Ateb y Galw: Victoria Pugh

- Cyhoeddwyd
Yr actores Victoria Pugh sy'n ateb ein cwestiynau busneslyd wythnos yma.
Mae hi'n wyneb cyfarwydd ar y teledu yng nghyfresi Craith a Rownd a Rownd, yn llais adnabyddus ar y radio, ac ym mis Mehefin bydd hi ar daith ledled Cymru yng nghynhyrchiad diweddaraf Theatr Cymru, Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Un o fy atgofion cyntaf yw dad yn fy ngollwng i yn dair/pedair oed ac Aurona (10/11 oed) ar ben y ffordd yn Llysfasi a ni'n dwy yn cerdded lawr y ffordd, law yn llaw, i Ysgol Pentrecelyn.
Mrs Evans oedd ein hathrawes caredig a thyner yn y feithrin: "Paid â chosi, mae e'n gwella," bydde hi'n dweud pan oeddwn yn crafu 'po-po'.
Ar ôl ysgol, am ryw reswm, dwi'n cofio Mam yn parcio'r car (Marina gwyn) wrth dŷ Nain a Taid, oedd yn byw drws nesaf; Taid yn gwisgo gortyn beilio o gwmpas ei wast yn lle gwregys. A bwyta'r cacennau gorau erioed, yn enwedig y Victoria sponge ysgafn a'r darten 'fale, cacennau Nain.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi wrth fy modd yn cerdded i fyny Graig Wyllt, Graigfechan, lle roeddwn yn chwarae'n aml fel plentyn. Yno mae golygfeydd bendigedig dros Ddyffryn Clwyd, ac roedd yn lle arbennig i greu dens yn fy mhlentyndod.
Rydw i a fy ngŵr yn hoff iawn o gerdded. Os nad ydw i ar ben bryn neu fynydd, bydda i ar y dŵr. Fe ddewch o hyd i mi ar lynnoedd, afonydd a chamlesi ledled Cymru ar fy mhadlfwrdd. Does unman gwell na Llyn Syfaddan, Aberhonddu ar fore Sadwrn oer a rhewllyd, pan fo'r dŵr mor dawel ac yn edrych fel drych.

Hoff le Victoria yng Nghymru, Graig Wyllt
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Mae gymaint. Y noson nes i gyfarfod fy ngŵr yng Nghlwb Ifor Bach (medde fo). 30 mlynedd yn ddiweddarch, rydym wedi mwynhau gwylio gig ein mab yno, fel aelod o'r grŵp Yr Hunanol.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Angerddol, creadigol, egnïol.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dwi'n gwenu bob tro rwy'n meddwl amdana i a'm ffrind Linda yn chwerthin ac yn rhedeg lawr Graig Wyllt, ac wedyn yn mynd yn ôl i ddawnsio ar y gwely i ABBA a Queen, yn gwisgo mewn ffrogiau morwynion briodas binc lachar ei mam.
Ac wrth gwrs, mae llawer o atgofion annwyl a doniol o fy mhlant pan oedden nhw'n fach. Un sy'n sefyll allan yw creu straeon yn ein pabell ar wyliau yn Ffrainc, yn trio cael y bechgyn i gysgu gan ddyfeisio sioeau cysgod gyda phob math o bethau, hyd yn oed shuttlecock, a nhw'n chwerthin llond eu boliau.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Cefais fy ngherdyn Equity pan oeddwn yn y coleg. Roedd cwmni dogfennol yn chwilio am dair merch i godi eu peisiau a dangos eu pen-ôl at bregethwr — siot hir o bell ar draeth, medden nhw. Doeddwn i ddim yn awyddus, ond roedd fy ffrindiau o Loegr yn benderfynol o gael eu cardiau Equity cyn gadael y coleg, felly aethon ni'n tair.
Erbyn i ni gyrraedd, roedd y cynlluniau wedi newid oherwydd y tywydd — glaw trwm — a phenderfynwyd saethu'r olygfa mewn stiwdio yn lle. Yn yr ardal wisgo buom yn ymarfer sut i droi o gwmpas a dal ein peisiau rhwng ein coesau er mwyn dangos cyn lleied â phosib.
Roedd fy mhais i ychydig yn dynnach na'r ddwy arall. Ar y take cyntaf, syrthiais... a dangosais fwy nag oeddwn wedi'i ddisgwyl.

Victoria ar ben ei digon ar y dŵr
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Yn ystod perfformiad Ysgol Bro Edern o Billy Elliot.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dydw i ddim yn gallu dioddef sŵn pobl yn bwyta felly dwi yn symud i ffwrdd os ydw i'n gallu. Dwi'n casáu pobl yn bwyta yn y sinema - mae fy ffrindiau yn gwybod hyn ac yn bwyta cyn i'r ffilm ddechrau.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi wrth fy modd gyda nofelau thrillers neu am drosedd, ond y llyfrau sydd wedi aros gyda fi yw A Thousand Splendid Suns, Llyfr Glas Nebo a The Handmaid's Tale.
Rŵan dwi'n sylweddoli bod pob un am ferched sy'n goroesi sefyllfaoedd anodd a heriol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Hoffwn gael diod gyda Nain — ei chyfarfod hi fel oedolyn, nid fel plentyn. Bu farw Nain pan oeddwn yn 11 oed, ac mae gymaint o gwestiynau gen i o hyd.
Rwy'n ei hedmygu gymaint: roedd hi'n wraig ffarm yn magu tri phlentyn anabl yn yr 1940au a'r 50au gyda chryfder tawel, diwydrwydd.
Ar y diwrnod byddai'n gwpan o de, wrth gwrs. A minnau'n eistedd gyferbyn â hi, nid fel wyres fach, ond fel merch sydd eisiau deall y fenyw y tu ôl i'r atgofion.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Cefais i a fy ffrind ein harestio yng Ngwlad Pwyl yn y nawdegau cynnar am beidio cael tocyn bws ar gyfer ein rucksack.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Be' hoffwn i wneud yw bod gyda fy nheulu a ffrindiau yn mwynhau, bwyta, yfed.

Victoria a'i brodyr a chwaer yn chwarae caffi
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae gen i lun ohonof i a fy mrodyr a'm chwaer yn chwarae yn ein 'caffi' yn blant. Mae fy chwaer yn byw yn yr adeilad rŵan.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dim syniad. Dyna pam dwi'n mwynhau actio. Byw bywyd arall am gyfnod. Benthyca meddwl ac emosiynau rhywun arall. Teithio drwy hanes neu ddychymyg, cael rhyddid i fod yn rhywbeth hollol wahanol.
Dwi'n chwilfrydig iawn am fywydau eraill. Mae rhywbeth hudolus am wisgo dillad rhywun arall, newid dy symudiadau, a theimlo dy gorff yn addasu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd23 Chwefror

- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2024
