Efeilliaid 17 oed eisiau ailsefydlu eisteddfod gadeiriol yn Nefyn

Robin a Non Humphreys yn dal tlysauFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robin a Non Humphreys yn gobeithio ailsefydlu eisteddfod gadeiriol leol yn Nefyn

GanSion Tootill
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae efeilliaid o Ben Llŷn yn gobeithio ailsefydlu eisteddfod gadeiriol yn Nefyn.

Mae'n dros ganrif ers i'r dref gynnal gŵyl o'r fath ddiwethaf.

Gobaith Robin a Non Humphreys - y ddau yn 17 oed - yw creu cyfle i'r gymuned leol ddod at ei gilydd i "ymfalchïo, dathlu a rhannu be' sy'n gwneud ni'n arbennig".

Hyd yn hyn mae'r efeilliaid wedi ffurfio pwyllgor fydd yn cwrdd ddiwedd mis Ebrill i ddechrau ar y trefniadau.

'Teimlad hynod o sbesial' mynychu Eisteddfod

Ers yn blant mae mynychu a chystadlu mewn eisteddfodau wedi bod yn rhan fawr o fywydau Robin a Non.

"Dwi'n cofio canu a bod yn rhan o bartïon cyd-adrodd yn yr ysgol, felly 'da ni wir wedi cael ein magu efo nhw," meddai Non.

Mae'r ddau wedi profi llwyddiant mewn sawl eisteddfod leol dros y blynyddoedd.

Mae Non wedi ennill yng nghystadlaethau Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod y Ffôr, Mynytho a Cheidio, tra bod Robin wedi dod yn fuddugol yn Eisteddfod Uwchmynydd ac Eisteddfod Penrhyn-coch.

"Mae jyst yn deimlad hollol surreal cael sefyll fyny ar ôl canu'r corn a dathlu gyda'ch teulu a ffrindiau," meddai Robin.

"Mae wir yn deimlad hynod o sbesial cael rhywbeth mor unigryw yma yng Nghymru."

Robin a Non gyda'u rhieniFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mynychu a chystadlu mewn eisteddfodau lleol ledled Cymru sydd wedi ysbrydoli'r ddau i geisio ailsefydlu Eisteddfod Nefyn

Y profiadau yma a'r awydd i roi'r cyfle i drigolion o'u bro nhw brofi'r "teimlad arbennig" hwnnw sydd wedi ysgogi'r ddau i ddechrau eu menter i ailsefydlu eisteddfod gadeiriol Nefyn.

Dywedodd Robin: "Mae'r ddau ohonom ni'n gwybod sut mae'n teimlo i fynychu'r ŵyl a'i mwynhau, a 'da ni'n teimlo angen hynny ar ein cymuned ni.

"'Da ni'n dod o'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc, felly 'da ni'n meddwl cyfuno eisteddfod fwy modern efo'r traddodiadol.

"Er enghraifft gallwn ni gynnal cystadleuaeth deuawd doniol, ond hefyd cadw'r seremoni cadeirio a'r corau ac yn y blaen.

"Gobeithio trwy wneud hyn byddwn ni'n denu mwy o blant a phobl ifanc i gystadlu a mwynhau."

Ychwanegodd Non: "I bobl sy'n greadigol neu sy'n ymddiddori yn y celfyddydau mae yna ddiffyg cyfleoedd ar gael ym Mhen Llŷn, a dwi'n meddwl byddai'n neis cael rhywbeth arall sy'n cynnig y cyfle hynny."

Eu gobaith yw cynnal yr eisteddfod yn Nefyn yn flynyddol, gan greu digwyddiad cyson yn y Gymraeg sy'n cryfhau'r gymuned leol.

"Gobeithio byddai 'steddfod yn clymu'r gymdeithas 'nôl at ei gilydd," meddai Non.

"Mae rhai unigolion yn Nefyn yn teimlo bod twristiaeth wedi gwahanu'r gymdeithas oherwydd bod yna lawer o dai haf yma, ond gobeithio bydd yr eisteddfod yn gyfle i bobl ddod 'nôl at ei gilydd a dathlu bod ganddon ni rywbeth mor unigryw a sbesial agosach at adra."

Ychwanegodd Robin: "'Da ni yn amlwg yn angerddol dros yr iaith a diwylliant Cymru a 'da ni'n caru bod gennym ni draddodiad unigryw yma yng Nghymru.

"Mae'n bwysig bod ni'n dathlu ac yn ymfalchïo yn be' sy'n 'neud ni'n unigryw, ac yn wlad a chymuned sydd mor agos at ei gilydd.

"Felly dylai fod yn gyfle nid yn unig i ddathlu'r Gymraeg, ond rheiny sy'n rhan o'n cymuned ac sydd ddim yn siarad yr iaith ar hyn o bryd hefyd."

Llun y ganolfan yn NefynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Y Ganolfan yn Nefyn yn un o'r lleoliadau posib mae'r ddau yn gobeithio allai gynnal yr ŵyl

Mae'r ddau yn gobeithio dechrau yn y brifysgol cyn i'r ŵyl gyntaf cael ei chynnal.

Mae Non yn bwriadu astudio theatr ac ysgrifennu creadigol yn Llundain ym mis Medi, tra bod Robin yn gobeithio symud i Gaerdydd i astudio Cymraeg a newyddiaduraeth.

Ond ni fydd hynny'n stopio'r ddau rhag trefnu'r eisteddfod.

"Da ni'n gallu trefnu cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn," meddai Non, "ond byddwn ni'n dod yn ôl ac ymlaen i'r ardal hefyd i helpu.

"Ein gobaith ni yw dechrau hyn ac yna i weld o'n parhau am flynyddoedd i ddod efo pobl eraill yn cymryd drosodd sydd yr un oedran a ni rŵan i ofalu amdano fo."

Does dim dyddiad pendant gan y ddau ar gyfer unrhyw ddathliad cyntaf posib, ond maen nhw wedi dechrau meddwl am ffyrdd i godi'r arian fyddai angen i gynnal yr eisteddfod.

Maen nhw'n gobeithio symud gam yn nes yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor ddiwedd Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now