Y ci heddlu ddaeth o Lerpwl i Gymru (a dechrau dysgu Cymraeg!)

Ci heddlu gyda dau swyddog
Disgrifiad o’r llun,

Sion Parry (chwith) a Gordon Topps (dde) o Heddlu'r Gogledd gyda Kilo - neu Caio - y ci

GanRhodri Tomos
  • Cyhoeddwyd

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn newid eu swyddi rhywdro yn ystod eu bywydau, a'r mwyafrif hefyd yn ymddeol ar ddiwedd gyrfa.

Ond mae'r un peth yn wir am anifeiliaid sy'n gweithio - gyda chŵn heddlu yn eu plith.

Wrth i Heddlu'r Gogledd fynd ati i hyfforddi cŵn newydd i'w paratoi nhw i wasanaethu, a derbyn rhai sy'n symud lleoliad, mae'n bwysig meddwl am ddyfodol yr anifeiliaid hefyd.

Ar Radio Cymru fore Mercher, aeth Aled Hughes draw i gyfarfod aelodau o dîm Heddlu'r Gogledd wrth iddyn nhw gychwyn ar y gwaith pwysig.

Menai y ci heddluFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ci arall ifanc iawn sydd newydd ymuno gydag uned gŵn Heddlu'r Gogledd yw Menai y labrador

Ers ymddeol fel heddwas a thrafodwr cŵn llawn amser gyda Heddlu'r Gogledd mae Gordon Topps bellach yn gweithio gyda'r llu fel swyddog arbenigol ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â chŵn.

Mae o hefyd yn goruchwilio rhai swyddogion eraill sy'n hyfforddi cŵn newydd.

Bu'n egluro wrth Aled Hughes sut mae'r broses yn cychwyn.

"I ddechrau mae'r cŵn yn cael sesiynau obedience bach - rhyw bethau digon syml i buildio fyny'r discipline ac i bondio hefo'r ci," meddai.

"Mae hynny wedyn yn sail i'r holl hyfforddiant ydan ni'n neud.

"Mae popeth yn seiliedig ar positive reinforcement - gwobrwyo'r ci bob tro mae'n neud rhywbeth da ac ati."

Sarjant Sion ParryFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sarjant Sion Parry (ail o'r chwith) yn derbyn anrhydedd am ei waith gyda'r uned gŵn yng ngwobrau'r heddlu y llynedd

Wrth i Gordon ac Aled sgwrsio roedd Sarjant Sion Parry yn gweithio gyda Kilo, ei gi newydd.

Bu Kilo yn gweithio am gyfnod gyda Heddlu Lerpwl cyn symud i Gymru yn ddiweddar. Gall hyfforddi ci heddlu gymryd misoedd lawer, ond oherwydd ei brofiad mae disgwyl y bydd Kilo yn barod i ddechrau gweithio eto ymhen ychydig wythnosau.

Dywedodd Sion: "Fuodd o'n gweithio yn Lerpwl ac wedi dal un neu ddau o bethau drwg yn fanna so mae ganddo fo track record go dda.

"Rwan mae o hefo fi a 'da ni'n cael cyfle i ddod i nabod ein gilydd ac i mi ddysgu ychydig o Gymraeg iddo fo. Dwi'n dechra galw fo'n Caio... swnio'n well tydi!

"Mae'r cŵn yma yn rhan o'n teulu ni - yn dod adra hefo ni ar ddiwedd bob shifft. Maen nhw'n byw hefo ni tan ddiwedd eu gwasanaeth ac yna mae elusen pwysig Paws Off Duty yn camu fewn.

"Mae'r cynnig yna bob tro i ni gadw'r ci, ond rhan amla' 'da ni'n cymryd ci arall ac mae'n gallu mynd yn ormod.

"Mae'r elusen wedyn yn gofyn i'r cyhoedd gartrefu'r cŵn ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth iddyn nhw pan mae hynny'n digwydd."

Fe wnaeth ci blaenorol Sarjant Parry - Luna - ymddeol yn ddiweddar ac mae bellach yn byw ar fferm yn Sir Caer.

Mae Sion yn derbyn lluniau a newyddion gan y perchnogion newydd er mwyn cadw'r cysylltiad.

calendr elusennolFfynhonnell y llun, Paws Off Duty
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Paws Off Duty yn codi arian i gynorthwyo cŵn heddlu sy'n ymddeol

Mae hyfforddiant Kilo (neu Caio) yn parhau, gan ddechrau drwy ei ddysgu i ddod o hyd i fisgedi neu beli tenis.

Fel dywedodd Gordon Topps: "Gêm ydi o i'r cŵn ond maen nhw'n dysgu'n gyflym iawn.

"Mi wnawn nhw rhywbeth i gael bisgedan!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now