Carcharu dyn am achosi marwolaeth cerddwr yn Llanpumsaint

Mae Daniel Wyke wedi cael dedfryd o bedair blynedd a hanner o garchar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed o Lan-y-bri ger Caerfyrddin wedi cael dedfryd o bedair blynedd a hanner o garchar wedi iddo gyfaddef mai fe a achosodd marwolaeth cerddwr yn Llanpumsaint ddiwedd Rhagfyr 2024.
Roedd Aaron Jones, 38, o Lanpumsaint, allan yn cerdded gyda'i gi yn y pentref, pan gafodd ei daro gan gar ger Capel y Bedyddwyr, Caer Salem, ddeuddydd cyn y Nadolig.
Fe glywodd cwest bod Mr Jones wedi marw yn y fan a'r lle ac fe gafodd ei gorff ei ddarganfod ym mynwent y pentref.
Cafodd Daniel Wyke, 28 oed, ei arestio'r diwrnod canlynol ond ni chafodd ei gyhuddo nes bron i flwyddyn yn ddiweddarach.
Cafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Jones ac o yrru'n beryglus ar Heol Dŵr, Caerfyrddin yr un diwrnod.

Fe gafodd Aaron Jones, tad i ddau o blant, ei daro gan gar wrth iddo fynd â'i gi am dro ddeuddydd cyn Nadolig 2024 a chafwyd hyd i'w gorff ym mynwent y pentref
Mewn gwrandawiad blaenorol yn llys y Goron Abertawe, fe blediodd Mr Wyke yn euog i'r cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ond fe wadodd y cyhuddiad o yrru'n beryglus ar Stryd y Dŵr yng Nghaerfyrddin.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar y pryd a chafodd ei wahardd rhag gyrru.
Yn ystod y dedfrydu ddydd Llun, fe glywodd Llys y Goron Abertawe gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Ian Wright KC, fod Aaron Jones allan yn cerdded gyda'i gi ac yn gwisgo siaced lachar hi-vis, pan gafodd ei daro gan gar Mr Wyke ddeuddydd cyn y Nadolig.
Clywodd y llys fod siaced Aaron Jones "yn amlwg" ar nifer o gamerâu cylch cyfyng ar dai yn y pentref ac y byddai ci Mr Jones wedi bod "yn amlwg" ar ochr y ffordd.
Fe glywodd y llys fod deunydd CCTV yn dangos Mr Wyke, a oedd yn gweithio fel gyrrwr cludiant i fwyty Tsieineaidd, New China, yng Nghaerfyrddin, yn gadael y bwyty ychydig wedi 19:00.
Cafodd ei weld yn dychwelyd i'r bwyty lai na awr yn ddiweddarach.
Clywodd y llys ei fod wedi defnyddio car ei dad ar ôl dychwelyd o Lanpumsaint, a'i fod wedi parhau gyda'i waith o gludo bwyd ar ôl taro Mr Jones, tan ddiwedd ei shifft.
Dywedodd Ian Wright fod y gwrthdrawiad rhwng car Daniel Wyke ac Aaron Jones yn debygol o fod wedi digwydd am 19:20 a'i bod yn debygol bod fod Aaron Jones wedi dod i gyswllt gyda ffenest flaen car Wyke cyn cael ei daflu dros wal y fynwent gyfagos.
Roedd yr heol yn "llydan", 20mya, yn "weddol syth" ac wedi ei goleuo gan olau stryd.
Clywodd y llys fod Daniel Wyke yn teithio i gyfeiriad y gogledd o Lanpumsaint - tuag at Landysul, sef yr un ffordd ag oedd Aaron Jones yn cerdded.

Daniel Wyke y tu allan i'r llys fis Chwefror
Fe glywodd llygad-dyst sŵn y gwrthdrawiad rhwng car Mr Wyke a Mr Jones, gyda bympar car Mr Wyke yn cael ei ddarganfod gan dyst ar y ffordd.
Dywedodd ei fod wedi gweld car Mr Wyke yn llonydd yn agos at leoliad y digwyddiad.
Daeth Carwyn Dickenson a oedd yn teithio drwy'r pentref, o hyd i gi Mr Jones ar yr heol.
Dywedodd bod Mr Wyke wedi dod draw ato gan ddweud wrtho: "Dwi'n credu fy mod wedi taro brigyn", cyn dechrau casglu darnau (debris) o'i gar a oedd ar yr heol.
"Roedd hyn yn gelwydd", meddai Ian Wright KC.
Cafodd Mr Wyke ei weld wedyn gan y llygad-dyst yn edrych dros wal y fynwent, lle cafodd corff Mr Jones ei ddarganfod.
"Mae'n rhaid ei fod wedi gweld Aaron Jones yn mynd dros y wal," meddai Ian Wright.
"Ac mae'n rhaid mai oherwydd hyn yr edrychodd dros y wal… Byddai wedi gweld Aaron Jones wedi ei orchuddio mewn dŵr," meddai.
Clywodd y llys fod Mr Wyke wedyn wedi gadael y lleoliad.
Ffoniodd Carwyn Dickenson y rhif ar goler y ci, sef rhif gwraig Aaron, Lisa Haf, i ddweud ei fod wedi darganfod y ci.
Dyna ddechrau wedyn ar y chwilio am Aaron Jones gan deulu a ffrindiau cymuned Llanpumsaint.
Clywodd y llys, o fewn 10 i 20 munud o adael y lleoliad, bod Mr Wyke wedi dod yn ôl a gofyn i'r llygad-dyst Carwyn Dickenson a oedd e'n iawn.
Dywedodd Mr Dickinson wrtho ei fod wedi ffonio perchennog y ci.
Gyrrodd Wyke yn ôl i'r bwyty Tsieineaidd yng Nghaerfyrddin wedi hynny.
Nôl yn y pentref, daeth trigolion lleol o hyd i gorff Aaron Jones tu ôl i wal yn y fynwent, wedi ei orchuddio'n rhannol mewn dŵr.
'Dedfryd oes o golled' i'r teulu
Roedd y llys yn orlawn ddydd Llun gydag aelodau o deulu a ffrindiau Aaron Jones yn bresennol.
Dywedodd ei fam, Maria Steadman, wrth y llys mai Aaron, ei mab, oedd y person cyntaf y byddai unrhyw un yn troi ato am gymorth a chyngor, a'i fod yn "rhagori ym mhopeth yr oedd yn troi ei law ato".
"Wrth i mi eistedd gyda fy wyrion, 'naeth e ddim cymryd hir i sylweddoli bod rhywbeth erchyll wedi digwydd na fydden ni'n gallu dod drosto."
Dywedodd fod ei gŵr, Alun Jones, wedi marw chwe wythnos yn unig ar ôl marwolaeth Aaron.
Wrth siarad i gyfeiriad Daniel Wyke, dywedodd: "Beth dwi'n ffeindio'n anfaddeuol yw sut gallai rhywun adael y lleoliad... efallai byddai bywyd Aaron wedi gallu cael ei achub.
"Rwyt ti wedi mynd â fy unig blentyn oddi wrtha i.
"Fel teulu, rydyn ni nawr yn wynebu dedfryd oes o golled."
Wrth ddarllen datganiad yn ei dagrau yn y llys, dywedodd gweddw Aaron Jones, Lisa Haf, ei bod hi ac Aaron "yn gryf gyda'n gilydd".
Dywedodd ei bod yn dwlu ar y Nadolig, ond ei bod yn gweld y Nadolig bellach yn "llawn poen".
"Nid yw ein plant wedi gwneud dim i haeddu'r boen yma".
Dywedodd bod eu plant sy'n naw a 12 oed, yn cael hunllefau, gyda Betsan yn dweud ei bod yn teimlo ei bod "mewn twll du tywyll", a'i mab yn cael pyliau o banig.
Dywedodd eu bod yn gofyn o hyd, pam bod y dyn (Wyke) wedi lladd eu tad.
Esboniodd Lisa ei bod wedi pasio corff Aaron ddwywaith wrth yrru o amgylch y pentref yn gyrru amdano.
Adeg ei arestio noswyl Nadolig 2024 fe wadodd Wyke ei fod wedi bwrw unrhyw un, yn ôl yr amddiffyniad Dyfed Thomas KC, a'i fod wedi dweud celwydd "mewn panig".
'Yn greulon o annynol'
Wrth ddod i benderfyniad ar ei ddedfryd, dywedodd y barnwr Paul Thomas KC fod Wyke yn gyrru 14mya dros y terfyn cyflymder ac y byddai Mr Jones "yn weladwy" am tua 100 metr i Mr Wyke - sef yr un hyd â chae rygbi.
Dywedodd bod presenoldeb y ci a'r ffaith bod Mr Wyke wedi edrych dros y wal yn gwneud iddo gredu ei fod wedi blaenoriaethu ei hun, yn hytrach na helpu neu geisio ffonio rhywun er mwyn achub Mr Jones.
Dywedodd bod hynny "yn greulon o annynol".
Dywedodd na fydd modd gwybod a fyddai amser wedi achub Mr Jones ond fod Mr Wyke yn poeni fwy am "achub ei groen ei hun".
"Fe yrraist di bant a pharhau i gludo bwyd", meddai cyn esbonio ei fod wedi gwneud hynny gyda'r bympar wedi difrodi a'r ffenest flaen wedi torri gan wybod fod Mr Jones naill ai wedi ei frifo neu wedi marw.
Aeth ymlaen serch hynny i ddweud bod rhaid iddo ystyried nad oedd gan Mr Wyke unrhyw droseddau blaenorol.
Cafodd Mr Wyke ddedfryd o bedair blynedd a hanner - bydd rhaid iddo dreulio o leiaf dwy flynedd a thri mis yn y carchar.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd a thri mis.
Roedd Daniel Wyke yn ddiemosiwn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025
