Myfyriwr yn colli'r gallu i siarad Cymraeg ar ôl gwrthdrawiad

EllisFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe newidiodd bywyd Ellis Pears yn llwyr wedi iddo gael cyfergyd

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr yn dweud ei fod wedi teimlo "fel dieithryn" ar ôl colli ei allu i siarad Cymraeg yn dilyn gwrthdrawiad.

Roedd Ellis Pears, 19, yn gyrru ar hyd ffordd wledig ger Aberystwyth ym mis Tachwedd 2024 pan wnaeth ei gar droi wedi iddo bron â tharo car arall.

Fe "newidiodd ei fywyd yn llwyr" wedi iddo gael cyfergyd (concussion).

Ddyddiau'n ddiweddarach sylweddolodd Ellis, sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei fod yn cael trafferth siarad Cymraeg, a hynny er gwaethaf y ffaith ei fod fel arfer yn rhugl ac wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg fel plentyn.

Erbyn hyn mae ei Gymraeg wedi gwella'n sylweddol, ond dywedodd fod y profiad wedi newid ei flaenoriaethau mewn bywyd.

'Ap wedi achub fy mywyd'

Dechreuodd Ellis o Gaerdydd astudio yn y brifysgol rai misoedd cyn y digwyddiad a dywedodd ei fod newydd "ddechrau setlo".

Wrth iddo yrru i dŷ ffrind y tu allan i Aberystwyth, dywedodd fod cerbyd 4x4 wedi gyrru i'w ochr ef o'r ffordd - fe achosodd hynny iddo golli rheolaeth, troelli sawl gwaith a tharo clawdd.

"Roeddwn i'n gweiddi a gweiddi ond doedd dim tŷ am ddwy filltir y naill ffordd na'r llall," ychwanegodd.

Fe ddefnyddiodd ap what3words i anfon ei union leoliad at yr heddlu, gan ddweud fod hynny wedi "achub ei fywyd" gan ei fod "yng nghanol unman".

EllisFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Ellis ddim yn deall ei ddarlithwyr yn siarad wedi'r gwrthdrawiad

Dim ond toriad ar gefn ei ben gafodd Ellis wedi'i achosi gan ddarn o wydr, ond aeth i Ysbyty Bronglais i gael ei archwilio - cafodd sganiau CT ac MRI yn ogystal â phrofion ar ei galon, ei waed a'i esgyrn.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach sylweddolodd ei fod yn cael trafferth siarad Cymraeg.

Dywedodd ei fod yn credu bod hynny wedi ei achosi gan y cyfergyd. Doedd e ddim chwaith yn gallu canolbwyntio cystal wedi'r profiad.

Roedd oddeutu traean o'i gwrs yn y brifysgol yn cael ei ddysgu yn Gymraeg ac wedi'r gwrthdrawiad doedd e bellach ddim yn gallu deall rhai o'i ddarlithwyr.

"Es i o allu ysgrifennu traethodau ar gyfraith hawliau dynol i beidio â gallu adeiladu set Lego," meddai.

'Ddim yn gallu cael y geiriau'

Dywedodd Ellis fod y rhai oedd yn byw yn yr un llety ag e a'i ffrindiau'n siarad Cymraeg "yn gyson" â'i gilydd, ac fe arweiniodd hynny ato yn cael hunllefau a phyliau o banig bob dydd a oedd yn ei gwneud hi'n anoddach fyth canolbwyntio ar ei astudiaethau.

"Arhosais yn fy ystafell ac es i ddim i ddarlithoedd am bedair wythnos ar ôl i fy iaith waethygu," meddai.

"Doeddwn i ddim yn deall y bobl yn y fflat yn siarad."

Roedd yna un foment arbennig o frawychus pan nad oeddwn yn deall dim o un darlith yn y brifysgol ar ôl y gwrthdrawiad, meddai.

"Ceisiais e-bostio fy narlithydd yn y Gymraeg ond doeddwn i ddim yn gallu cael y geiriau at ei gilydd," ychwanegodd.

EllisFfynhonnell y llun, PA Media

Erbyn mis Mehefin 2025, roedd Ellis wedi sylwi ar welliant sylweddol yn ei hwyliau a'i sgiliau iaith.

Cafodd drydydd mewn rhai modiwlau yn y brifysgol ond cafodd wybod na fyddai hynny'n effeithio ar ei radd derfynol "yn ormodol".

Dywedodd fod ei ôl-fflachiadau bellach wedi lleihau i tua unwaith yr wythnos, ac bod ei Gymraeg bellach wedi "dod yn ôl i normal".

Er ei fod yn dal i feddwl bod ei ddealltwriaeth "ychydig yn araf", dywedodd Ellis ei bod y digwyddiad wedi gwneud iddo weld pethau'n wahanol.

Ychwanegodd fod "mynd adref" a "threulio amser gyda'r teulu" bellach yn bwysicach nag erioed iddo, wrth ymdrechu i ddod o hyd i gydbwysedd bywyd a gwaith sy'n gweithio iddo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now