'Yn Lloegr byddai bragdy fel un fi ddim yn gorfod talu ardrethi'

"Beth fyddwn ni'n hoffi gweld yw'r un peth â'r lefelau dros y ffin yn Lloegr, oherwydd mae'n tanseilio bodolaeth y bragdai yng Nghymru," medd Philip Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau am degwch yn y ffordd mae cyfraddau busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru wrth i newidiadau yng ngwerth trethiannol eiddo masnachol rhai busnesau arwain at gynnydd sylweddol yn eu biliau.
Mae'r sector lletygarwch ymhlith y rhai sydd wedi'u taro gwaethaf gan y taliadau newydd a fydd yn dod i rym fis Ebrill.
Yn Lloegr, cafodd tafarndai hwb yr wythnos yma gyda chymorth ychwanegol gan Lywodraeth Lafur San Steffan ond nid yw Llywodraeth Lafur Cymru ddim eto wedi dweud a fydda nhw'n cynnig yr un cymorth.
Dywedodd llefarydd eu bod yn "cydnabod yr heriau sy'n wynebu tafarndai a busnesau lletygarwch yng Nghymru" a'u bod "yn y broses o orffen cynlluniau ar gyfer cefnogaeth ychwanegol".
'Dwi ffili fforddio cyflogi pobl'
O'r bar i'r bragdy, mae pwysau'n cynyddu am ragor o gefnogaeth i ymdopi â'r costau cynyddol.
Mae Philip Thomas yn rhedeg Bragdy Twt Lol, sy'n gwerthu cwrw crefft yn Nhrefforest, a hefyd yn gyfarwyddwr sy'n cynrychioli Cymru ar Gymdeithas y Bragwyr Annibynnol.
"Yn Lloegr byddai bragdy fel yr un sydd gen i ddim yn gorfod talu ardrethi o gwbl" meddai.
"Dyw'r ardrethi busnes ddim yr un peth i Loegr a Chymru yn enwedig pan ti'n siarad am y lefel o ddechrau talu ardrethi busnes," meddai.
"Y broblem fawr sydd gan fusnesau bach, yn arbennig yn y diwydiant cynhyrchu, yw, os ti dros y ffin yn Lloegr, efallai na fyddet ti'n talu unrhyw ardrethi busnes."
Ychwanegodd: "Beth dwi eisiau gweld yw bod Lloegr a Chymru yn cael eu trin yr un peth gyda busnesau bach fel bod y lefel lle ni'n dechrau talu trethi busnes yr un peth achos dydyn nhw ddim nawr."

Mae Philip Thomas yn galw am driniaeth deg i fusnesau yng Nghymru o'i gymharu â busnesau tebyg yn Lloegr
Esboniodd Mr Thomas fod ardrethi busnes yn dechrau'n gynt ar gyfer busnesau bach yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac mae'n "effeithio ar ein gallu i gystadlu".
Dydi ei gystadleuwyr yng Ngwlad yr Haf, busnesau sydd tua'r un maint, ddim yn talu ardrethi, ac maen nhw yn gwerthu eu cynnyrch mewn tafarndai yn ne Cymru.
"Beth fyddwn ni'n hoffi gweld yw'r un peth â'r lefelau dros y ffin yn Lloegr, oherwydd mae'n tanseilio bodolaeth y bragdai yng Nghymru," meddai.
Mae ailbrisio adeiladau busnesau wedi arwain at gynnydd yng nghyfraddau busnes ar gyfer rhai, gyda'r sector lletygarwch yn cael ei daro ddwywaith yn sgil cyfraddau uwch a gostyngiad cyfnod y pandemig yn dod i ben.
Esboniodd Philip Thomas fod ei ardrethi busnes wedi cynyddu o £300 i £3,000 pan gafodd ailbrisiad ac mae'n disgwyl iddyn nhw gynyddu eto pan fydd y busnes yn cael ei ailbrisio nesa'.
"Mae e wedi mynd lan mewn ffordd sylweddol ac mae'n anodd i ni ffeindio'r arian yna i fod yn onest. O ni'n arfer cyflogi pobl, dwi wedi penderfynu dwi ffili fforddio cyflogi pobl yn y bragdy ar hyn o bryd i 'neud y gwaith."
Gyda'i fusnes wedi'i glustnodi fel un gweithgynhyrchu, dydi ei fragdy ddim wedi gallu manteisio ar y cymorth ariannol – sy'n dod i ben yng Nghymru - gafodd ei gynnig i'r diwydiant lletygarwch.
'Ddim yn bodoli ar y stryd fawr yn y dyfodol'
Mae dadansoddiad UK Hospitality yn dangos y bydd bil cyfraddau busnes y sector yng Nghymru yn codi o £83.1 miliwn y flwyddyn ariannol yma, i £135.7 miliwn yn 2028-29.
"Mae ein gwerth ardrethol wedi dyblu, felly mi fyddwn ni'n gweld cynnydd sylweddol yn ein cyfraddau," meddai Cerys Furlong sy'n berchen ar dafarn.
Mae'r Grange yn Grangetown, Caerdydd yn dafarn boblogaidd a phrysur ond yn ôl Cerys Furlong mae ei busnes "mewn gwirionedd mewn sefyllfa waeth" o ganlyniad i'r cynnydd mewn ardrethi busnes.
"Ein neges i Lywodraeth Cymru yw, iddyn nhw ddefnyddio'r arian sy'n dod i Gymru o San Steffan o ganlyniad i benderfyniad Rachel Reeves, ac arian arall ni'n gwybod bydd o gwmpas adeg yma tra'n gosod cyllideb, i gefnogi busnesau lleol.
"Oni bai, fydd busnesau fel un ni, ddim yn bodoli ar y stryd fawr yn Grangetown a rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol," meddai.

Mae Cerys Furlong yn rhedeg tafarn yn Grangetown, Caerdydd
Dywedodd Ms Furlong y gallai'r ffocws ar ardrethi busnes "gelu'r pwynt" o'r angen i ddiwygio'r system drethi.
Mae'n gofyn: "Sut y'n ni'n mynd i annog a chefnogi'r genhedlaeth nesa' o entrepreneuriaid sydd eisiau dod a rhedeg busnesau annibynnol bach yng Nghymru, mewn amryw o sectorau?
"Mae'r elw yn dynn iawn, iawn. Ac os chi'n gofyn i mi fod yn onest, baswn i ddim yn neud e 'to. Felly, ry' ni angen meddwl, beth 'y ni eisiau ar ein stryd fawr, ar draws y wlad."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu tafarndai a busnesau lletygarwch yng Nghymru.
"Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, rydyn ni yn y broses o orffen cynlluniau ar gyfer cefnogaeth ychwanegol a bydd mwy gennym ni i'w ddweud yn fuan.
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnig cefnogaeth sylweddol gydag ardrethi - mae bron i hanner tafarndai Cymru yn elwa o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach, tra nad yw dros chwarter yn talu unrhyw ardrethi o gwbl."
Tafarndai: Costau cynyddol yn 'hitio ni'n galed'
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
Busnesau'r gorllewin yn 'bryderus iawn' dros gynnydd posib i drethi
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025
Y chwiorydd ifanc sy'n rhedeg tafarn wledig yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
Ymateb y pleidiau
Mae "argyfwng costau gwneud busnes" wedi taro'r sector lletygarwch yng Nghymru, yn ôl Plaid Cymru. Dywedodd y blaid y byddai'n newid y ffordd y caiff ardrethi eu cyfrifo ar gyfer busnesau lletygarwch bach a chanolig er mwyn "lleihau'r baich".
Rhybuddiodd y Ceidwadwyr fod y system bresennol yn arwain at gau rhai busnesau a bod angen "tegwch" i fusnesau yng Nghymru. Dywedodd y blaid y bydden nhw'n cael gwared ar drethi busnes ar gyfer busnesau bach.
Dywedodd Reform UK fod busnesau Cymru wedi cael eu "taro'n gyson" gan lywodraethau Llafur yng Nghaerdydd a San Steffan. Dywedodd y blaid y byddai'n "gweithio i sefydlogi a chryfhau" prif strydoedd Cymru a thafarndai a busnesau lletygarwch.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai cefnogaeth ar gyfer busnesau ehangu y tu hwnt i dafarndai ac y dylid sicrhau toriad brys o 5% mewn Treth ar Werth i'r sector lletygarwch. Ychwanegodd llefarydd na ddylai busnesau yng Nghymru gael eu "gosod mewn cystadleuaeth anfanteisiol" gyda busnesau yn Lloegr.
Dywedodd y Blaid Werdd fod ardrethi busnes yn "tagu" busnesau lleol tra bod manwerthwyr mawr yn gwneud "elw da". Dywedodd y Gwyrddion y byddent yn disodli ardrethi busnes gyda threth newydd ar werth tir a fyddai'n helpu i gadw canol trefi'n fyw.