Dwy ferch wedi marw'n ddamweiniol ar ôl boddi yn Eryri - cwest

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Lwybr Watkin ym Mehefin 2025
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cofnodi bod dwy ddynes ifanc wedi marw yn ddamweiniol ar ôl boddi tra'n padlo ar noson braf yn Eryri fis Mehefin y llynedd.
Bu farw Hajra Zahid, 29, a'i chwaer Haleema Zahid, 25, yng Nghwm Llan, uwchlaw Nant Gwynant, mewn ardal sy'n cael ei hadnabod hefyd fel Pyllau Watkin.
Dywedodd timau achub mynydd wrth y cwest yng Nghaernarfon ei bod yn ymddangos bod y ddwy ddynes wedi disgyn neu lithro i'r dŵr ac wedi methu dod yn ôl allan.
Clywodd y cwest bod y ddwy yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caer ac wedi symud i'r DU o Bacistan ym mis Ionawr 2025.

Roedden nhw ymhlith grŵp o bump o ffrindiau prifysgol oedd wedi teithio i ogledd Cymru ar 11 Mehefin y llynedd.
Ar ôl cyrraedd ardal Nant Gwynant tua 18:00, roedd y pump wedi cerdded tua 40 munud i'r pyllau dŵr, cyn penderfynu gwahanu i ddau grŵp.
Wrth roi tystiolaeth i'r cwest, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gutun Lake, o Heddlu Gogledd Cymru, fod y tri dyn oedd gyda'r merched yn dweud iddyn nhw wneud hyn allan o barch ac am resymau crefyddol fel Mwslemiaid.
Roedd y ddwy chwaer, oedd yn astudio gradd meistr, wedi cerdded ymhellach i fyny'r llwybr.
Pan geisiodd gweddill y grŵp ddod o hyd i'r merched tua hanner awr wedyn, doedden nhw ddim yn ymateb i'w galwadau.
Yn ddiweddarach fe ddaethon nhw o hyd i'r chwaer hynaf, Hajra, yn arnofio wyneb lawr yn y dŵr.
"Fe lwyddon nhw i'w thynnu hi o'r dŵr," dywedodd DC Lake, "ond doedd dim golwg o'i chwaer."
'Dim amgylchiadau amheus'
Daeth cerddwr lleol i'w helpu a rhoi CPR i Hajra Zahid tan i wasanaethau brys gyrraedd.
Fe aeth aelodau o Dîm Achub Mynydd Llanberis i'r dŵr i dynnu Haleema Zahid allan, ond cafodd y ddwy chwaer eu cadarnhau'n farw yn y fan a'r lle.
Cadarnhaodd DC Lake nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus, a dim tystiolaeth bod unrhyw un arall yn rhan o'r digwyddiad.
Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod y ddwy wedi boddi.
Wrth grynhoi, dywedodd y Crwner Cynorthwyol Sarah Riley ei bod yn ymddangos bod y ddwy ddynes allan o'u dyfnder yn y dŵr ac wedi methu â nofio i'r lan.
Ond gan nad oedd tystion uniongyrchol, doedd hi ddim yn bosib cadarnhau sut a pham oedd y ddwy yn y dŵr.
Dwy ddynes wedi marw mewn pyllau yn Nant Gwynant
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2025
Teyrnged i ddwy chwaer fu farw yn Nant Gwynant, Eryri
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2025
Ychwanegodd ei bod yn "annhebygol eu bod wedi mynd i'r dŵr dwfn yn fwriadol i nofio", gan fod y ddwy yn dal yn eu dillad a'r un ohonynt yn gallu nofio.
Roedd "ail bosibilrwydd eu bod wedi cerdded ymhellach fyny a disgyn mewn i'r dŵr hefyd yn annhebygol" meddai, am fod y ddwy wedi gadael eu hesgidiau ymhellach lawr ac na fydden nhw'n debygol o fod wedi cymryd y llwybr dan sylw yn droednoeth.
Yn ôl y crwner, roedd posibilrwydd arall bod y ddwy yn padlo ar graig gerllaw, a bod un neu'r ddwy ohonynt wedi llithro i'r dŵr.
Roedd aelodau o'r tîm achub mynydd eu hunain wedi llithro wrth geisio achub y merched, a'r graig wedi'i disgrifio fel un "hynod lithrig".
Cadarnhaodd Miss Sarah Riley bod y ddwy wedi boddi a chasglodd bod y ddwy farwolaeth yn ddamweiniol, gan dderbyn nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus nag unrhyw un arall wedi chwarae rhan yn y marwolaethau.
"Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf i'w ffrindiau a'u teulu," ychwanegodd, gan ddisgrifio'r achos fel un "hynod drasig".
"Hoffwn atgoffa'r cyhoedd fod nofio a nofio gwyllt mewn pyllau yn beryglus, ac y dylai pobl ystyried cyn gwneud hynny yn y dyfodol," meddai.
Ymhlith teyrngedau gafodd eu rhoi i'r merched, dywedodd gŵr Hajra Zahid, Haessham Minhas, fod y fam i ddau o blant yn rhywun oedd yn "ysbrydoli pawb o'i chwmpas" a bod "teulu o hyd yn ganolbwynt i'w bywyd".
"Roedd ei chryfder a'i haberth," ychwanegodd, "yn adlewyrchiad o'i chariad tuag at ei phlant a'i gobeithion am eu dyfodol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.