Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i fwriad Cyngor Sir Gâr i gau ysgol

Mae'r cyngor yn bwriadu symud disgyblion o Ysgol Llansteffan i Ysgol Llangain sydd hefyd yn ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i gŵyn am fwriad Cyngor Sir Gâr i gau Ysgol Gynradd Llansteffan.
Daw hyn ar ôl i Gymdeithas yr Iaith honni nad yw'r cyngor wedi ystyried yn llawn effaith y cynnig ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys addysg Gymraeg i blant yr ardal a gweithgareddau Cymraeg yn y gymuned.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg mai "diben yr ymchwiliad yw canfod a roddwyd ystyriaeth gydwybodol i'r effeithiau posibl ar y Gymraeg" ond esboniodd "nad yw cynnal ymchwiliad yn atal unrhyw sefydliad rhag bwrw ymlaen â'u penderfyniadau".
Yn ôl Cyngor Sir Gâr, maen nhw nawr yn y broses o ystyried y sylwadau, ac ychwanegodd y cyngor eu bod "wedi ymrwymo" i ystyried effaith y cynnig ar y Gymraeg fel rhan o'r broses benderfynu.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni y gallai'r ymchwiliad bara hyd at dri mis ac effeithio ar amserlen y cyngor i wneud penderfyniad terfynol ar gau'r ysgol
Ddiwedd Tachwedd fe benderfynodd aelodau cabinet Cyngor Sir Gâr gyflwyno hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan ddiwedd Awst 2026.
Bwriad y cyngor yw symud y disgyblion o Ysgol Llansteffan i Ysgol Llangain, sydd hefyd yn ysgol Gymraeg, ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am y gallu i gynnal addysg Gymraeg i'r holl blant.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Ni fydd gofod yn ysgolion Cymraeg eraill y cylch ar gyfer holl blant Llansteffan, nac ar gyfer y plant a ddaw i fyw yn y datblygiadau tai newydd.
"Y dull mwyaf cost-effeithlon o ddarparu digon o lefydd mewn addysg Gymraeg yn yr ardal yw cadw Ysgol Llansteffan a gwneud gwell ddefnydd o'r adeilad yn unol â chynlluniau cyffrous y llywodraethwyr."
Yn ôl ffigyrau'r cyngor, wyth disgybl oedd ar gofrestr Ysgol Llansteffan ar adeg cynnal cyfrifiad ysgolion mis Ionawr 2025.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y cwymp yn niferoedd y disgyblion wedi digwydd yn bennaf oherwydd ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ysgol
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r cwymp yn nifer y disgyblion o 34 yn 2023 i wyth ym mis Ionawr 2025 wedi digwydd yn bennaf oherwydd ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ysgol.
Maen nhw hefyd yn dweud bod ffigyrau'r awdurdod lleol yn amcangyfrif y gallai nifer y disgyblion gynyddu i 24 erbyn 2029, mewn ysgol sydd â chapasiti o 38 o leoedd.
Mae rhieni'r ysgol wedi bod yn dadlau bod y niferoedd eisoes wedi newid ers y cyfrifiad gydag 14 disgybl ar y gofrestr erbyn hyn, ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith nid yw'r cyngor wedi cynnwys y ffigwr hwn yn ei gynlluniau.
Mae'r Gymdeithas yn rhybuddio y gallai cau'r ysgol arwain at sefyllfa lle byddai tua 30 o blant heb le mewn ysgol Gymraeg yn lleol, gan orfodi llawer ohonynt i fynychu ysgolion cyfrwng Saesneg.
Ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith y gallai hefyd niweidio gweithgareddau Cymraeg cymunedol a bod y cynnig "yn groes i Strategaeth Hybu'r Gymraeg yn Sir Gâr, sydd â'r nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir".
Cadw Ysgol Llansteffan ar agor fyddai'r 'anrheg Nadolig gorau'
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Cymdeithas yr Iaith yn galw am gamau i ddiogelu ysgolion bach
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
'Fi ffili meddwl am effaith' cau tair ysgol Gymraeg yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn dweud mai "diben yr ymchwiliad yw canfod a roddwyd ystyriaeth gydwybodol i'r effeithiau posibl ar y Gymraeg wrth wneud y penderfyniad".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Comisiynydd: "Bydd [yr ymchwiliad] yn asesu a fu methiant i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg, ac os oes methiant, sicrhau bod camau'n cael eu cymryd fel na chaiff unrhyw fethiant ei ailadrodd neu barhau yn y dyfodol.
"Nid yw cynnal ymchwiliad yn atal unrhyw sefydliad rhag bwrw ymlaen â'u penderfyniadau."
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg, fod y cyfnod rhybudd statudol wedi dod i ben, a'u bod yn ystyried y sylwadau cyn cyflwyno adroddiad i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn ar gyfer penderfyniad terfynol.
"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys yr effaith ar y Gymraeg, yn cael eu harchwilio'n drylwyr fel rhan o'r broses hon.
"Mae'r Cyngor yn ymwybodol o gŵyn at Gomisiynydd y Gymraeg a bydd yn darparu unrhyw wybodaeth angenrheidiol i gefnogi asesiad teg a thrwyadl pe bydd angen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.