O'n i wir methu rhedeg y munud a hanner yna yn hawdd o gwbl," meddai.
"Dwi'n cofio gallu gwneud yr hanner awr cynta' heb stopio a meddwl bod o'n ofnadwy o anodd ond lwcus i fi sticio efo fo a gorffen y 5k achos mae o wedi agor y drysau i wneud llwyth o bethau wedyn."
A gan ei bod wedi mwynhau ei phrofiad gymaint mae hi bellach yn ceisio annog plant a phobl ifanc i ddechrau rhedeg drwy helpu trefnu rasys plant yn ystod Gŵyl Felin.
Meddai: "Mae o'n gyfle gwych i hybu rhedeg o oedran ifanc a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael medal a bod pawb yn mwynhau a bod 'na ddim pwysa gan fod o i fod yn hwyl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
