Quran yn Gymraeg a gweddïau Eid ym Mhrestatyn: Hanes Islam yng Nghymru

Ffenestri lliw, darn arian, Sheikh Abdul HamidFfynhonnell y llun, Abdul-Azim Ahmed
GanDr Abdul-Azim AhmedCyngor Mwslemaidd Cymru a Chanolfan Islam yn y DU, Prifysgol Caerdydd a Llio RhysBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n gyfnod Ramadan i Fwslemiaid ledled y byd, gan gynnwys y tua 70,000 o bobl yng Nghymru sy'n dilyn ffydd Islam; nifer sydd wedi symud yma i fyw, ond nifer fawr sydd wedi eu geni yma.

Dydy presenoldeb y grefydd yn y wlad yma ddim yn newydd, wrth gwrs.

Dr Abdul-Azim Ahmed yw Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Astudio Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Cymru, ac awdur y llyfr Muslim Wales – A History in 9 Places.

Yma mae'n rhoi ambell i enghraifft o dystiolaeth fod Islam i'w ganfod ledled Cymru ers cenedlaethau, a hynny yn y lleoedd mwyaf annisgwyl:

Ffenestri lliw Eglwys Llanbadrig

Ar Ynys Môn, mae casgliad o eglwysi hynafol sy'n cadw cyfrinach; tu mewn iddyn nhw mae ffenestri lliw Islamaidd trawiadol.

Dyma waddol cymeriad unigryw, yr Arglwydd Henry Stanley, 3ydd Barwn Alderley. Roedd yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ac wedi mabwysiadu'r ffydd Fwslemaidd yn 1859.

Roedd yr Arglwydd yn ei gweld hi'n gyfrifoldeb i gefnogi eglwysi ar ei dir, felly ariannodd y gwaith i adnewyddu nifer o eglwysi canoloesol.

Er parch i'w ffydd Fwslemaidd, cafodd ffenestri lliw o batrymau geometrig amrywiol eu gosod yn eglwysi Sant Pedr yn Niwbwrch, Sant Pedr yn Llanbedrgoch, y Santes Fair ym Modewryd, Sant Peirio ger Rhosgoch, a'r mwyaf enwog yn Eglwys Llanbadrig.

Dyma symbol o blethiad dwy ffydd fwyaf Cymru, Islam a Christnogaeth.

ffenestri lliwFfynhonnell y llun, Abdul-Azim Ahmed
Disgrifiad o’r llun,

Ffenestri lliw gyda phatrymau Islamaidd yn eglwys Llanbadrig

Darn arian Offa

Mae Clawdd Offa yn ymlwybro ei ffordd ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac wir yn gyfrifol amdani. Cafodd y domen ei adeiladu gan y Brenin Offa o Mersia yn yr 8fed ganrif, a greodd – heb drio – gadarnle o siaradwyr Cymraeg yn erbyn siaradwyr Saesneg dros y ffin, gan helpu i ffurfio'r Gymru fodern rydyn ni'n ei 'nabod heddiw.

Mae Offa hefyd yn cyflwyno'r dystiolaeth gyntaf o gysylltiad rhwng Ynysoedd Prydain a'r byd Mwslemaidd yn ehangach.

Mae Offa yn enwog am ddarn o arian, wedi ei fathu gyda'i deitl brenhinol – OFFA REX – ynghyd â datganiad o'r ffydd Fwslemaidd mewn Arabeg. Mae'r arian unai'n gopi neu'n ddarn arian Mwslemaidd wedi ei ail-stampio, ond mae'n helpu i ddangos pa mor gysylltiedig oedd y byd cyn-fodern.

Darn arian OffaFfynhonnell y llun, Yr Amgueddfa Brydeinig

Gweddïau Eid ym Mhrestatyn

Roedd Sheikh Abdul Hamid yn bensaer a gafodd ei eni yn India, ond a symudodd i Brydain yn ei dridegau er mwyn datblygu ei yrfa. Yn ystod y cyfnod yma roedd yn weithgar iawn yn y gymuned Fwslemaidd newydd oedd wrthi'n datblygu.

Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, cafodd Abdul Hamid ei adleoli i'r Rhyl i weithio gyda'r Weinyddiaeth Weithfeydd. Tra'i fod yno, trefnodd weddïau Eid ym Mhrestatyn yn 1942, a oedd yn cael eu mynychu gan fyfyrwyr prifysgol, ifacwis Mwslemaidd ac arweinwyr dinesig, yn ogystal â Thywysog Coronog Persia a oedd wedi ei ddiorseddu.

Ef hefyd a sefydlodd Gymdeithas Fwslemaidd Cymru, cyn cael ei ladd gan fomiau Natsïaidd yn Llundain yn 1944. Cafodd ei gladdu ym Mynwent y Gorllewin Caerdydd.

Sheikh Abdul Hamid a milwyr o'r Cwmni IndiaiddFfynhonnell y llun, Gyda chaniatâd caredig yr Arglwyddes Langford o Neuadd Bodrhyddan
Disgrifiad o’r llun,

Sheikh Abdul Hamid (rhes gefn, mewn tyrban) yn croesawu milwyr Indiaidd i'r Rhyl ym mis Hydref 1942. Roedd 300 o filwyr Indiaidd-Fwslemaidd wedi bod yn rhan allweddol o'r ymgais i helpu milwyr i ddianc o Dunkirk yn 1940, ond mae eu cyfraniad wedi cael ei anghofio, yn ôl rhai

Llawysgrif gudd Glyn y Groes

Mae Valle Crucis, neu Glyn y Groes, yn abaty ger Llangollen. Yn yr 1890au, roedd yr abaty yn cael ei gloddio gan y Parch Hugh Thomas Owen, pan y gwnaeth ddarganfyddiad hynod diddorol – llawysgrif o'r Quran wedi ei chuddio yn waliau'r abaty.

Tybiodd ei fod yn Quran o gyfnod y croesgadwyr (crusaders), ond mae hi'n bosib iddi gael ei rhoi yno yn fwy diweddar.

Abaty Glyn y GroesFfynhonnell y llun, Abdul-Azim Ahmed
Disgrifiad o’r llun,

Roedd waliau Abaty Glyn y Groes yn cuddio cyfrinach

Yn anffodus, cafodd nifer o eitemau o Valle Crucis eu colli a'u dwyn dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Quran, sy'n golygu y bydd ei arwyddocad yn aros yn ddirgelwch.

Bedd Khadija Amelia Buksh

Ger Caerfyrddin, mae'r bedd Mwslemaidd cynharaf y gallwn ni ei adnabod yng Nghymru. Dyma fedd Khadija Amelia Buksh née Davies.

Cafodd ei geni yn Sir Gâr, treuliodd ei harddegau yng Nghaerdydd, ac yn ei hugeiniau ymunodd â'i brawd i redeg tŷ llety yn Llundain. Yno daeth i 'nabod Sheikh Meeran Buksh, myfyriwr Indiaidd-Fwslemaidd a oedd yn astudio'r gyfraith. Syrthiodd y ddau mewn cariad, mabwysiadodd Amelia ffydd ei gŵr, ac fe briododd y ddau yn Sefydliad Mwslemaidd Lerpwl yn 1891.

bedd Khadija Amelia BukshFfynhonnell y llun, Abdul-Azim Ahmed

Bu farw Khadija yn sydyn yn 1893 o waedlif ar yr ymennydd. Cafodd ei chladdu ym mynwent capel y teulu, Bethlehem yn Sanclêr, o dan ei henw Mwslemaidd ac yn unol â thraddodiadau claddu Islam.

Y Quran yn Gymraeg yn Aberdâr

Ymddangosodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Quran yn 1879, a hynny nid gan Fwslemiaid ond gan newyddiadurwyr Cymreig.

Cafodd cyfieithiadau eu cyhoeddi mewn dau bapur newydd yn Aberdâr, sef calon y byd cyhoeddi yng Nghymru bryd hynny, gyda 18 argraffdy ar ei anterth.

Dechreuodd Y Gwladgarwr gyhoeddi rhannau o'r Quran yn wythnosol o Ebrill tan Fehefin 1879.

Cyfieithiad o bennod cyntaf y 'Koran' o bapur newydd Y GwladgarwrFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfieithiad o bennod cyntaf y 'Koran' o bapur newydd Y Gwladgarwr ar 4 Ebrill 1879

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddach, gwnaeth y papur radical, Tarian y Gweithiwr, yr un fath, gan gyhoeddi cyfieithiadau wythnosol o'r Quran o Chwefror tan Mawrth 1882, wedi eu hysgrifennu gan Joseph Harry.

Y golygydd oedd John Tywi Jones, gweinidog y Bedyddwyr, newyddiadurwr a dramodydd. Aeth ymlaen i ymuno â Phlaid Cymru, roedd yn gefnogwr brwd o'r Eisteddfod ac yn ymgyrchydd dros y Gymraeg.

Cafodd y cyfieithiadau yma o'r Quran eu cyhoeddi wrth i Brydain a Chymru frwydro gyda'u pherthynas ag Islam a'r byd yn ehangach. Gyda Phrotestaniaid Cymreig wedi hen arfer ymgyfarwyddo'u hunain â'u testun crefyddol, yma, roedd yr un parch wedi ei roi i lyfr sanctaidd Islam.

Mae'r straeon yma, sydd i'w canfod ledled Cymru, yn dangos sut mae Islam wedi ei blethu â hanes Cymru ar draws y genedl - o'r gogledd i'r de - ac yn ein hatgoffa fod Islam wedi bod yn grefydd yng Nghymru ers canrifoedd lawer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

Trending Now