Oes cyrff llofruddwyr o'r 19eg ganrif o dan faes parcio yng Nghaerfyrddin?

Fe gadwodd y cyngor faes parcio Neuadd y Sir yn glir fore Sul er mwyn caniatáu i'r gwaith sganio gael ei gynnal
- Cyhoeddwyd
Mae rhai'n credu bod cyrff pump o droseddwyr - gafodd eu crogi yn ôl yn yr 19eg ganrif - wedi cael eu claddu o dan faes parcio yng Nghaerfyrddin.
Mae cyn-faer y dref, Richard Goodbridge, yn credu bod gweddillion pedwar llofrudd ac un ffugiwr (forger) o dan faes parcio Neuadd y Sir.
Mae Neuadd y Sir yn sefyll ar safle gwreiddiol yr hen garchar - gafodd ei gau yn 1922 a'i ddymchwel yn y 1930au - ond mae Mr Goodbridge yn credu fod yr unigolion wedi cael eu crogi rhwng 1818 a 1894.
Fe gafodd Mr Goodbridge ganiatâd y cyngor i sganio rhan o'r maes parcio fore Sul er mwyn ceisio canfod y gweddillion.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, oedd yn rhan o'r ymchwiliad, "efallai y bydd canlyniadau'r sganio'n ychwanegu pennod" at hanes y dref.

Dywedodd Richard Goodridge bod y sganio yn edrych yn addawol ond mae'n rhaid aros wythnos am y canlyniadau
Mae'r broses o ddefnyddio teclyn radar i sganio'r ddaear yn un cymhleth esboniodd Mr Goodbridge ond drwy ei ymchwil mae wedi gallu "pinpointio ardaloedd o ddiddordeb".
Roedd yna ddwy ardal ble roedd carcharorion yn cael eu claddu meddai yng ngardd y carchar.
"Does dim unrhyw waith adeiladu erioed wedi digwydd ar y safle sydd nawr yn faes parcio.
"Fy theori i yw bod y cyrff dal yno, wedi'u claddu" o dan y concrit.

Mae'r cynghorydd Alun Lenny'n credu y gallai'r canlyniadau ddatgelu rhan arall o "hanes hir a rhyfeddol" Caerfyrddin sef "tref hynaf Cymru"
Fe glywodd y cynghorydd dros Ogledd a De Tref Caerfyrddin, Alun Lenny, am y stori ac "fel un sydd â diddordeb mawr mewn hanes lleol fy hun, roedd hi'n stori afaelgar," meddai.
Felly gofynnodd i'r cyngor am ganiatâd i sganio rhan o'r maes parcio a gan nad oedd am gostio ceiniog i'r cyngor fe gytunon nhw.
Ddydd Sul fe ddarparodd cwmni o'r Eidal, Leica Geosystems - sydd wedi cynhyrchu rhai o'r teclynnau mwyaf soffistigedig yn y byd yn y maes yma - declyn i gael ei ddefnyddio.
Cwpl o oriau yn unig oedd ei angen meddai Mr Lenny ac mae'r data nawr wedi cael eu hanfon yn ôl i'r Eidal i'w dadansoddi.
Amddiffyn gwario £2m ychwanegol ar drawsnewid hen siop yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
Safle pwysig yn hanes theatr Cymraeg ar werth
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Cyngor Sir Gâr yn derbyn cais Hen Galan gan y Fari Lwyd ac ysgol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
Esboniodd Mr Lenny bod Mr Goodridge "wedi gwneud ymchwil rhyfeddol o drwyadl i'r pum troseddwr ac amgylchiadau eu dienyddio".
Mae wedi dod o hyd i gofnod o eiriau olaf ambell un. Ymhlith y cyrff y maen nhw'n credu sy'n gorwedd o dan y maes parcio mae David Evans sef "yr un olaf i'w grogi'n gyhoeddus tu allan i'r carchar," meddai Mr Lenny.
Esboniodd bod 10,000 wedi casglu yno i wylio'r digwyddiad ar y pryd.

Fe wnaeth Richard Goodridge, Alun Lenny a Shane Gwilt o Leica Geosystems, sganio'r maes parcio ddydd Sul, gyda'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi yn yr Eidal
Cafodd Evans ei ganfod yn euog o "lofruddio ei gariad Hannah Davies trwy ei tharo droeon gyda bilwg mewn man unig ger Llanybydder yn 1829," dywedodd.
"Torrodd y rhaff y tro cyntaf, ac fe waeddodd David Evans yn ei Saesneg bratiog 'No hang twice!'". Ond dyna ddigwyddodd.
Dydy'r cyngor ddim yn bwriadu gwneud dim byd gyda'r cyrff pe bai nhw'n dod o hyd iddyn nhw "ond o leia' byddwn ni'n gwybod lle mae'r pump, y gwyddom ni eu henwau, yn gorwedd," meddai'r cynghorydd.
Gall gymryd tua wythnos i'r canlyniadau fod yn barod ond mae'n edrych yn addawol yn ôl Mr Goodridge gyda "lliwiau a siapiau gwahanol [ar y sgan] sy'n dangos bod aflonyddwch yn y ddaear".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.