Cerddwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â char ym Mhrestatyn

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Prestatyn, Sir Ddinbych meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ddydd Llun, 20 Ebrill, cafodd dyn 45 oed o Wigan ei gludo i ysbyty yn Stoke, ble fu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu fod ei deulu'n cael cefnogaeth swyddogion arbenigol a bod y Crwner lleol wedi cael gwybod.

Mae'r heddlu hefyd yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now